Mae’r Aelod Seneddol Ceidwadol Jamie Wallis wedi cael ei gyhuddo o bedair trosedd yrru, yn dilyn gwrthdrawiad yn ei gar fis Tachwedd y llynedd.

Roedd yr heddlu wedi bod yn ymchwilio i wrthdrawiad a ddigwyddodd yn Llanbleddian ger Y Bont-faen yn ystod oriau mân Tachwedd 28.

Cadarnhaodd llefarydd ar ran Heddlu’r De fod Jamie Wallis, 37 oed o’r Bont-faen, wedi cael ei gyhuddo o fethu â stopio yn dilyn gwrthdrawiad traffig ar y ffordd, methu â rhoi gwybod i’r awdurdodau am y gwrthdrawiad, gyrru heb dalu sylw, a gadael cerbyd mewn safle peryglus.

Mae disgwyl i’r aelod seneddol, sy’n cynrychioli Pen-y-bont ar Ogwr, fynd gerbron Llys Ynadon Caerdydd ar Fai 10.

Cefndir

Fe dderbyniodd Jamie Wallis ganmoliaeth am ei ddewrder ar ôl cyhoeddi ei fod yn draws ddiwedd mis Mawrth.

Mewn datganiad, dywedodd ei fod e wedi cael diagnosis o ddysfforia rhywedd, a’i fod e wedi bod yn teimlo felly ers oedd e’n blentyn ifanc.

Fodd bynnag, datgelodd ei fod wedi cael ei flacmelio yn 2020.

“Ychydig fisoedd yn ôl, ym mis Medi, fe wnes i ‘fynd efo’ rhywun y gwnes i gyfarfod ar-lein a phan benderfynais i ddweud ‘na’ ar y sail ei fod yn gwrthod gwisgo condom, fe wnaeth e fy nhreisio,” meddai.

“Dw i heb fod yn fi’n hun ers y digwyddiad hwn a dw i ddim yn meddwl y gwna i fyth wella. Dyw e ddim yn rhywbeth rydych chi yn ei anghofio byth, a dyw e ddim yn rhywbeth rydych chi fyth yn symud ymlaen oddi wrtho.

“Ers hynny, mae pethau wedi dechrau dirywio. Dw i ddim yn iawn.”

PTSD

“Pan gefais i wrthdrawiad car ar Dachwedd 28, fe wnes i ddianc. Fe wnes i hynny oherwydd roedd gen i ofn ofnadwy,” meddai wrth drafod y gwrthdrawiad.

“Mae gen i PTSD, a does gen i wirioneddol ddim syniad be oeddwn i’n ei wneud oni bai fy mod i wedi fy llethu gan ofn llethol.

“Dw i’n sori ei bod hi’n ymddangos fy mod i wedi ‘rhedeg i ffwrdd’ ond nid felly y digwyddodd pethau ar y pryd.”

Canmoliaeth i ddewrder Aelod Seneddol ar ôl iddo gyhoeddi ei fod yn draws

“Dw i wedi cael diagnosis o ddysfforia rhywedd a dw i wedi teimlo fel hyn ers oeddwn i’n blentyn ifanc iawn,” medd Jamie Wallis