Mae’r Mudiad Meithrin wedi codi bron i £6,200 i apêl Wcráin Unicef drwy ofyn i Gylchoedd Meithrin godi arian.

Gofynnodd y Mudiad i Gylchoedd drwy Gymru gyfrannu £10 at eu hapêl, ac yna cyfrannu swm yn cyfateb i’r swm terfynol ei hun.

Mi aeth rhai Cylchoedd ati i drefnu rhyw fath o ddigwyddiad lleol, fel Cylch Meithrin Glan y Môr a fu’n gwisgo lliwiau baner Wcráin i gefnogi’r apêl.

Y cyfanswm oedd £6,191.

“Mae yna draddodiad hir ac anrhydeddus o fewn Mudiad Meithrin o fod yn codi arian ar gyfer gwahanol ymgyrchoedd dyngarol ac elusennol,” meddai Dr Gwenllian Lansdown, Prif Weithredwr Mudiad Meithrin.

“Mae’r apêl ddiweddar i godi pres i ymgyrch Unicef yn Wcráin yn rhan o’r traddodiad hwnnw.”

‘Gwthio ffiniau yn wleidyddol’

Cafodd Mudiad Meithrin (Mudiad Ysgolion Meithrin yn flaenorol) ei sefydlu yn 1971 gyda’r amcan o roi cyfoeth o brofiadau chwarae a dysgu i bob plentyn trwy gyfrwng y Gymraeg, o’u genedigaeth hyd oedran ysgol.

Dr Gwenllian Lansdown

Yn ôl Prif Weithredwr yr elusen, mae’r Mudiad wastad yn barod iawn i “wthio ffiniau yn wleidyddol”, o fewn cyfyngiadau ei gyfansoddiad yng ngofal y Comisiwn Elusennau.

“O ran ymgyrchu gwleidyddol, mae popeth mae’r Mudiad yn sefyll amdano yn ‘wleidyddol’ ag ‘eg’ fach, oherwydd yr hyn rydan ni eisio’i weld ar gyfer plant bach Cymru o ran eu hawl a’u gallu nhw i ddod yn siaradwyr Cymraeg hyderus,” meddai Gwenllian Lansdown. “Mae’r Mudiad Meithrin wastad wedi bod yn fudiad sy’n barod i wthio ffiniau yn wleidyddol.

“Yn yr achos yma fe fyddwn i’n dweud bod yr apêl yn fwy dyngarol yn fwy na dim arall. Roedd yn rhan o draddodiad sy’n bodoli ers degawdau o godi pres i blant sy’n ffeindio’u hunain mewn gwahanol sefyllfaoedd argyfyngus ar draws y byd.”

Ymhlith y gwaith codi arian mae’r Mudiad wedi ei wneud mae taith feics noddedig fawr, gweithgareddau i godi arian tuag at ysbyty plant yn Lesotho, a rhedeg marathon i godi arian i elusen Achub y Plant.

“Mae bob math o bethe’n digwydd,” meddai Gwenllian Lansdown. “Mae rhywun yn gorfod tafoli’r gwahanol ystyriaethau gwleidyddol yna, a sicrhau ein bod ni’n gwneud hynny o fewn fframwaith cyfreithiol a moesol.”