Mae grŵp o ymgyrchwyr wedi ysgrifennu llythyr at Ysgrifennydd Addysg a’r Gymraeg Llywodraeth Cymru yn gofyn iddo ailedrych ar Raglen Ysgolion yr 21ain Ganrif.
Nod y rhaglen yw gwneud gwelliannau i adeiladau ysgolion ac yn ôl un o’r ymgyrchwyr, mae rhan fwya’r arian wedi cael ei wario ar adeiladu ysgolion newydd yn hytrach nag adnewyddu hen ysgolion.
Mae’r pwyslais ar adeiladu ysgolion newydd yn golygu bod hen ysgolion wedi cael eu gadael i ddirywio, meddai’r llythyr wrth Jeremy Miles.
Golyga hynny ei bod hi’n rhy hwyr i achub nifer o’r hen ysgolion wedyn, yng ngolwg nifer, a’u bod nhw’n cau er mwyn cael eu huno.
Yn ôl Sue Woodward, a lofnododd y llythyr ar ran Ysgol Gynradd Mynyddygarreg yn Sir Gaerfyrddin, dydy cau ysgolion bach i greu un ysgol fawr yn “helpu dim” ar gymunedau, y Gymraeg na’r amgylchedd, ac mae gan y Rhaglen “oblygiadau anfwriadol”.
Llywodraeth Cymru sy’n ariannu’r rhaglen, ond cynghorau lleol sy’n penderfynu sut i’w wario. Felly, yn ôl yr ymgyrchwyr, cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw’r “goblygiadau anfwriadol”.
Y Gymraeg
Cafodd proses ymgynghori ei chynnal y llynedd i gau Ysgol Mynyddygarreg, ond ym mis Rhagfyr, fe wnaeth cabinet Cyngor Sir Gaerfyrddin ddweud nad ydyn nhw am ei chau yn amodol ar adolygiad i’w cynlluniau ar gyfer ysgolion.
“Mae gennym ni nifer o resymau pam bod cau ysgolion bach yn beth drwg, a pham bod y cymunedau angen cadw ysgolion bach a pheidio cymryd bod un ateb yn addas i bawb, a bod yr ysgolion mawr am fod yn well i gymunedau,” meddai Sue Woodward wrth golwg360.
“Er bod y syniad yn wych i uwchraddio ysgolion, dyw e ddim yn digwydd felly.”
Mae cymunedau Cymraeg eu hiaith yn dioddef waethaf, meddai, gan mai’r ysgolion lleiaf yw’r ysgolion cyfrwng Cymraeg fel arfer.
“Un o’r pethau eraill sy’n digwydd yn ein hardal ni er enghraifft, a dim bai Llywodraeth Cymru yw hyn o reidrwydd ond Cyngor Caerfyrddin… yr ysgolion sydd wedi cael eu huwchraddio hyd yn hyn yn ein hardal ni, mae’r ysgol cyfrwng Saesneg wedi cael ei huwchraddio gyntaf.
“Felly nawr mae ganddyn nhw eu hestyniad newydd ac mae hi dipyn mwy, ac mae’n temtio rhieni fyddai wedi mynd i ysgolion cyfrwng Cymraeg fel arfer i fynd yno, efallai, tra rydyn ni dal i aros i’r ysgolion cyfrwng Cymraeg gael eu huwchraddio.
“Mae e i gyd yn adio at ei gilydd gyda’r angen i warchod ysgolion cyfrwng Cymraeg gyntaf.
“Petaen nhw’n cael eu huwchraddio, efallai y byddai pobol sydd ddim yn poeni’r naill ffordd neu’r llall os ydyn nhw’n mynd i ysgol Gymraeg, yn dewis y cyfrwng Cymraeg… sy’n ticio’r bocs i bawb wedyn.”
Y gymuned
Ynghyd â’r effaith ar y Gymraeg, mae cau ysgolion bach yn cael effaith niweidiol ar y gymuned hefyd, yn ôl Sue Woodward.
“Rydyn ni’n eithaf agos i Gydweli ac mae yna ysgol newydd yno, oedd yn rhannol yn rheswm dros gau, dydyn ni ond ryw filltir a hanner o Gydweli,” meddai.
“Y temtasiwn wedyn yw dweud, ‘Dyw e ddim yn bell, beth yw’r bwys i’r gymuned?’
