Byddai gwneud Gŵyl y Banc Jiwbilî’r Frenhines yn un parhaol ar ôl gwrthod Gŵyl Banc Dewi Sant yn “rhagrithiol iawn”, medd un cynghorydd.

Fe fu Elwyn Edwards, cynghorydd Plaid Cymru dros ward Llandderfel ar Gyngor Gwynedd, yn galw ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i greu Gŵyl Banc ar Fawrth 1.

Cafodd galwadau Cyngor Gwynedd eu gwrthod ddechrau’r flwyddyn ar ôl i Weinidog Busnesau Bach San Steffan honni bod gormod o bobol yn croesi’r ffin rhwng Cymru a Lloegr i’r cynllun weithio.

Mewn llythyr agored at Boris Johnson, mae arweinwyr busnes wedi galw am wneud Gŵyl y Banc Jiwbilî Platinwm y Frenhines, ar Fehefin 3, yn un parhaol.

Yn ôl Press Association, mae Rishi Sunak, Canghellor y Trysorlys, yn bwriadu ystyried y cynnig.

Dydy hynny ddim ond i’w ddisgwyl, yn ôl y Cynghorydd Elwyn Edwards, sydd wedi bod yn siarad â golwg360.

“Dydy Cymru’n golygu dim byd iddyn nhw’n wleidyddol o gwbl, rydyn ni’n rhan o Loegr a dyna ni,” meddai.

“Roeddwn i’n disgwyl hyn, arwydd o Brydeindod a Lloegr… mae’r Torïaid yn mynd i wneud twrw am bethau fel hynny a sathru ar Gymru a thrio diddymu hunaniaeth ein gwlad ni.”

‘Rhagrithiol iawn’

Fe wnaeth Cyngor Gwynedd roi diwrnod o wyliau i’w staff ar Ddydd Gŵyl Dewi, ond roedd tri chynghorydd yn gwrthwynebu, yn bennaf ar sail y costau.

“Fedrwch chi wneud yn fawr o’r costau, bod hyn yn mynd i gostio hyd at £200,000, ond be’ sy’n bwysig efo Dydd Gŵyl Dewi yw ein bod ni’n cadw hunaniaeth y genedl,” meddai Elwyn Edwards.

“Mae Gŵyl y Banc y Jiwbilî i’w ddisgwyl, ac mi fydd o’n barhaol mae’n debyg, dydy hi ddim bwys be’ mae’n costio. Ffordd hynny mae’r rhain [yn San Steffan] yn meddwl, wrth gwrs.

“Mae yna dridiau i ddod rŵan i ddathlu, os mai dyna’r gair iawn, ynglŷn â’r frenhiniaeth, ac mae hwnnw am gostio miliynau lawer.

“Ond dydy o ddim bwys am hynny ganddyn nhw, gan fod o’n arwydd o Brydeindod.”

Yn ôl ymchwil sydd wedi cael ei gomisiynu gan y rhai sy’n ymgyrchu dros wneud yr ŵyl yn un barhaol, byddai’n costio tua £831m y flwyddyn, sydd 64% yn is na’r amcangyfrif gan Lywodraeth San Steffan.

“Gawn ni weld be’ ddaw efo’i wneud o’n barhaol, dw i’n gweld dim bai arnyn nhw os ydyn nhw eisiau ei wneud o yn Lloegr… iawn,” ychwanega Elwyn Edwards wedyn.

“Maen nhw’n rhagrithiol iawn yn gwrthod ni ynglŷn â Dewi Sant, ond dydy o ond i’w ddisgwyl.”

Mae Elwyn Edwards yn bwriadu parhau i alw am Ŵyl Banc Dewi Sant “beth bynnag mae’r gwrthwynebwyr yn ei ddweud”.

Blaenoriaethau?

Roedd John Pughe, cynghorydd annibynnol dros Gorris a Mawddwy ar Gyngor Gwynedd, yn un o’r rhai oedd yn gwrthwynebu rhoi diwrnod o wyliau i staff y cyngor ar ddiwrnod nawddsant Cymru.

Mae’n dal i ddweud na ddylai cynghorau wario arian cyhoeddus ar hynny, ac mae’n dweud bod cynnig ymestyn Gŵyl y Banc y Jiwbilî yn codi cwestiynau ynghylch blaenoriaethau San Steffan.

“Os ydy rhywun eisiau dathlu, mi gawn nhw ddathlu. Er enghraifft yn fy ward i yn nhop Corris, maen nhw am wneud ryw barti ac ati,” meddai John Pughe wrth golwg360.

“Mae hi fyny iddyn nhw ei wneud o, dw i ddim yn mynd i’w stopio nhw wrth gwrs.

“Ond dw i ddim yn meddwl ddylai fo fod yn wyliau cyhoeddus am byth. Dw i ddim yn royalist mawr, ond fyswn i ddim yn licio’u job nhw chwaith.

“Mae llawer iawn o deuluoedd yn cael job cael deupen llinyn ynghyd i roi bwyd ar y bwrdd ac ati, a bod yna lawer iawn o arian yn cael ei wario ar rywbeth fel hyn, mae’n gwneud i rywun feddwl lle mae priorities rywun?

“Fyswn i ddim yn cytuno ar gynghorau’n gwario arian arno fo, ydy’r arian yn cael ei wario’n ddoeth pan rydyn ni’n ei wario fo ar rywbeth fel hyn?

“Dw i ddim yn meddwl dylai cynghorau fod yn gwario arian cyhoeddus ar rywbeth fel hyn, dw i’n meddwl mai rhywbeth personol ydy o yn fwy na rhywbeth ddylai cynghorau fod yn ei wneud.”

Diwrnod i ddysgu am hanes lleol

Fyddai creu Dydd Gŵyl Dewi’n ddiwrnod o wyliau ddim yn “help i Gymru”, ym marn John Pughe.

“Dw i’n meddwl fysa’n well gen i weld diwrnod i Gymru, bod plant yn mynd i’r ysgol, a bod o’n ddiwrnod i hanes lleol… fysa nhw’n dysgu mwy na bod adre’n chwarae gemau.

“Os ydyn nhw adre’n chwarae gemau ar computers, dydyn nhw’n dysgu dim byd, ond os fysan ni’n cael un diwrnod a hwnnw wedi’i benodi ar gyfer hanes lleol – yn yr ardal hon, seintiau ac ati, y Gwylliaid – maen nhw am ddysgu.

“Dydy plant ifanc ddim yn cael dysgu am hynna, ond un diwrnod bod yna ddiwrnod drwy Gymru bod rhywun yn cael y cyfle i ddysgu hynny. Mi ddysgan nhw lawer mwy nag yn chwarae mewn parc neu ar gyfrifiaduron a’u rhieni nhw’n diawlio nhw.”

Ffrae gwyliau Dydd Gŵyl Dewi Cyngor Gwynedd yn poethi

Huw Bebb

“Mae pobl yn wallgof, mae yno dros 30 o staff wedi cysylltu efo fi yn dweud nad ydyn nhw eisiau diwrnod i ffwrdd”

Y Ceidwadwyr Cymreig yn galw am wneud Dydd Gŵyl Dewi yn ŵyl banc

Does gan Gymru ddim grym i greu gwyliau banc, a llynedd fe wnaeth Llywodraeth y Deyrnas Unedig wrthod galwadau i greu gŵyl y banc ar Fawrth 1