Mae gwaith ymchwil academaidd ar fin cychwyn er mwyn canfod beth sy’n achosi llygredd yn yr Afon Gwy, sy’n Ardal o Gadwraeth Arbennig. Mae’r afon yn ymestyn o ganolbarth Cymru dros y ffin i Loegr.

Yr wythnos ddiwethaf cyhoeddodd Ymddiriedolaeth y Gwy a’r Wysg eu bod yn sefydlu astudiaeth PhD am dair blynedd mewn partneriaeth â Phrifysgol Caerdydd, i gychwyn ym mis Mawrth.