“Ond mae e o bwys, ac er eu bod nhw’n eithaf agos, mae gan Mynyddygarreg ei hunaniaeth ei hun ond does ganddi ddim cyfleusterau. Yr ysgol yw’r unig gyfleuster ar ôl nawr, mae’n debyg.
“Yr ysgol yw’r peth olaf sydd gennym ni, mae’n dal pobol ynghyd, mae’n dod â phobol at gât yr ysgol. Mae hynny ynddo’i hun yn rhoi cymuned i chi.
“Pe na bai gan yr holl rieni a neiniau a theidiau sy’n cyfarfod yno yr ysgol, fyddan nhw’n mynd i ysgol arall, ac mae eu cymuned nhw’n symud oddi yno a’r unig beth sydd gennych chi yw casgliad o dai.
“Does gennych chi ddim byd i uno cymuned, fel y dylai yna fod.”
Yr amgylchedd
Mae’r llythyr yn tynnu sylw at effaith cau ysgolion bach ar yr hinsawdd hefyd, gan nodi nad yw’n cyd-fynd â theithio actif na thargeda sero-net Llywodraeth Cymru.
Ffordd osgoi sy’n gwahanu Cydweli a Mynyddygarreg, a fyddai cerdded i’r ysgol ddim yn bosib oherwydd prysurdeb y ffordd, yn ôl Sue Woodward.
“Mae rhieni yn fwy tebygol o fod yn danfon eu plant i’r ysgol, a mwy o siwrnai yn y car, tra ar y funud gallan nhw gerdded,” meddai.
“Rydych chi’n teimlo’n saffach fel hynny, yn ogystal â’r effaith ar yr amgylchedd.
“Mae’n mynd yn erbyn blaenoriaethau eraill Llywodraeth Cymru ar gyfer teithio actif, sero-net… mae’r holl bethau hynny’n cael eu hanwybyddu.”
‘Ystyried popeth gyda’i gilydd’
Y broblem, meddai Sue Woodward, yw bod yna duedd i feddwl am y rhaglen fel un sy’n effeithio ar addysg yn unig.
“Ond mae ysgolion ynghlwm â’u cymunedau i’r fath raddau ei fod e’n ymwneud â’r gymuned hefyd,” meddai.
“Mae’n cael ei weld fel dau beth ar wahân, pan maen nhw ynghlwm yn llwyr mewn gwirionedd.
“Dylai popeth gael ei ystyried gyda’i gilydd ond ar y funud, dyw hynny ddim yn digwydd gan fod gan un Aelod o’r Senedd bortffolio ar gyfer un peth, ac un arall â phortffolio ar gyfer rhywbeth arall.
“Dyna rydyn ni’n gofyn amdano, iddyn nhw edrych ar hyn eto, ac edrych ar hyn mae’n ei olygu i gymunedau dros Gymru, ac edrych arno’n iawn.”
Yn ogystal â’r effaith ar yr amgylchedd a’r Gymraeg, mae’r llythyr yn nodi ei fod yn mynd yn groes i Strategaeth Drafnidiaeth Cymru a Deddf Cenedlaethau’r Dyfodol ac, yn ôl yr ymgyrchwyr, dylid adolygu’r rhaglen fel ei bod hi’n adlewyrchu targedau ac amcanion eraill Llywodraeth Cymru.
Mae’r llythyr wedi cael ei lofnodi gan grŵp Ein Plant yn Gyntaf Pontypridd, Pontio’r Gymraeg yn Lleol Pontypridd, Cynulliad Pobol Cymru, Ymgyrch Achub Felodrom Maendy, Cynulliad Pobol Caerdydd, Ffrindiau Ysgol Blaenau, Sir Gaerfyrddin, yn ogystal ag ar ran Ysgol Gynradd Mynyddygarreg a Gobaith Mynyddygarreg.
‘Angen achos cryf i gryfhau ysgol wledig’
Wrth ymateb, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod rhaid i awdurdodau lleol gynnal asesiad o’r effaith ar y gymuned, a’r Gymraeg mewn ysgolion lle defnyddir y Gymraeg fel iaith addysg mewn pynciau heblaw’r Gymraeg, i gau unrhyw ysgol.
