Bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi cynllun heddiw (dydd Mawrth, Ebrill 26) i geisio lleihau amseroedd aros ar gyfer triniaethau.

Mae’r cynllun wedi’i lunio i helpu’r Gwasanaeth Iechyd i reoli’r apwyntiadau a’r triniaethau sydd wedi cronni yn ystod y pandemig, a lleihau amseroedd aros i bobol â chyflyrau iechyd nad ydyn nhw’n rhai brys.

Nod y cynllun yw sicrhau na fydd neb yn aros mwy na blwyddyn am driniaeth yn y rhan fwyaf o arbenigeddau erbyn Gwanwyn 2025.

Fe fydd y byrddau iechyd yn derbyn £60m o arian ychwanegol, a bydd cyfres o dargedau yn cael eu gosod ar eu cyfer.

‘Trawsnewid gofal’

Dywed Eluned Morgan, Ysgrifennydd Iechyd Cymru, fod angen “ymdrech ddwys” i sicrhau bod pobol sy’n aros am apwyntiadau a thriniaethau yn cael eu gweld cyn gynted â phosibl, ac yn nhrefn blaenoriaeth glinigol.

“Rydym yn ymrwymo £1bn yn ystod tymor y Senedd hon i helpu Gwasanaeth Iechyd Cymru i adfer wedi’r pandemig ac i drin pobol cyn gynted â phosibl,” meddai.

“Bydd lleihau amseroedd aros yn gofyn am atebion newydd, mwy o gyfarpar, cyfleusterau newydd a mwy o staff i helpu i roi diagnosis cyflym i bobol fel rhan o wasanaeth gofal a gynlluniwyd sy’n effeithiol ac yn effeithlon.

“Mae’r cynllun hwn yn nodi sut y byddwn yn trawsnewid gofal a gynlluniwyd fel bod yr achosion â’r mwyaf o frys yn cael blaenoriaeth.

“Yn anffodus, mae amseroedd aros a rhestrau aros wedi tyfu yn ystod y pandemig.

“Er y bydd yn cymryd amser hir a llawer o waith caled, rydym wedi ymrwymo i weithio gyda’n Gwasanaeth Iechyd ardderchog i sicrhau na fydd neb yn aros am fwy na blwyddyn am driniaeth yn y rhan fwyaf o arbenigeddau erbyn gwanwyn 2025.

“Yn ogystal â lleihau amseroedd aros, rydyn ni hefyd eisiau helpu pobol i ddeall a rheoli eu cyflyrau ac i deimlo eu bod yn cael eu cefnogi wrth iddynt aros am driniaeth.

“Mae hon yn dasg fawr – ond dyna ein ffocws am weddill y tymor hwn.”

Y cynllun

Wrth i Gymru symud tu hwnt i ymateb brys i’r pandemig, fydd dim angen i bobol fynd i’r ysbyty oni bai bod angen gofal, cyngor neu wasanaethau arnyn nhw nad oes modd eu darparu mor agos i’r cartref.

Y nod yw sicrhau bod 35% o’r holl apwyntiadau newydd a 50% o’r apwyntiadau dilynol yn cael eu cynnal yn rhithwir yn y dyfodol.

Elfen arall fydd darparu mwy o brofion diagnostig y tu allan i ysbytai ac yn agosach at gartrefi pobol, mewn lleoliadau gofal sylfaenol a chymunol, er mwyn arbed amser.

Bydd cynlluniau ar gyfer dwy ganolfan ddiagnostig gymunedol yn cael eu datblygu eleni, a bydd gwefan yn cael ei chreu i roi gwybodaeth a chefnogaeth i gleifion i’w galluogi i reoli eu cyflyrau eu hunain.

Bydd hyn yn helpu pobol i reoli eu hiechyd eu hunain ac yn golygu na fydd angen i gymaint ohonynt fynd yn ôl i’r ysbyty i gael triniaeth, meddai Llywodraeth Cymru.

‘Eisiau gweld newid’

Yr her, meddai’r Coleg Brenhinol y Meddygon, yw gweithredu’r cynllun.

“Rydyn ni’n gwybod bod y prinder staff cronig yn y Gwasanaeth Iechyd yn cyfyngu’r gallu i leihau’r ôl-groniad, ond does yna ddim manylion gwirioneddol ynghylch hynny,” meddai Dr Hilary Williams, cynghorydd rhanbarthol Coleg Brenhinol y Meddygon ar gyfer de-ddwyrain Cymru.

“Faint o ddoctoriaid, nyrsys, a gweithwyr iechyd fyddwn ni eu hangen yn y bum mlynedd nesaf, i gwrdd â rhai o’r targedau diagnosis a thriniaeth hyn?

