Mae Llywodraeth Cymru yn wynebu galwadau o’r newydd i gynnal ymchwiliad Covid-19 penodol i Gymru.

Daw hyn ar ôl i’r Uchel Lys ddyfarnu bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi torri’r gyfraith drwy fethu â gwarchod mwy na 20,000 o breswylwyr cartrefi gofal a fu farw ar ôl dal Covid-19.

Cafodd yr achos ei ddwyn gan Dr Cathy Gardner a Fay Harris, dwy a gollodd eu tadau wedi iddyn nhw brofi’n bositif am y coronafeirws.

Mewn dyfarniad heddiw (dydd Mercher, Ebrill 27), daeth yr Arglwydd Ustus Bean a Mr Ustus Garnham i’r casgliad fod polisïau oedd wedi’u cynnwys mewn dogfennau ym mis Mawrth a dechrau Ebrill 2020 yn anghyfreithlon.

Dywedodd y barnwyr fod y llywodraeth wedi methu ag ystyried y risg i breswylwyr hŷn a bregus a throsglwyddiad o’r feirws gan bobol heb symptomau.

“Bu farw fy nhad, ynghyd â degau o filoedd o bobol oedrannus a bregus eraill, yn drasig mewn cartrefi gofal yng ngham cyntaf pandemig Covid-19,” meddai Dr Cathy Gardner, y bu farw ei thad yn 88 oed mewn cartref gofal yn Swydd Rydychen ym mis Ebrill 2020.

“Roeddwn i’n credu drwy gydol yr amser fod fy nhad a phreswylwyr eraill mewn cartrefi gofal yn cael eu hesgeuluso a’u siomi gan y llywodraeth.”

“Yr un arferion” wedi bod ar waith yng Nghymru

Wrth ymateb i’r newyddion, mae Plaid Cymru wedi ysgrifennu at Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru, yn gofyn iddo gywiro’r cofnod ar ei ddatganiad ynghylch gallu Llywodraeth y Deyrnas Unedig i arwain yr ymchwiliad i Covid-19 yng Nghymru.

“Pan gyrhaeddodd y newyddion fod y Prif Weinidog [Boris Johnson] wedi cael dirwy am dorri’r gyfraith, roedd y Prif Weinidog [Mark Drakeford] ymhlith y nifer oedd yn galw am ei ymddiswyddiad,” meddai Rhun ap Iorwerth, llefarydd iechyd Plaid Cymru.

“Er hynny, mae gennym sefyllfa lle mae’r Prif Weinidog [Mark Drakeford] yn fodlon ymddiried yn yr un person i gynnal ymchwiliad i’r ffordd yr ymdriniwyd â Covid-19 yng Nghymru.

“Yr wythnos hon, rydym wedi cael ein hatgoffa unwaith eto o bwysigrwydd ymchwiliad Covid-19, yn dilyn dyfarniad yr Uchel Lys bod polisïau’r llywodraeth ar ryddhau cleifion heb eu profi o’r ysbyty i gartrefi gofal yn Lloegr yn anghyfreithlon.

“Cafodd yr un arferion eu mabwysiadu gan Lywodraeth Lafur Cymru ar gyfer cleifion yng Nghymru.

“Rhaid i’r Prif Weinidog [Mark Drakeford] gywiro ei ddatganiad, ac ateb y cwestiwn gwreiddiol: Pa asesiad y mae’r Prif Weinidog [Mark Drakeford] wedi’i wneud o allu Llywodraeth y Deyrnas Unedig i arwain yr ymchwiliad i Covid-19 yng Nghymru?

“Wrth wadu ymchwiliad sy’n benodol i Gymru i ni, trosglwyddodd y Prif Weinidog yr holl reolaeth i Boris Johnson.”

‘Dysgu gwersi’

Dywed Jane Dodds, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, fod “y dyfarniad heddiw yn dangos pam fod angen ymchwiliad Covid Cymru arnom yn hytrach nag ymchwiliad i Gymru a Lloegr”.

“Cyflwynwyd profion torfol mewn cartrefi gofal yng Nghymru fis cyfan ar ôl Lloegr ac mae’n un o nifer o benderfyniadau a wnaed yng Nghymru a oedd yn wahanol iawn i’r un yn Lloegr,” meddai.

“Rhaid i gefnogwyr datganoli beidio ag osgoi craffu digonol, yn enwedig os ydym am weld mwy o bwerau’n cael eu datganoli i Gymru.

“Os gall Llywodraeth yr Alban gynnal ymchwiliad i’w gweithredoedd, nid oes rheswm pam na all Cymru wneud hynny hefyd.

“Nid mater o weld bai yw hyn, ond dysgu gwersi gwerthfawr.”

‘Annerbyniol’

Fodd bynnag, mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn credu ei bod hi’n “annerbyniol” nad oes ymchwiliad penodol i Gymru yn cael ei gynnal.

“Gadewch i ni beidio ag anghofio, ar ôl i Loegr gyflwyno profion torfol mewn cartrefi gofal, dywedodd Prif Weinidog Llafur Cymru – Mark Drakeford – na allai weld “unrhyw werth” mewn cynnal profion mewn cartrefi gofal yng Nghymru, a dywedodd Gweinidog Iechyd Cymru ar y pryd, sydd bellach yn cystadlu am yr arweinyddiaeth, nad oedd yn deall y rhesymeg y tu ôl iddo,” meddai Andrew RT Davies, arweinydd y blaid.

“Roedd mis cyfan ar ôl i brofion torfol gael eu rhoi ar waith yn Lloegr cyn y cafodd ei gyflwyno yng Nghymru.

“Dyma’r union faterion y byddai ymchwiliad Covid-benodol i Gymru yn ymchwilio iddynt, a dyna pam ei bod yn gwbl annerbyniol i’r Llywodraeth Lafur hon rwystro un gan ei fod yn codi ofn craffu.”