Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi cyhuddo’r Democratiaid Rhyddfrydol o “anghysondeb” ynghylch cynnal ymchwiliad Covid-19 penodol i Gymru.

Ddoe (dydd Mercher, Ebrill 28), roedd Llywodraeth Cymru yn wynebu galwadau o’r newydd gan y gwrthbleidiau i gynnal ymchwiliad.

Daeth hynny ar ôl i’r Uchel Lys ddyfarnu bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi torri’r gyfraith drwy fethu â gwarchod mwy na 20,000 o breswylwyr cartrefi gofal a fu farw ar ôl dal Covid-19.

Dywedodd Jane Dodds, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, fod “y dyfarniad yn dangos pam fod angen ymchwiliad Covid-19 Cymru arnom yn hytrach nag ymchwiliad i Gymru a Lloegr”.

“Cyflwynwyd profion torfol mewn cartrefi gofal yng Nghymru fis cyfan ar ôl Lloegr ac mae’n un o nifer o benderfyniadau a wnaed yng Nghymru a oedd yn wahanol iawn i’r un yn Lloegr,” meddai.

“Rhaid i gefnogwyr datganoli beidio ag osgoi craffu digonol, yn enwedig os ydym am weld mwy o bwerau’n cael eu datganoli i Gymru.

“Os gall Llywodraeth yr Alban gynnal ymchwiliad i’w gweithredoedd, nid oes rheswm pam na all Cymru wneud hynny hefyd.

“Nid mater o weld bai yw hyn, ond dysgu gwersi gwerthfawr.”

‘Anghysondeb’

Fodd bynnag, yn ôl y Ceidwadwyr Cymreig, fe bleidleisiodd Jane Dodds, unig Aelod y Democratiaid Rhyddfrydol o’r Senedd, yn erbyn cynnig i gynnal ymchwiliad Covid-19 penodol i Gymru fis Gorffennaf y llynedd.

“Mae teuluoedd yng Nghymru yn haeddu sicrwydd, nid cefnogaeth pan fo’n gyfleus i’r Democratiaid Rhyddfrydol,” meddai Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig.

“Pe bai’r Democratiaid Rhyddfrydol yn ddiffuant ynglŷn â’u hawydd am ymchwiliad Covid-19 ledled Cymru, bydden nhw wedi pleidleisio gyda’r Ceidwadwyr Cymreig y llynedd.

“Mae’n amlwg mai’r unig ffordd i gael yr ymchwiliad Covid-19 sydd ei angen ar Gymru yw pleidleisio dros y Ceidwadwyr Cymreig.”

Mae James Evans, yr Aelod Ceidwadol dros Frycheiniog a Sir Faesyfed, hefyd wedi mynegi ei siom.

“Rwy’n siomedig gyda’r anghysondeb gan y Democratiaid Rhyddfrydol,” meddai.

“Pleidleisiodd Jane Dodds yn erbyn ein cynnig ym mis Gorffennaf 2021 – ffaith y gellir ei wirio’n hawdd ar gofnod trafodion y Senedd.

“Mae angen i Aelodau o’r Senedd roi gwleidyddiaeth bleidiol o’r neilltu a phleidleisio dros ymchwiliad Covid-19 ledled Cymru.”

‘Addewidion heb eu gwireddu’

Wrth ymateb, dywedodd llefarydd ar ran y Democratiaid Rhyddfrydol: “Ers y bleidlais gychwynnol ar gynnal ymchwiliad Covid-19 penodol i Gymru, mae Jane wedi bod mewn cysylltiad â theuluoedd sy’n galw am ymchwiliad ac wedi gwrando’n astud ar pam eu bod am gael ymchwiliad.

“Chafodd addewidion i roi pwyslais cryf ar Gymru yn yr ymchwiliad ledled y Deyrnas Unedig ddim eu gwireddu, ac felly penderfynodd Jane (Dodds) y byddai’n well gwthio am ymchwiliad penodol i Gymru ac fe bleidleisiodd hi o blaid hyn pan gafodd ail bleidlais ei chynnal.”

Coronavirus

Galwadau o’r newydd i gynnal ymchwiliad Covid-19 penodol i Gymru

Huw Bebb

“Os gall Llywodraeth yr Alban gynnal ymchwiliad i’w gweithredoedd, nid oes rheswm pam na all Cymru wneud hynny hefyd”