Mae Plaid Cymru’n galw polisi Llywodraeth Cymru o wrthod profion i gartrefi gofal ar ddechrau’r pandemig yn “sgandal genedlaethol”.

Daw hyn ar ôl i’r Uchel Lys ddyfarnu bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi torri’r gyfraith drwy fethu â gwarchod mwy na 20,000 o breswylwyr cartrefi gofal a fu farw ar ôl dal Covid-19.

Arweiniodd hyn at y gwrthbleidiau yng Nghymru yn galw drachefn am ymchwiliad Covid-19 penodol i Gymru, gan ddadlau bod yr un drefn wedi bod ar waith yng Nghymru a bod profion torfol wedi cael eu mewn cartrefi gofal fis ar ôl Lloegr.

Bellach, mae Plaid Cymru o’r farn fod Llywodraeth Cymru hefyd wedi torri’r gyfraith.

“Sgandal genedlaethol”

“Roedd Plaid Cymru yn gyson yn ein galwad am brofion cyffredinol mewn cartrefi gofal, ac yn galw am brofion i bobol oedd yn dod allan o’r ysbyty i gartrefi gofal,” meddai Delyth Jewell

“Dywedodd Llywodraeth Cymru wrthym bryd hynny nad oedd sail glinigol i hyn.

“Daeth eu tro pedol yn rhy hwyr i ormod o bobol.

“Mae’r dyfarniad uchel lys hwn yn dangos nad oedd eu penderfyniad yn anghywir yn unig, mae’n ddigon posibl ei fod yn anghyfreithlon.

“Ar y pryd roedden ni’n galw hyn yn ddim byd llai na sgandal genedlaethol.

“Gellir codi cwestiynau’n gyfreithlon erbyn hyn ynghylch a oedd hyn nid yn unig yn warthus, ond yn anghyfreithlon hefyd.”

Ychwanega Rhun ap Iorwerth, llefarydd iechyd Plaid Cymru, fod y “dyfarniad uchel lys hwn yn ein hatgoffa o bwysigrwydd ymchwiliad Covid-19, oherwydd defnyddiwyd yr un arferion gan Lywodraeth Lafur Cymru ar gyfer cleifion yng Nghymru”.

“Byddai cael y persbectif Cymreig wedi’i gipio’n briodol yn rhoi rhywfaint o sicrwydd i anwyliaid y rhai a gollwyd, a byddai’n amhrisiadwy o ran deall sut i ddysgu gwersi ar gyfer y dyfodol,” meddai.

‘Cyngor gwyddonol’

“O ddechrau’r pandemig, rhoddwyd ystod eang o gefnogaeth i breswylwyr mewn cartrefi gofal, gan gynnwys darparu staff nyrsio ychwanegol lle bo angen, cefnogi gyda mesurau rheoli heintiau a darparu cyfarpar diogelu personol am ddim ar gyfer pob cartref gofal preifat a chyhoeddus yng Nghymru,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru wrth ymateb.

“Ers dechrau’r pandemig, mae ein dull gweithredu wedi’i lywio gan y cyngor gwyddonol diweddaraf sydd ar gael i gadw pobol yn ddiogel, lle bynnag y maent yn byw.

“Wrth i’r sylfaen dystiolaeth ryngwladol am coronafeirws esblygu, rydym wedi parhau i ddiweddaru ein dull o ddysgu gwersi ar gyfer y dyfodol, a sicrhau ein bod yn parhau i wneud popeth o fewn ein gallu i gadw pobl yng Nghymru yn ddiogel.”