Mae Plaid Cymru wedi gwahardd cynghorydd am sefyll yn erbyn cyd-aelod o’i blaid fel ymgeisydd annibynnol yn yr etholiadau lleol.

Mae Trystan Lewis, sydd ar hyn o bryd yn gynghorydd sir yng Nghonwy yn ward Pensarn yng Nghyffordd Llandudno, bellach yn sefyll yn Llansannan yn erbyn Susan Lloyd-Williams, sydd wedi cynrychioli’r ardal yn enw Plaid Cymru ers 2008.

Mae’r Cynghorydd Lewis, sy’n byw yn Llanfair Talhaearn, yn dweud ei fod e wedi penderfynu sefyll yn erbyn y Cynghorydd Lloyd-Williams am ei bod hi wedi symud i Fodelwyddan, ward sydd yn Sir Ddinbych ac nid yng Nghonwy.

Dywed y Cynghorydd Lloyd-Williams ei bod hi’n “siomedig” fod cyn-gydweithiwr wedi sefyll yn ei herbyn hi, ond ei bod hi’n “falch o gael sefyll eto i geisio mandad y gymuned dw i’n ei hadnabod a’i charu ers 26 o flynyddoedd”.

Ymateb Plaid Cymru

Yn ôl llefarydd ar ran y blaid, mae’r Cynghorydd Lloyd-Williams “yn ymgorfforiad o bopeth mae Plaid yn sefyll drosto”.

Mae ffynhonnell o fewn Plaid Cymru wedi cadarnhau wrth y Gwasanaeth Gohebu Democratiaeth Leol fod y Cynghorydd Lewis “wedi’i wahardd cyn wynebu panel disgyblu” yn dilyn cwyn yn ei erbyn.

“Mae wedi’i nodi yn rheolau Plaid Cymru, os ydych chi’n aelod o Blaid Cymru, na allwch chi sefyll yn erbyn ymgeisydd arall o Blaid Cymru fel ymgeisydd annibynnol,” meddai llefarydd.

“Yr hyn mae e wedi’i wneud yw sefyll yn annibynnol yn erbyn Sue heb roi gwybod i’w grŵp ei hun.

“Dim ond pan anfonodd pobol yn y ward luniau o’r daflen annibynnol roedd e wedi bod yn ei gollwng y daethom i wybod am hyn.

“Ond ar y pryd, cynghorydd Plaid Cymru oedd e yn ei ward yng Nghyffordd Llandudno, ond roedd e’n taflennu fel ymgeisydd annibynnol yn erbyn cydweithiwr.”

Mae’r Cynghorydd Lewis yn gyn-ymgeisydd Plaid Cymru ar gyfer Aberconwy, yn etholiadau’r Cynulliad yn 2016, ac fe gollodd o drwch blewyn i’r Aelod Ceidwadol o’r Senedd, Janet Finch-Saunders.

Cyfiawnhad

“Symudon ni fel teulu i Lanfair Talhaearn,” meddai’r Cynghorydd Trystan Lewis.

“Daeth nifer o bobol o ward Llansannan ataf, gan ofyn a oedd gen i ddiddordeb sefyll yn Llansannan oherwydd bod y cynghorydd presennol wedi symud i Fodelwyddan.

“Dw i’n credu ei bod hi wedi bod yn byw yno ers tair blynedd, felly mae hi’n byw y tu allan i sir Conwy. Mae hi’n byw yn sir Ddinbych.

“Gofynnais i Blaid Cymru a fyddai yna hystingau fel y byddai’n deg, fel y gallai aelodau’r Blaid yn Llansannan benderfynu.

“Yn wir, rheolau Plaid oedd hynny. Roedd hystingau i fod i gael ei gynnal.”

Ond “wnaeth hynny ddim digwydd” ac fe wnaeth y pwyllgor sirol ddewis y cynghorydd presennol.

“Penderfynais i sefyll fel ymgeisydd annibynnol a gadael i bobol ddewis, o bob cefndir gwleidyddol.”

“Fe wnes i’r penderfyniad i beidio â sefyll ym Mhensarn oherwydd dw i’n byw 18 milltir i ffwrdd, a dw i’n meddwl y dylai cynghorydd fod yn ei ardal ei hun, yn cynrychioli’r bobol.

“Yn amlwg, gallwn fod wedi sefyll eto ym Mhensarn oherwydd mae hynny yn y rheolau, yn y sir.

“Ond doeddwn i ddim yn meddwl ei bod hi’n deg i bobol Pensarn pe bai eu cynghorydd lleol yn byw yn ochr arall y sir.”

Pan gafodd ei holi pam nad oedd e’n sefyll yn y ward lle mae’n byw – yn Llanfair Talhaearn – dywedodd ei fod e “un cae i ffwrdd o’r ward”.

“Daeth pobol ataf yn anhapus nad oedd y cynghorydd presennol yn byw yn y sir.

“Fe wnaethon nhw ofyn a fyddai diddordeb gen i sefyll.”

‘Siom’ a ‘syndod’

“Mae’n destun siom a syndod, wrth gwrs, fod cydweithiwr wedi penderfynu cymryd y cam hwn, ond rwy’n falch o sefyll unwaith eto i geisio mandad y gymuned dw i’n ei hadnabod a’i charu ers 26 o flynyddoedd,” meddai’r Cynghorydd Lloyd-Williams.

“Dw i wedi cynrychioli ward Llansannan, Llannefydd a Groes ers 2008, ac yn falch o’r hyn dw i wedi’i gyflawni ar lefel leol a sirol.

“Gobeithio’n fawr y byddaf yn cael parhau â’m gwaith dros ward Llansannan ar ôl Mai 5.”

Dywed llefarydd ar ran Plaid Cymru fod “Sue Lloyd-Williams yn ymgorfforiad o bopeth mae’r Blaid yn sefyll drosto yn yr etholiad hwn, yn bencampwr cymunedol sy’n gweithio’n galed – wedi ymroi i wneud gwahaniaeth yn lleol”.

“Tra bydd gan eraill ddiddordeb mewn rhoi eu hunain yn gyntaf, unig flaenoriaeth Sue yw pobol Llansannan.”

  • Mae golwg360 ar deall bod hystings wedi’u cynnal, ond mai dim ond un enw ddaeth i law, sef Sue Lloyd-Williams. A dyna pwy wnaeth aelodau cangen Llansannan ddewis fel eu hymgeisydd dros Blaid Cymru.