Mae arbenigwr morwrol sydd wedi teithio’r byd, y bu bron iddo sefydlu gwasanaeth fferi cyflym newydd rhwng Abertawe a Gogledd Dyfnaint, yn dweud ei fod e’n cefnogi arolwg newydd o’r cynnig.

Daw sylwadau Chris Marrow wrth iddo ymateb i ymgais gan wleidyddion am wasanaeth cerddwyr yn cysylltu de Cymru gyda de-orllewin Lloegr.

Fe fu Selaine Saxby, Aelod Seneddol Ceidwadol Gogledd Dyfnaint, yn gweithio i ddatblygu’r syniad, tra bod Rob Stewart, arweinydd Cyngor Llafur Abertawe, yn dweud bod trafodaethau cychwynnol wedi’u cynnal rhwng cynghorau am y potensial o gael gwasanaeth wedi’i bweru gan hydrogen.

Roedd disgwyl i gyfarfod gael ei gynnal i drafod y syniad gyda Simon Hart, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, ddoe (dydd Mawrth, Ebrill 26).

Cefndir

Byddai’n atgyfodi syniad a gafodd ei ddatblygu gan Chris Marrow dros ddegawd yn ôl, ac mae’n dweud iddo gael ei atal o ganlyniad i’r wasgfa ariannol fyd-eang.

Fe wnaeth ei gwmni, Severn Link, brynu dwy gatamaran gyda’r bwriad o sefydlu gwasanaeth rhwng Abertawe ac Ilfracombe yn 2010, gan roi ystyriaeth i wasanaeth arall rhwng Caerdydd a Minhead hefyd.

Dywedodd wrth y Gwasanaeth Gohebu Democratiaeth Leol fod Severn Link yn barod i dderbyn dwy elfen o arian sector cyhoeddus tuag at y fenter, ond fod y wasgfa ariannol a darodd yn 2008 wedi arwain at un ohonyn nhw’n cael ei thynnu’n ôl.

“Doedd honno ddim yn broblem anorchfygol, ond roedd yn golygu bod ein prif randdeiliad wedi ailfeddwl ac wedi tynnu’n ôl,” meddai.

“Roedden ni wedi prynu dau gerbyd, ond bu’n rhaid i ni eu gwerthu nhw.

“Fe aethon nhw i’r Môr Du, a chollais i fy holl gynilion.”

Roedd y cerbydau’n gallu cyrraedd cyflymdra o 34 not ac yn gallu cludo 360 o deithwyr.

Trafodaethau a phosibiliadau newydd

“Dw i’n llwyr gefnogol,” meddai Chris Marrow am drafodaethau newydd.

“Dw i wedi siarad â chynorthwyydd Ms Saxby, ac mae gen i lawer o ymchwil y farchnad sy’n berthnasol.”

Mae’n ddyddiau cynnar o hyd, ond yn ôl Chris Marrow, mae’r posibilrwydd o wasanaeth wedi’i bweru gan hydrogen adnewyddadwy yn “berffaith iawn”.

“Dw i’n credu bod rhaid i wasanaeth newydd fod yn gyfeillgar i’r amgylchedd,” meddai.

Dywed y gŵr 79 oed mai rhai o’r ffactorau allweddol fyddai cyfleusterau glanio – rhai, yn ddelfrydol, a fyddai’n gallu ymdopi â cherbydau ar lanw uchel ac isel, megis jeti allanol neu ddoc – a cherbydau digon cadarn i ymdopi ag amodau garw Môr Hafren.

“Mae’r cynlluniau ar gyfer jeti allanol yn Ilfracombe ar y gweill ers blynyddoedd,” meddai.

“Dw i’n credu y gellid cyflwyno achos cryf dros fferi ro-ro (rholio ymlaen, rholio i ffwrdd).”

Dywed y byddai’n gyndyn o ddweud faint fyddai cost croesi heb edrych yn fanwl ar hynny.

“Mae’n rhaid ei fod e’n rhatach ac yn well o lawer i’r amgylchedd na gorfod gyrru,” meddai.

Bywyd a gyrfa Chris Marrow

Cafodd Chris Marrow ei fagu yng Nghernyw cyn symud i Wlad yr Haf yn 12 oed.

