Mae arweinwyr ysgolion yn galw am ariannu tecach i ysgolion yng Nghymru, ar ôl i undeb NAHT Cymru ddatgelu effaith lawn y pandemig ar lefelau staffio.

Mae’r undeb yn galw am “system addysg i Gymru sydd wedi’i hariannu’n llawn a theg”, gan ddweud y byddan nhw’n cydweithio â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i sicrhau hyn.

Daw hyn wrth i aelodau’r undeb ddod ynghyd yn eu cynhadledd flynyddol yn Telford yn Sir Amwythig heddiw (dydd Gwener, Ebrill 29).

Mae disgwyl i aelodau Cymreig amlinellu eu gweledigaeth ar gyfer dyfodol addysg ledled y wlad, cynnal dadleuon ynghylch amcanion allweddol o ran y cwricwlwm ac asesu, diwygio’r ddarpariaeth ar gyfer Anghenion Dysgu Ychwanegol, atebolrwydd, lles ac ariannu.

Argyfwng ariannu

Dywed yr undeb fod Cymru’n dioddef o argyfwng ariannu, ac y byddan nhw’n mynnu bod gan bob ysgol gyllideb graidd gynaliadwy sy’n sicrhau dysgu ac addysgu effeithiol i bawb, waeth beth fo’u hanghenion.

Maen nhw’n dadlau bod rhaid sicrhau bod adnoddau ar gael i gefnogi dysgu ac addysgu rheng flawn, i gyflwyno’r cwricwlwm newydd ac i gyflwyno’r system Anghenion Dysgu Ychwanegol newydd.

Bydd y gynhadledd hefyd yn clywed bod athrawon wedi elwa ar gynnydd o 1.75% yn eu cyflog, er gwaetha’r ffaith fod Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi rhewi cyflogau’r sector cyhoeddus, ond mai ar ysgolion ac awdurdodau lleol mae’r faich ariannol o wneud hyn.

Mae arweinwyr ysgolion yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymrwymo’n llawn i ariannu’r codiad cyflog.

Galw am yr un gefnogaeth ag y mae athrawon yn ei rhoi

Yn ôl Kerina Hanson, Llywydd NAHT Cymru, mae athrawon wedi dioddef yn sgil sawl blwyddyn anodd, ond “dydyn nhw ddim wedi oedi cyn camu i fyny dros ein dysgwyr”.

“Mae’n hanfodol eu bod nhw’n derbyn yr un gefnogaeth gan y llywodraeth yn gyfnewid am hynny – yn enwedig wrth i ni fynd i mewn i gam nesa’r diwygiad ac adferiad,” meddai.

“Mae ysgolion dan gryn bwysau – mae angen i’r llywodraeth wneud mwy i’w cefnogi nhw, neu mae perygl y bydd y system yn torri i lawr.”

Mae NAHT Cymru hefyd yn cyhoeddi canlyniadau arolwg o’u haelodau heddiw (dydd Gwener, Ebrill 29), sy’n ymchwilio i nifer y staff mewn ysgolion sy’n absennol oherwydd Covid-19.

Ar gyfartaledd, yn ystod yr ugain diwrnod ysgol rhwng Chwefror 28 a Mawrth 25, roedd gan ysgolion gyfartaledd o bedwar o athrawon, chwech o athrawon cynorthwyol a thri aelod arall o staff yn absennol.

Y gost ddyddiol ar gyfartaledd o sicrhau athrawon cyflenwi yw £169, athrawon cynorthwyol cyflenwi’n £78 a staff arall oddeutu £50 y dydd.

Gyda 1,200 o ysgolion cynradd yng Nghymru, mae’r undeb yn rhybuddio y gallai’r costau hyn gyrraedd degau o filoedd o bunnoedd.

Mae hi’n fwy anodd darogan y gost i ysgolion uwchradd o ganlyniad i niferoedd uchel o staff a staff cynorthwyol sydd wedi’u cyflogi.

Hyd at ddiwedd mis Mawrth, roedd modd i ysgolion hawlio’r costau yn ôl gan yr awdurdod lleol drwy Gronfa Galedi’r Llywodraeth, gyda Llywodraeth Cymru hefyd yn rhoi 9% ychwanegol o arian i awdurdodau lleol drwy grantiau refeniw.

Ond mae nifer o ysgolion yn nodi nad yw absenoldebau yn sgil Covid-19 wedi cael digon o sylw wrth gyllidebu, ac maen nhw’n poeni y bydd arian yn cael ei lyncu wrth dalu’r costau ychwanegol hyn.

‘Anghynaladwy’

“Yn syml iawn, all ysgolion ddim cynnal y faich ariannol hon o’r cyllidebau presennol,” meddai Laura Doel, Cyfarwyddwr NAHT Cymru.

“Ar y gorau, mae gan ysgolion yswiriant a allai, o bosib, ddatrys absenoldebau hirdymor staff, ond dydy polisïau nifer o ysgolion ddim yn dechrau am bum neu ddeng niwrnod, neu ond ar gael i gyflenwi athrawon ac nid aelodau eraill o staff, a bydd yr ysgolion hynny hyd yn oed yn gorfod talu’r gost tymor byr sylweddol,” meddai.

“Mae’n rhaid i arweinwyr ysgolion gamu’n ôl i mewn i’r ystafell ddosbarth i gyflenwi mewn dosbarthiadau mewn ymgais i arbed arian.

“Hyd yn oed pe bai gan ysgolion yr arian, maen nhw’n dal i’w chael hi’n anodd dod o hyd i athrawon i gyflenwi.

“Yr hyn rydyn ni eisiau ei weld yw mwy na chydnabyddiaeth gan Lywodraeth Cymru, awdurdodau lleol, consortia ac Estyn fod Covid yn parhau i gael effaith wirioneddol ar ysgolion.

“Rydyn ni eisiau gweld mwy o gamau’n cael eu cymryd i leihau’r pwysau.

“Does dim modd disgwyl i ysgolion weithredu yn ôl eu harfer a chadw i fyny ag agenda diwygio addysg uchelgeisiol pan fo nifer yn dal i weithredu fel pe bai’n argyfwng.”