Mae cadeirydd TAC, sy’n cynrychioli cynhyrchu teledu annibynnol yng Nghymru, wedi croesawu Papur Gwyn Llywodraeth y Deyrnas Unedig sy’n trafod dyfodol S4C, ond yn dweud bod dileu statws Channel 4 fel cyhoeddwr-ddarlledwr “yn peri pryder”.
Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn dweud eu bod nhw am ehangu gorchwyl gwasanaeth cyhoeddus S4C i gynnwys gwasanaethau digidol ac ar-lein ac i ddileu’r cyfyngiadau darlledu daearyddol presennol.
Daeth cadarnhad gan y Llywodraeth ar Ionawr 17 fod y sianel wedi derbyn setliad ar gyfer y chwe blynedd nesaf, sy’n cynnwys £88.8m am y ddwy flynedd gyntaf, gan godi yn ôl chwyddiant wedyn.
Mae hefyd yn cynnwys ymrwymiad o £7.5m y flwyddyn i gefnogi datblygiad digidol S4C.
Yn ôl y Llywodraeth, bydd y setliad “yn galluogi S4C i barhau i gefnogi economi, diwylliant a chymdeithas Cymru, cyrraedd mwy o siaradwyr Cymraeg gan gynnwys cynulleidfaoedd iau, ac ymrwymiad y Llywodraeth i gefnogi’r nod o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050”.
Yn eu cyhoeddiad heddiw, mae’r Llywodraeth yn dweud bod ehangu’r gorchwyl i gynnwys gwasanaethau digidol ac ar-lein a dileu’r cyfyngiadau daearyddol yn helpu S4C i ehangu’r gynulleidfa y mae modd ei chyrraedd, ac i gynnig cynnwys ar amrywiaeth ehangach o lwyfannau yn y Deyrnas Unedig a thu hwnt.
Maen nhw’n dweud ymhellach y bydd gan y sianel fwy o eglurder ynghylch eu gallu i fuddsoddi a chynhyrchu refeniw masnachol, ac y byddan nhw’n deddfu er mwyn cefnogi S4C a’r BBC i symud i ffwrdd o’r drefn bresennol sy’n gofyn bod y BBC yn darparu nifer penodol o oriau o raglenni i S4C, fel bod modd iddyn nhw ddod i gytundeb rhyngddyn nhw i adlewyrchu’r ffyrdd newydd mae’r gynulleidfa’n cael mynediad at gynnwys.
Ceisio trafodaeth
“Rydym yn croesawu ymrwymiad y Llywodraeth i ddiogelu’r gyfundrefn telerau masnach presennol, sydd wedi arwain at lwyddiant ysgubol y sector cynhyrchu teledu annibynnol yn y DU drwy ganiatáu iddynt fanteisio’n llawn ar eu heiddo deallusol,” meddai Dyfrig Davies, cadeirydd TAC.
“Rydym hefyd yn croesawu’r ymrwymiad i sicrhau amlygrwydd darlledu gwasanaeth cyhoeddus ar ystod ehangach o lwyfannau, a fydd yn helpu ein holl ddarlledwyr darlledu gwasanaeth cyhoeddus gan gynnwys S4C.
“Rydym yn nodi’r penderfyniad i ddiwygio cylch gwaith Darlledu Gwasanaeth Cyhoeddus a byddwn yn edrych ymlaen at ymgysylltu ar hynny dros ystod y misoedd nesaf.
“Fodd bynnag, mae dileu statws cyhoeddwr-ddarlledwr Channel 4 yn peri pryder, gan ei fod yn fuddsoddwr sylweddol mewn cynyrchiadau annibynnol a thalent newydd ledled y Deyrnas Unedig.
“Tra bod y Llywodraeth yn dweud y bydd ymrwymiadau Channel 4 y tu allan i Lundain yn parhau, nid yw’n glir sut bydd hyn yn cael ei gyflawni os yw’n gwneud hyd at 75% o’i chynnwys yn fewnol, a fydd yn anochel mewn nifer gymharol fach o ganolfannau cynhyrchu.
“Yn 2019 cyfrannodd Channel 4 £20m i Werth Ychwanegol Crynswth (GVA) yng Nghymru gan gefnogi 200 o swyddi.
“Mae buddsoddiad cychwynnol Channel 4 mewn cwmnïau cynhyrchu o Gymru yng Ngogledd a De Cymru wedi tyfu a datblygu busnesau creadigol.
“Byddwn felly yn ceisio trafod manylion y cynigion hyn gyda’r Llywodraeth, cyn unrhyw ddeddfwriaeth.”