Dros y blynyddoedd, fe fu’n swyddog ar fwrdd llong, yn forlywiwr, yn sylfaenydd ac yn weithredwr gwasanaeth fferi.

Dywed ei fod e wedi sefydlu a rhedeg cysylltiadau fferi newydd ar ynysoedd Orkney a Shetland, wedi gweithredu cerbyd glanio ym Mozambique adeg y rhyfel cartref yno, wedi sefydlu prosiectau datblygu mewn llefydd fel Malawi lle bu’n gyfrifol am gwmni llongau ac wedi’i leoli mewn cymuned ger llynnoedd Monkey Bay.

“Roedd hi’n wlad hyfryd,” meddai.

Dywed iddo gael ei urddo’n farchog gan y Frenhines Diambi Kabatusuila o’r Congo, ac y bu’n gweithio gyda disgynnydd i Fletcher Christian, arweinydd y gwrthryfel ar y Bounty yn 1789, ar ffyrdd o sefydlu gwasanaeth fferi i mewn ac allan o Pitcairn yn Ynysoedd y De.

Dywed fod yr ymchwil wedi ei sicrhau bod cysylltiadau hanesyddol agos rhwng de Cymru a de-orllewin Lloegr, a bod 22 o longau paddle steamer wedi bod yn weithredol ym Môr Hafren yn y 1920au.

“Roedd hi’n haws o lawer i bobol yng Ngogledd Dyfnaint a Gogledd Cernyw fynd i Gymru nag i Lundain oherwydd roedd y ffyrdd yn wael iawn,” meddai.

Dywed fod cofnod o un o’i hynafiaid – gwneuthurwr esgidiau a chanddo un goes – yn mynd gerbron llys yn Abertawe yn niwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, wedi’i gyhuddo o guro’i wraig â’i goes bren.

Wrth siarad am ddyddiau ei lencyndod, dywed Chris Marrow ei fod yn “cofio’r dyddiau pan oedd yr hen White Funnel steamers yn weithredol, fel y Cardiff Queen a’r Bristol Queen”, a’u bod nhw’n “gychod hyfryd”.

Dywed fod nifer o bobol o dde Cymru’n ymweld â Butlins ym Minehead, ac y byddai fferi’n ddewis da i gymudo o Gaerdydd i gontractwyr Cymreig yn gweithio ar brosiect eang gorsaf bwer niwclear Hinkley Point C ar hyd arfordir Gwlad yr Haf.

Dywed y gallai gwasanaeth fferi newydd helpu hefyd i adfywio unrhyw iard gychod sy’n ei chael hi’n anodd goroesi.

Ymateb cyn-arweinydd Cyngor Abertawe

Dywed Chris Holley, cyn-arweinydd Cyngor Abertawe, ei fod e wedi bod yn awyddus i gatamaranau Severn Link weithredu drwy loc afon Tawe i fyny’r afon ger maes parcio East Burrows ger Sainsbury’s, sy’n eiddo’r Cyngor Sir.

“Byddai wedi bod yn gyfleuster (glanio) ffantastig ond yn anffodus, roedd y fferi braidd yn rhy hir i fynd drwy’r loc,” meddai.

Dywed fod opsiynau eraill yn nociau Abertawe wedi cael eu hystyried.

“Mae’r fferi’n syniad da iawn, dim ots syniad pwy yw e.”

Dywed Chris Marrow, sy’n byw yn Wellington yng Ngwlad yr Haf, ac sy’n aelod o fwrdd ymgynghori Cyngor Busnes De-Orllewin Lloegr, nad yw e’n chwerw am ei brofiad gyda Severn Link.

“Rydych chi’n derbyn y peth ac yn cario ymlaen â phethau,” meddai.

Ilfracombe

Fferi o Abertawe i Ddyfnaint a Chernyw: hawlio gormod o glod?

Ioan Richard

“Dylem oll groesawu’r fath gyfleuster ond peidio â’i orbwysleisio fe fel mae Llafur Abertawe wedi’i wneud, jyst er lles Etholiadau’r Sir yma ar Fai 5”