Wrth siarad â golwg360, mae Mick Antoniw, Cwnsler Cyffredinol Cymru a Gweinidog y Cyfansoddiad, wedi lambastio Boris Johnson am ddatgelu lle bydd ymarferion milwrol yn cael eu cynnal gan luoedd y Gorllewin yn nwyrain Ewrop.

Bydd tua 8,000 o filwyr y Fyddin Brydeinig yn cymryd rhan mewn ymarferion ar draws dwyrain Ewrop.

Yn ymuno â nhw fydd degau o filoedd o filwyr NATO a’r Joint Expeditionary Force alliance, sy’n cynnwys y Ffindir a Sweden.

Bydd dwsinau o danciau’n cael eu darparu i wledydd megis y Ffindir a Gogledd Macedonia’r haf hwn o dan gynlluniau i ddarparu rhagor o arfau i Wcráin a hyfforddi eu milwyr gyda chyfarpar milwrol trwm.

Bydd milwyr hefyd yn cael eu hanfon i’r Ffindir, sy’n rhannu ffin 830 milltir gyda Rwsia, a bydd ymarferion yn cael eu cynnal ar y cyd gyda milwyr Americanaidd yng Ngwlad Pwyl.

‘Angen i filwyr Wcráin gael eu hyfforddi’

Fodd bynnag, roedd sylwadau Boris Johnson – wnaeth ddatgelu lle byddai llawer o’r ymarferion hyn yn digwydd – yn “dwp” ac “anghyfrifol”, yn ôl Mick Antoniw.

“Yr hyn sy’n glir ydi, wrth i wledydd Ewropeaidd a rhyngwladol ddarparu cyfarpar milwrol trymach i Wcráin, fod angen i filwyr Wcráin gael eu hyfforddi,” meddai wrth golwg360.

“Mae’n hanfodol bod milwyr Wcráin yn derbyn hyfforddiant gyda’r cyfarpar newydd hwn, nid yn unig i atal ymosodiadau Rwsia ond i ddechrau ail-gipio tir sydd wedi cael ei golli – gyn belled ag ydw i yn y cwestiwn, mae’r ddau beth yn mynd law yn llaw.

“Dw i’n meddwl bod y sylwadau wnaeth Boris Johnson yn eithriadol o dwp ac anghyfrifol.

“Mae’n amlwg bod yn rhaid i’r hyfforddiant yna fod ar waith, fel arall fydd pobol ddim yn gwybod sut i ddefnyddio’r cyfarpar sy’n eu cyrraedd.

“Ond mae’r ffaith fod y Prif Weinidog wedi trafod hynny mewn manylder, a dweud lle mae’r hyfforddiant yn digwydd ac yn y blaen, yn peri risg i bobol.

“Mae jyst yn enghraifft arall o sylwadau anghyfrifol mae e’n ei wneud o dro i dro heb ystyried yr oblygiadau, ond dyna ni.

“Does dim dwywaith bod Rwsia yn ymwybodol fod yr hyfforddiant yma yn mynd i orfod digwydd, ac wrth gwrs all Nato ddim cael eu gweld yn ymyrryd yn uniongyrchol nac yn anfon eu milwyr i mewn i Wcráin.

“Felly roedd yn amlwg bod yr hyfforddiant yn mynd i orfod digwydd y tu allan i Wcráin.

“Ond mae datgelu i bawb beth sy’n digwydd, lle mae’n digwydd a phryd mae’n digwydd yn weithred anghredadwy o anghyfrifol gan Brif Weinidog.”

‘Gwell hwyr na hwyrach’

Er ei fod yn falch o weld rhagor o gefnogaeth yn cael ei roi i Wcráin, mae Mick Antoniw o’r farn ei bod yn cyrraedd lawer rhy hwyr.

“Mi ddylai hyn fod wedi digwydd dau fis yn ôl, mi ddylai fod wedi digwydd ar ôl Crimea,” meddai.

“Mae’n mynd i gymryd amser nawr i ddod â’r cyfarpar i mewn, i hyfforddi a ffurfio strategaeth amddiffynnol effeithiol.

“All rhywun ddim helpu meddwl faint o fywydau allai fod wedi cael eu hachub, faint o ddinistr allai fod wedi cael ei hosgoi pe bai’r gefnogaeth wedi bod ar gael ynghynt.

“Mae’n gwbl amlwg nad oes gan Rwsia unrhyw ddiddordeb mewn cynnal trafodaethau adeiladol, felly mae’r gefnogaeth yn dod yn llawer hwyrach nag y dylai fod wedi dod.

“Ond dyna’r sefyllfa rydyn ni ynddi, gwell hwyr na hwyrach.”