“Mae clinigwyr yn ei chael hi’n anodd hefyd. Gall fod yn dorcalonnus. Ond dydyn ni ddim yn rhoi’r gorau iddi. Rydyn ni’n dal i fynd.

“Rydyn ni eisiau gweld newid – rydyn ni eisiau’r gorau i’n cleifion ac rydyn ni angen gwybod bod yna olau ar ddiwedd y twnnel. Rydyn ni eisiau cynllun gweithlu sy’n rhoi amser i staff ofalu’n iawn am eu cleifion.

“Mae gennym ni weithlu iechyd a gofal o’r radd flaenaf, ond rydyn ni angen mwy o bobol ar y rheng flaen.”

Mae yna rai strategaethau da yn y cynllun, meddai Dr Hilary Williams, ond gan ychwanegu bod angen cynlluniau manwl a chydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a’r proffesiwn.

‘Mater o fyw neu farw’

Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi beirniadu’r cynllun, gan ddweud bod angen sicrwydd y bydd yr arian ychwanegol yn mynd tuag at lenwi bylchau yng ngweithlu’r Gwasanaeth Iechyd.

“Yr wythnos ddiwethaf, fe welsom ni amseroedd aros adrannau brys ar eu gwaethaf a rhestr triniaethau Gwasanaeth Iechyd Cymru’n hirach nag erioed. Mae angen gwneud cymaint mwy,” meddai Russell George, llefarydd iechyd y blaid.

“Rydyn ni angen sicrwydd bod y cynllun hwn yn gwneud mwy na gosod plastr dros y problemau sydd wedi’u gwreiddio’n ddwfn.

“Mae’n rhaid inni gael sicrwydd y bydd yr arian ychwanegol yn mynd tuag at ddatrys y bylchau yng ngweithlu’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol, nid tuag at offer yn unig, mae’n ymwneud â’r bobol.

“Mae hwn yn fater o fyw neu farw i bobol yng Nghymru. Mae hi’n bryd i weinidogion Llafur drin y mater felly.”

‘Angen gweithredu’r cynllun’

Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi croesawu’r manylion yn y cynllun, ond maen nhw’n dweud eu bod nhw wedi clywed addewidion tebyg drwy gydol y 22 o flynyddoedd ers i Lafur ddod i rym yng Nghymru.

“Mae cleifion a staff angen sicrwydd y bydd y cynllun hwn yn cael ei weithredu ac y bydd y rhai sy’n gwneud penderfyniadau yn cael eu dal yn atebol os nad ydyn nhw’n cwrdd â thargedau,” meddai Jane Dodds, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru.

“Mae dal yn bryder mawr inni y gallai Cymru golli 80 allan o 160 meddyg teulu dan hyfforddiant eleni yn sgil polisïau mewnfudo hynafol y Ceidwadwyr a allai effeithio’n sylweddol ar y cynlluniau sydd wedi cael eu cyhoeddi heddiw.”

Mynd i’r afael â phrinder staff

Ychwanega Rhun ap Iorwerth, llefarydd iechyd Plaid Cymru, fod angen cynllun ar y Gwasanaeth Iechyd sy’n edrych ar bob agwedd ar daith y claf drwy’r sector iechyd a gofal.

“Mae’n rhaid i hyn ddechrau gyda mwy o bwyslais ar atal, er mwyn lleihau nifer y bobol sy’n chwilio am ofal iechyd yn y lle cyntaf, a rhaid iddo gynnwys cynlluniau i gefnogi cleifion sydd angen pecynnau gofal ar ôl cael triniaeth ysbyty, er mwyn rhyddhau gwelyau,” meddai.

“Dydy hi ddim yn glir os yw’r llywodraeth yn cymryd unrhyw gamau ychwanegol i fynd i’r afael â’r gweithlu difrifol ddiffygiol dros y sector iechyd a gofal.

“Er ein bod ni’n croesawu’r cymorth ychwanegol ar gyfer rhai sydd ar restrau aros, yn ogystal â’r pwyslais newydd ar ddiagnostig, mae’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru wirioneddol angen ac yn haeddu cynllun cynhwysol sy’n mynd i’r afael â holl siwrne’r claf, gan gynnwys y gweithlu sydd ei angen i ddarparu’r gwasanaeth.”

Dywed eu bod nhw’n croesawu gosod targedau newydd ar gyfer byrddau iechyd hefyd, ond y bydd rhaid asesu lefel yr uchelgais a dal Llywodraeth Cymru’n atebol i sicrhau eu bod nhw’n cyrraedd y targedau.