Mae prosiect i wella sgiliau iaith, cyfathrebu a darllen plant yn gobeithio helpu hyd at 2,000 o blant yn rhagor dros Gymru.

Hyd yn hyn, mae’r Rhaglen Iaith a Llythrennedd (RILL) wedi helpu dros 500 o blant, ac mae cyllid ychwanegol o £290,000 gan Lywodraeth Cymru yn golygu eu bod nhw am allu ymestyn y prosiect.

Mae’r rhaglen, sy’n cael ei harwain gan Brifysgol Bangor, yn darparu rhaglen iaith a llythrennedd ddwys a rhyngweithiol yn Gymraeg neu yn Saesneg i blant rhwng saith ac 11 oed am gyfnod o ddeng wythnos, naill ai yn y dosbarth neu o bell.

Cafodd y cynllun ei lansio ym mis Ebrill 2020 yn sgil y cyfnod clo, ond mae’n dal i gael ei ddefnyddio i wella sgiliau llythrennedd dysgwyr yng Nghymru.

Ehangu’r ddarpariaeth

Fel rhan o’r gwaith, bydd y rhaglen yn cael ei chyflwyno mewn rhagor o ysgolion, yn cael ei hymestyn yn Gymraeg, a bydd gwersi ychwanegol yn cael eu darparu i blant a rhieni eu defnyddio wrth ddysgu gyda’i gilydd yn y cartref.

Ar hyn o bryd, mae Prifysgol Bangor yn gweithio gyda gwasanaeth gwella ysgolion gogledd Cymru, GwE i ddatblygu Rhaglen Gymraeg.

Fe fydd y fersiwn Gymraeg yn canolbwyntio ar ddatblygu geirfa Gymraeg i ddysgwyr a meithrin eu sgiliau llythrennedd, ac mae 33 o ysgolion yn y gogledd wedi bod yn rhan o’r prosiect.

Cynllunio ar gyfer y Gymraeg

Dywed prif ymchwilwyr y prosiect, Dr Manon Jones o Brifysgol Bangor a Dr Cameron Downing o Brifysgol y Drindod Leeds, fod y rhaglen Gymraeg wedi cael ei chynllunio ar gyfer y Gymraeg yn benodol.

“Mae’n bleser mawr gennym weithio gyda Llywodraeth Cymru i ddatblygu ac ehangu ein rhaglen llythrennedd ymhellach,” meddai’r ddau.

“Bydd y prosiect hwn yn datblygu’r bartneriaeth gydweithredol sydd eisoes ar waith rhwng GwE a Phrifysgol Bangor o ran defnyddio ymchwil er mwyn gwella canlyniadau addysgol i ddysgwyr.

“Yn y bôn, mae’r Rhaglen Iaith a Llythrennedd yn seiliedig ar ein dealltwriaeth ddamcaniaethol ac empirig o’r ffordd rydym yn dysgu sut i ddarllen a sillafu.

“Mae’r rhaglen RILL Cymraeg – a ddatblygwyd ar y cyd â GwE – wedi cael ei chynllunio ar gyfer y Gymraeg yn benodol. Dyma sy’n wahanol i raglenni llythrennedd Cymraeg eraill.

“Bydd y cyllid hwn yn rhoi cyfle inni weithio gydag ysgolion ac athrawon ledled Cymru er mwyn datblygu a darparu’r rhaglen a’i gwerthuso’n drylwyr.

“Ein gobaith yw y bydd y rhaglen yn helpu athrawon a dysgwyr i wella sgiliau llythrennedd yng Nghymru.”

‘Helpu dysgwyr ar ôl y pandemig’

Dywed Jeremy Miles, Ysgrifennydd y Gymraeg ac Addysg, fod sgiliau iaith, cyfathrebu a darllen “wrth wraidd pob math o ddysgu”.

“Nod y Rhaglen Iaith a Llythrennedd, a gafodd ei datblygu yng Nghymru ac sy’n unigryw o ran canolbwyntio ar y Gymraeg a’r Saesneg, yw helpu dysgwyr i wella eu sgiliau ar ôl y pandemig,” meddai.

“Rwy’n edrych ymlaen at weld canlyniadau’r prosiect arloesol hwn.”