Mae cynghorau sir yn y gogledd wedi cael eu cyhuddo o weithredu’n “anghyfreithlon” wrth atal cartrefi gofal rhag derbyn yr arian hanfodol sydd ei angen arnyn nhw i ofalu am bobol fregus ac eiddil.

Yn ôl Fforwm Gofal Cymru, mae llawer o awdurdodau lleol yn torri’r canllawiau swyddogol sy’n nodi bod angen iddyn nhw “ystyried y costau dilys y mae darparwyr yn eu hwynebu ar hyn o bryd ac yn y dyfodol”.

Ar wahân i fod yn annheg, dywed Fforwm Gofal Cymru hefyd ei bod yn “rhagrithiol iawn” oherwydd bod cynhorau yn aml yn talu llawer mwy i’w cartrefi gofal eu hunain sy’n cael eu rhedeg gan y Cyngor am ddarparu’r un lefel o ofal.

Roedd camreoli gofal cymdeithasol dros chwarter canrif wedi arwain at loteri cod post o ffioedd a rhaniad cynyddol rhwng y gogledd a’r de.

Ond cyrhaeddodd y berthynas bwynt isel newydd ychydig wythnosau yn ôl, pan ymddiswyddodd Fforwm Gofal Cymru o Grŵp Gosod Ffioedd Gogledd Cymru – a oedd hefyd yn cynnwys cynrychiolwyr o’r chwe awdurdod lleol yn y gogledd a’r bwrdd iechyd – ymysg honiadau bod cynghorau’r rhanbarth yn mynd am yn ôl o ran blaenoriaethu gofal, er eu bod nhw wedi cael mwy o arian gan Lywodraeth Cymru i dalu amdano.

Dywedodd Mario Kreft, cadeirydd Fforwm Gofal Cymru, fod rhai cynghorau yn ne Cymru yn mynd yn groes i’r duedd hon ac yn dechrau cynnig ffioedd mwy realistig.

Y diweddaraf oedd Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful lle’r oedd cynghorwyr wedi pleidleisio o blaid cynnydd o rhwng 16 a 22 y cant.

Cytunwyd ar y codiadau ar ôl astudio adroddiad gan swyddogion o’r sefyllfa gyfreithiol a oedd yn golygu bod rheidrwydd cyfreithiol arnynt i dalu ffioedd cynaliadwy i ddarparwyr.

Cafodd cynghorwyr wybod fod dyletswydd arnyn nhw i gydymffurfio â gofynion Llywodraeth Cymru wrth osod ffioedd cartrefi gofal.

Adroddiad

Yn ôl yr adroddiad, “Rhaid i’r broses o bennu ffioedd ystyried y costau dilys y mae darparwyr yn eu hwynebu ar hyn o bryd ac yn y dyfodol yn ogystal â’r ffactorau sy’n effeithio ar y costau hynny, a’r potensial ar gyfer gwell perfformiad a ffyrdd mwy cost effeithiol o weithio.

“Mae angen i’r ffioedd a bennir fod yn ddigonol i alluogi darparwyr i fodloni’r manylebau a osodwyd gan y comisiynwyr, ynghyd â gofynion rheoleiddio.

“Os bydd Cyngor yn gwyro oddi wrth yr arweiniad heb benderfyniad ystyriol a rhesymegol gadarn yna mae’n gweithredu’n anghyfreithlon a gellir ei herio a gofyn am adolygiad barnwrol.”

Yn ôl Mario Kreft, mae’r adroddiad yn ategu’r hyn maen nhw wedi bod yn ei ddweud ers tro.

“Mae’r adroddiad rhagorol hwn i gynghorwyr Merthyr yn ategu’r hyn yr ydym wedi bod yn ei ddweud o’r dechrau’n deg ac yn pwysleisio bod y tanariannu parhaus ar ofal cymdeithasol mewn sawl rhan o Gymru yn gwbl anghyfreithlon,” meddai.

