Mae adroddiad sydd newydd gael ei gyhoeddi yn argymell ymchwilio i bwysigrwydd gemau fideo wrth i Lywodraeth Cymru geisio cyrraedd eu nod o Filiwn o Siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

Daw’r adroddiad gan Brifysgol De Cymru i’r casgliad bod angen cymorth wedi’i dargedu ar y sector, gan gynnwys datblygu talent ymhlith graddedigion newydd, cynlluniau mentora a chefnogaeth ar gwmnïau i dyfu er mwyn i’r diwydiant gemau fideo ddod yn un cadarn a chynaladwy.

Mae Arolwg Gemau Clwstwr 2021 yn rhan o raglen bum mlynedd sydd â’r nod o roi arloesi wrth galon gwaith cynhyrchu yn y cyfryngau yn ne Cymru.

Dyma’r arolwg cynhwysfawr cyntaf o’r maes yng Nghymru, ac mae’n tynnu sylw at heriau sgiliau ac anghenion hyfforddiant y diwydiant, yn amlinellu hyfforddiant ac addysg ôl-16 sydd ar gael, ac yn adnabod mentrau adnabod talent fel bod modd datblygu gemau yng Nghymru ac ar draws y Deyrnas Unedig.

Mae’r adroddiad hefyd yn archwilio ffynonellau o arian i gefnogi arloesi ym maes gemau fideo, ac yn adnabod prif heriau’r diwydiant.

Argymhellion

Gyda mwy o chwaraewyr gemau fideo nag erioed o’r blaen – 2.9bn yn 2021 – ac yng nghyd-destun y disgwyl y bydd y farchnad fyd-eang yn werth 200bn o ddoleri erbyn 2023, mae’r adroddiad yn gwneud cyfres o argymhellion i helpu’r sector i wireddu ei botensial o ran twf.

Yn eu plith mae:

  • sicrhau bod mentrau priodol yn eu lle i gefnogi cwmnïau newydd, gyda chynlluniau mentora strwythuredig ar gyfer busnesau bach a chefnogaeth i dyfu wedi’i thargedu at gwmnïau sydd wedi’u sefydlu mwy;
  • cynllun i sicrhau gwelliant yn nefnydd y sector o gymorth busnes, gan sicrhau bod gwybodaeth yn cael ei hybu o fewn y gymuned a bod y gefnogaeth sydd ar gael yn addas at y pwrpas;
  • cyflwyno prentisiaethau uwch neu raddedig i ddatblygu gemau neu ar gyfer celf gemau yng Nghymru, gan alluogi Addysg Bellach, Addysg Uwch a’r diwydiant i adeiladu llwybrau gyrfaoedd hygyrch;
  • asesiad gan Lywodraeth Cymru o fanteision defnyddio gemau fideo fel rhan o Strategaeth Cymraeg 2050, gan roi ystyriaeth i’r cyfleoedd niferus mae’n eu cynnig o ran rhoi diwylliant, mytholeg, hanes ac iaith yn y farchnad fyd-eang;
  • gwella isadeiledd digidol Cymru, gan gynnwys cyflymdra a hygyrchedd band llydan, i helpu i gefnogi datblygiad cynnwys ar gyfer gweithio hybrid ac o bell.

Cafodd yr adroddiad ei lunio gan Richard Hurford, Arweinydd Cwrs MA Mentergarwch Gemau ym Mhrifysgol De Cymru a Chyd-Ymchwilydd Clwstwr, ar y cyd â’r Athro Ruth McElroy, Pennaeth y Diwydiannau Creadigol ym Mhrifysgol De Cymru a Chyd-Gyfarwyddwr Clwstwr.

Cafodd eu hymchwil ei gynnal ochr yn ochr ag Arolwg Sgrin Cymru 2021 a Gwaith Sgrin, a roddodd fewnwelediad i’r sector ffilm a theledu yng Nghymru.

Ymateb

“Mae’r adroddiad hwn yn cynnig llwyfan i dynnu sylw at effaith y sector gemau yng Nghymru ac i barhau â’r gwaith i gefnogi datblygu talent,” meddai Richard Hurford.

“Mae angen i’r diwydiant a sefydliadau’r sector cyhoeddus fuddsoddi i ddarparu sgiliau gwell i gefnogi sector gemau fideo cynaliadwy yng Nghymru ac i fanteisio ar y galw sy’n tyfu’n gyflym am sgiliau gemau ledled y secor sgrin cyfan, gan gynnwys meysydd megis cynhyrchu rhithiol.

“Mae sefydlu twf cynaliadwy yn y gymuned yn hanfodol i helpu i greu diwydiant llwyddiannus a chadarn, a gyda’r gefnogaeth a’r hyfforddiant cywir yn eu lle, mae’r dyfodol yn edrych yn llewyrchus.”

Mae Cymru Greadigol wedi croesawu’r adroddiad.

“Bydd y data hwn yn ddefnyddiol iawn i’n cynlluniau i gefnogi sgiliau a datblygu talen, tyfu busnesau a’r potensial ehangach i dechnoleg gemau gael effaith ar ystod o sectorau, o ffilm a theledu i iechyd ac addysg,” meddai Paul Osbaldeston, Arweinydd Digol a Rheolwr Datblygu Sector Cymru Greadigol.

“Mae Cymru Greadigol yn ystyried y diwydiant gemau yn strategol bwysig, ac mae’n un o’n pedwar sector blaenoriaeth.”