O blith darllenwyr golwg360 wnaeth ymateb i’n pôl piniwn ar Twitter, dim ond 16% fyddai’n croesawu troi’r diwrnod gŵyl banc ar gyfer Jiwbilî’r Frenhines eleni’n ddiwrnod blynyddol parhaol.

Mewn llythyr agored at Boris Johnson, mae arweinwyr busnes wedi galw am wneud Gŵyl y Banc Jiwbilî Platinwm y Frenhines, ar Fehefin 3, yn un parhaol.

Yn ôl Press Association, mae Rishi Sunak, Canghellor y Trysorlys, yn bwriadu ystyried y cynnig.

Daw hyn er gwaetha’r ffaith y cafodd galwadau Cyngor Gwynedd am Ŵyl Banc i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi eu gwrthod ddechrau’r flwyddyn, ar ôl i Weinidog Busnesau Bach San Steffan honni bod gormod o bobol yn croesi’r ffin rhwng Cymru a Lloegr i’r cynllun weithio.

Darllenwch y stori’n llawn isod:

‘Byddai gwneud Gŵyl y Banc y Jiwbilî’n un parhaol ar ôl gwrthod Gŵyl Banc Dewi Sant yn rhagrithiol iawn’

Cadi Dafydd

Cynghorwyr yn dweud “nad yw Cymru’n golygu dim yn wleidyddol i San Steffan”, ac yn cwestiynu eu blaenoriaethau pe baen nhw’n cymeradwyo ymestyn yr ŵyl