“O’r diwedd rydym yn gweld rhai cynghorau yn ne Cymru yn edrych yn iawn ar eu strwythurau ffioedd ac yn cydnabod gwir gost darparu gofal i’r bobl fwyaf bregus yn ein cymunedau.

“Yn anffodus, nid yw’n ymddangos bod y neges yn cyrraedd y cynghorwyr yng ngogledd Cymru a rhai rhannau o dde Cymru sy’n byw â’u pennau yn y cymylau o ran talu ffioedd realistig a fydd yn galluogi cartrefi gofal i aros ar agor a darparu gwasanaeth mawr ei angen ac sy’n sylfaen i’r GIG.

“Yr unig ffordd y gall cartrefi gofal barhau i fod yn hyfyw yw trwy godi tâl ar ben ffioedd fel y gallan nhw gwrdd â’r costau ychwanegol hynny.

“Yn anochel, mae’r cynghorwyr hynny’n gosod y baich ar deuluoedd gonest, gweithgar ac mae’r cyfan yn ychwanegu at dreth lechwraidd arnyn nhw ar adeg pan fo costau byw yn mynd drwy’r to.”

Cynghorau

Mae’r dadansoddiad “ffrwydrol” gan Gyngor Merthyr yn dilyn cyhoeddiad am gynnydd mawr yn eu cyfraddau gan Gyngor Torfaen – 17 y cant ar gyfer gofal preswyl a 25 y cant ar gyfer gofal nyrsio.

Mae’n golygu y bydd cartref gofal 50 gwely yn Nhorfaen yn derbyn £546,000 y flwyddyn yn fwy am ddarparu gofal preswyl i’r henoed bregus eu meddwl na chartref o faint tebyg yn Ynys Môn, Wrecsam a Sir y Fflint am yr un lefelau gofal yn union.

Yn achos Sir Ddinbych a Gwynedd, mae’n cyfateb i £494,000 ychwanegol y flwyddyn a £444,600 yn fwy na chartref yng Nghonwy.

Daw hyn ar adeg pan fo awdurdodau lleol yng Nghymru wedi derbyn £36.5m ychwanegol i gwrdd â’r costau ychwanegol o dalu’r Cyflog Byw Gwirioneddol o £9.90 yr awr i staff.

Yn gyffredinol, bu cynnydd cyffredinol o 9.4% yng nghyllid awdurdodau lleol ond mae’r cynnydd mewn lefelau ffioedd yn y mwyafrif llethol o gynghorau wedi bod yn is na hynny, sef 6-7.5%.

Roedd yn amlwg bod awdurdodau lleol yn y Gogledd yn dewis peidio â throsglwyddo’r cyllid ychwanegol i reng flaen gofal cymdeithasol.

‘Rhaniad cynyddol rhwng y gogledd a’r de’

“Rydyn ni’n gwybod bod cyllidebau dan bwysau ond bydd cymdeithas yn cael ei barnu ar sut y mae’n trin y bobol fwyaf bregus ac eiddil yn ein cymunedau,” meddai Mario Kreft wedyn.

“Sut y mae’n iawn, yng ngolwg cynghorwyr gogledd Cymru, bod eich mam, eich tad neu eich nain a’ch taid yn cael eu gweld fel rhai sydd werth £12,000 y flwyddyn yn llai na’r rhai yn rhywle fel Torfaen?

“Mae’r rhaniad cynyddol rhwng y gogledd a’r de yn golygu bod ein preswylwyr cartrefi gofal annwyl yn cael eu diystyru fel dinasyddion eilradd ac mae hefyd yn sarhad ar ein gweithlu rheng flaen ardderchog sydd wedi bod yn arwrol o’r cychwyn cyntaf yn ystod y pandemig.

“Mae cynghorau Merthyr a Thorfaen i’w canmol am eu hagwedd deg ac oleuedig ac ni allwn ond gobeithio y bydd hyn yn codi cywilydd ar awdurdodau gogledd Cymru i wneud y peth iawn o’r diwedd.”