Bydd syniadau ar gyfer prosiectau uchelgeisiol i dorri allyriadau carbon y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru’n derbyn cyfran o gronfa gwerth £2.4m fel rhan o ymrwymiad Llywodraeth Cymru i fynd i’r afael â newid hinsawdd.

Mae’r Rhaglen Genedlaethol Argyfwng yr Hinsawdd Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn awyddus i ariannu prosiectau’r byrddau iechyd a sefydliadau’r Gwasanaeth Iechyd er mwyn torri traean oddi ar eu hallyriadau carbon erbyn 2030.

Mae’r Gwasanaeth Iechyd yn cynhyrchu’r hyn sy’n gyfwerth â thua miliwn tunnell o garbon deuocsid y flwyddyn, ac mae’n allyrwr mwya’r sector cyhoeddus yng Nghymru.

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru gynllun gweithredu strategol ar ddatgarboneiddio’r Gwasanaeth Iechyd y llynedd, a hwnnw’n cynnwys 46 o fentrau i helpu’r Gwasanaeth Iechyd i gyrraedd y nod o gyfrannu at uchelgais 2030.

Bydd hyn hefyd yn helpu Cymru i fod yn sero-net erbyn 2050.

Roedd y strategaeth yn cynnwys cerbydau fflyd trydan, goleuadau carbon isel yn holl adeiladau’r Gwasanaeth Iechyd, lleihau’r defnydd o nwyon niweidiol a dylunio system iechyd a gofal cymdeithasol sydd mor garbon isel â phosib.

‘Diogelu iechyd a lles cenedlaethau’r dyfodol’

“Gan fod Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru yn cynhyrchu mwy o garbon deuocsid na’r un corff arall yn y sector cyhoeddus, mae angen iddo chwarae ei ran i ddiogelu iechyd a lles cenedlaethau’r dyfodol,” meddai Judith Paget, Prif Weithredwr Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru.

“Gallwn ni i gyd helpu’r ymdrech hon drwy ddychwelyd meddyginiaeth sydd heb ei defnyddio i’r fferyllfa, gofyn am anadlydd mwy cynaliadwy neu gerdded, beicio neu ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus i fynd i apwyntiadau.

“Rydym hefyd yn annog ceisiadau gan gyrff y Gwasanaeth Iechyd am hyd at £60,000 yn y flwyddyn gyntaf ar gyfer mentrau bach a chanolig i leihau allyriadau carbon neu helpu’r sector i addasu i effeithiau’r newid yn yr hinsawdd.”

Anadlyddion

Un ffordd mae’r Gwasanaeth Iechyd yn ceisio lleihau allyriadau carbon yw lleihau’r defnydd o anadlyddion sydd â photensial cynhesu byd-eang uchel, o fwy na 70% i lai nag 20% erbyn 2025.

Gall pobol sy’n defnyddio anadlyddion ofyn am gael newid o anadlydd cyffredin i opsiwn carbon isel.

“Hyd yma, mae llawer o’r gwaith i wneud ein gofal iechyd yng Nghymru yn fwy cynaliadwy ac yn fwy doeth o ran yr hinsawdd wedi bod yn wirfoddol, gyda grwpiau gwyrdd ysbytai a rhwydweithiau gwyrdd arbenigol yn cael eu datblygu ar draws Cymru, fel rhan o’n rhwydwaith Iechyd Gwyrdd Cymru,” meddai Dr Thomas Downs, Meddyg Iau a sylfaenydd Grŵp Gwyrdd Ysbyty Gwynedd, un o Gymrodyr Comisiwn Bevan ac aelod o dîm Iechyd Gwyrdd Cymru.

“Bydd y cyllid hwn gan Lywodraeth Cymru yn cael ei groesawu’n fawr gan y dylai gynyddu gallu gweithwyr iechyd i weithredu. Y gobaith yw y bydd hyn yn ein galluogi i drosi’n gynt at ofal iechyd mwy amgylcheddol gynaliadwy a chadarn.

 “A ninnau’n weithwyr iechyd, rydym yn cydnabod bod iechyd a lles pobl, a’n gallu i ddarparu gofal iechyd cynaliadwy, yn dibynnu ar hinsawdd a byd natur iach. O ganlyniad, mae ein dyletswydd broffesiynol i “wneud dim niwed” yn mynd y tu hwnt i’n clinigau a’n hysbytai i’r amgylchedd yr ydym yn ei rannu ac y mae iechyd a lles ein cleifion yn dibynnu arno.”

Rhaid i brosiectau sy’n gymwys ar gyfer cyfran o’r £2.4m ddangos eu hymrwymiad i’r uchelgais i sector cyhoeddus Cymru fod yn sero-net erbyn 2030, a/neu cynyddu gwytnwch i effaith newid hinsawdd drwy:

  • gefnogi cyfathrebu, ymgysylltu neu weithgarwch newid ymddygiad sy’n helpu i ymgorffori’r agenda newid hinsawdd o fewn y sefydliad, a/neu
  • gyrru’r broses o gyflwyno cynlluniau datgarboneiddio’r sefydliad, gan gynnwys ariannu mentrau neu swyddi penodol, a/neu
  • darparu arian i fentrau neu weithgarwch arloesol bach neu ganolig ar lawr gwlad.