Mae Llywodraeth Cymru yn mynnu eu bod nhw’n gweithio gyda Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru i sicrhau bod meddygon teulu yn “gallu aros yng Nghymru”.

Daw hyn yn dilyn adroddiad gan bwyllgor meddygon teulu Cymdeithas Feddygol Prydain yng Nghymru yn gynharach eleni.

Amlygodd yr adroddiad fod rheolau presennol y Swyddfa Gartref y Deyrnas Unedig yn golygu bod yn rhaid i unigolion fod wedi gweithio am bum mlynedd o dan Fisa Gweithwyr Medrus er mwyn gallu gwneud cais am ‘Ganiatâd Amhenodol’ i aros yn y wlad.

Gallai hyn olygu nad yw 80 o’r 160 o’r meddygon teulu sydd dan hyfforddiant yng Nghymru eleni yn gymwys i aros yn y wlad.

“Mae ein hymgyrch Hyfforddi Gweithio Byw wedi gweithio i sicrhau cynnydd sylweddol yn y nifer sy’n manteisio ar leoedd hyfforddi meddygon teulu dros y blynyddoedd diwethaf,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.

“Rydyn ni’n gweithio gyda Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru i gefnogi meddygon teulu sydd newydd gymhwyso a meddygfeydd er mwyn sicrhau bod pobl yn gallu aros yng Nghymru.

“Wrth i fwy o raddedigion meddygol rhyngwladol gael eu recriwtio i raglenni hyfforddi meddygon teulu, mae hyn yn fater i holl wledydd y Deyrnas Unedig.”

‘Anghredadwy’

Er eu bod nhw’n condemnio polisi Llywodraeth y Deyrnas Unedig, mae’r Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru hefyd yn credu bod angen i Lywodraeth Cymru fynd i’r afael â recriwtio a chadw staff yng Nghymru.

“Mae’n anghredadwy bod polisïau mewnfudo’r Ceidwadwyr yn debygol o ddwyn 80 o feddygon teulu tra ein bod yn dioddef ôl-groniadau difrifol yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a phrinder meddygon teulu yn enwedig,” meddai Jane Dodds, arweinydd y blaid.

“Gydag amcangyfrifon yn awgrymu bod angen 200 o feddygon teulu newydd yng Nghymru pob blwyddyn, allwn ni ddim fforddio colli 80 o’r 160 sydd o dan hyfforddiant ar hyn o bryd.

“Mae’n rhaid i Priti Patel a’r Ceidwadwyr bwyllo a chyflwyno polisi mewnfudo synhwyrol sy’n gweithio i’n heconomi a’n gwasanaethau cyhoeddus.

“Mae dull gweithredu dogmataidd y Ceidwadwyr ar fewnfudo wedi cymryd blaenoriaeth dros anghenion y wlad ers llawer rhy hir.

“Mae hefyd angen i Lywodraeth Cymru fynd i’r afael â recriwtio a chadw staff yng Nghymru, a chyflwyno cynllun tymor hir er mwyn datrys y mater hwn.

“Mae angen iddynt barhau i wthio Llywodraeth y Deyrnas Unedig i newid ei pholisi ar y mater hwn.”