Mae Cymdeithas y Diwydiant Niwclear wedi croesawu sylwadau Boris Johnson am gynllun Wylfa, ar ôl iddo ddweud ei fod yn “mynd i ddigwydd”.

Daeth sylwadau prif weinidog y Deyrnas Unedig ddoe (dydd Llun, Ebrill 25), wrth iddo ymweld â’r gogledd fel rhan o ymgyrch y Ceidwadwyr ar drothwy’r etholiadau lleol.

Mae trafodaethau ar y gweill rhwng Llywodraeth y Deyrnas Unedig a dau gwmni yn yr Unol Daleithiau sydd wedi mynegi diddordeb mewn cynllun ar y safle, ond does dim cytundeb hyd yn hyn.

Tra bod Boris Johnson yn awyddus i fwrw iddi, mae Llafur wedi codi amheuon na fydd yn digwydd o gwbl, gan gyhuddo’r Llywodraeth o wneud “tro pedol”.

‘Canologol’

Yn ôl Tom Greatrex, prif weithredwr y Gymdeithas, mae sylwadau Boris Johnson yn “galonogol”.

“Mae Wylfa yn un o’r safleoedd gorau ar gyfer niwclear newydd yn y Deyrnas Unedig, gyda’r potensial i fod yn bwerdy carbon isel,” meddai.

“Mae’n galonogol iawn gweld hyn ym mlaen meddyliau’r llywodraeth ar gyfer ei ddatblygu, wrth i ni geisio cryfhau ein sicrwydd o ran ynni, symud i ffwrdd yn raddol o nwy sydd wedi’i fewnforio a sicrhau cyflenwad trydan sofran, diogel.

“Mae’n bwysig nawr fod y llywodraeth yn adeiladu ar yr arweiniad ddangoson nhw yn eu strategaeth sicrwydd ynni drwy ddileu’r rhwystrau i fwrw iddi â phrosiectau niwclear.”