“Mae awdurdodau lleol yn gyfrifol am gynllunio lleoedd ysgol yn eu hardal ac am flaenoriaethu cynlluniau ar gyfer buddsoddi. O ran cyllid Llywodraeth Cymru, yn ogystal â chyllid Ysgolion yr 21ain Ganrif, dros bedair blynedd rydym wedi darparu £183m o gyfalaf i awdurdodau lleol ar gyfer cynnal a chadw ysgolion.
“Wrth wneud newidiadau sylweddol i ysgolion, gan gynnwys cau, rhaid i awdurdodau lleol gydymffurfio â’r Cod Trefniadaeth Ysgolion ac ystyried ystod o ffactorau a’r brif ystyriaeth yw buddiannau dysgwyr. Ar gyfer cau unrhyw ysgol, rhaid i awdurdodau lleol gynnal asesiad o’r effaith ar y gymuned ynghyd ag Asesiad o’r Effaith ar y Gymraeg lle mae’r Gymraeg yn iaith addysgu ar gyfer pynciau heblaw’r Gymraeg.
“Rydym wedi cryfhau’r Cod Trefniadaeth Ysgolion i gyflwyno rhagdybiaeth yn erbyn cau ysgolion gwledig. Nid yw rhagdybiaeth yn erbyn cau yn golygu na fydd ysgol wledig byth yn cau, ond rhaid i’r achos dros gau fod yn gryf ac ni chymerwyd hyd nes bydd yr holl ddewisiadau amgen ymarferol wedi’u hystyried.”
Ymateb Cyngor Sir Gaefyrddin
Dywedodd Gareth Morgans, Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant: “Ein blaenoriaeth yw rhoi’r addysg orau i’n plant er mwyn rhoi’r dechrau gorau mewn bywyd iddynt. Mae hyn yn cynnwys llety a chyfleusterau modern o’r radd flaenaf a chynyddu’r cyfleoedd i’n holl bobl ifanc gyfathrebu’n ddwyieithog, neu hyd yn oed yn amlieithog, a’r holl fanteision sy’n gysylltiedig ag ef.
“Nid oedd y cynigion ar gyfer Ysgol Mynydd-y-Garreg, ynghyd ag Ysgol Blaenau, yn caniatáu i ddyfodol y ddwy ysgol hyn gael ei ystyried yn fanwl, ynghyd â phob ysgol arall, fel rhan o’r adolygiad llawn o’r Rhaglen Moderneiddio Addysg. Mae hyn er mwyn sicrhau ei bod yn parhau i ddiwallu anghenion plant a’n cymunedau. Mae angen i ni hefyd ystyried effaith pandemig Covid-19, Brexit, a newid yn yr hinsawdd, sydd wedi newid y ffordd mae pobl yn byw ac yn gwneud dewisiadau, wedi cael effaith ar y system addysg, ac wedi achosi cynnydd mewn costau adeiladu.
“Diben Rhaglen Moderneiddio Addysg y Cyngor, ar y cyd â Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy Llywodraeth Cymru (a elwid gynt yn Rhaglen Ysgolion a Cholegau yr 21ain Ganrif) yw trawsnewid rhwydwaith y cyngor o ysgolion meithrin, cynradd ac uwchradd yn adnoddau sy’n effeithiol yn strategol ac yn weithredol, ac sy’n diwallu’r angen presennol a’r angen yn y dyfodol am addysg sy’n canolbwyntio ar yr ysgol a’r gymuned. Cyflawnir hyn drwy ddatblygu a gwella adeiladau, seilwaith a mannau sy’n cael eu gosod, eu dylunio, eu hadeiladu neu’u haddasu er mwyn meithrin datblygiad cynaliadwy pobl a chymunedau Sir Gaerfyrddin.
“Rydym wedi ymrwymo i greu Sir Gaerfyrddin ddwyieithog ac amlieithog ac mae Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg (WESP) y cyngor yn amlinellu ein gweledigaeth ar gyfer addysg ddwyieithog dros y 10 mlynedd nesaf. Mae’r cynllun yn dangos sut y bydd y cyngor yn datblygu darpariaeth Gymraeg mewn ysgolion – y nod yw i bob plentyn yn Sir Gaerfyrddin fod yn rhugl yn y Gymraeg a’r Saesneg pan fyddant yn gadael yr ysgol.”