Mae addysg am y gylchred fislifol yn ysgolion y Deyrnas Unedig yn anghyson ac yn annigonol, yn ôl ymchwil newydd gan Brifysgol Abertawe.

Mae’r ymchwil yn nodi bod athrawon yn teimlo bod ganddyn nhw ddiffyg amser, hyder a gwybodaeth am y pwnc.

Cynhaliodd ymchwilwyr arolwg o 789 o athrawon ysgolion cynradd ac uwchradd ledled y Deyrnas Unedig, ac roedd 88% ohonyn nhw o’r farn fod mislifoedd yn effeithio ar bresenoldeb disgyblion a’u cyfranogiad mewn ymarfer corff, yn ogystal â’u hymddygiad a’u hyder.

53% yn unig o athrawon ysgolion uwchradd oedd wedi nodi bod gwersi am y gylchred fislifol yn cael eu haddysgu yn eu hysgol.

O’r athrawon a oedd yn ymwybodol o faes llafur cylchred fislifol eu hysgol mewn ysgolion cynradd ac uwchradd, nododd 144 ohonyn nhw fod dwy wers ar y mwyaf yn cael eu darparu mewn un flwyddyn academaidd.

Roedd 90% o’r athrawon a ymatebodd i’r arolwg yn fenywod, a nododd bron i un ym mhob pedair ohonyn nhw (23%) eu bod nhw’n anghyfforddus wrth addysgu am y gylchred fislifol.

Roedd llawer ohonyn nhw’n defnyddio’u profiadau eu hunain, ac roedd llai na hanner yn hyderus am eu gwybodaeth.

Menywod mewn chwaraeon

Wedi’i hariannu gan Chwaraeon Cymru, yr astudiaeth ‘Teachers’ perceptions and experiences of menstrual cycle education and support in UK schools’ yw cam diweddaraf yr ymchwil i effaith y gylchred fislifol ar gyfranogiad menywod mewn chwaraeon.

“Rwy’n credu bod gennym lawer o waith i’w wneud o ran addysg am fislifoedd ledled y Deyrnas Unedig,” meddai Dr Natalie Brown, y prif ymchwilydd o Brifysgol Abertawe.

“Rydyn ni’n wynebu’r perygl o roi merched dan anfantais drwy fethu â’u helpu i baratoi ar gyfer symptomau corfforol ac emosiynol, a’u rheoli a’u deall, wrth gael mislif.

“Mae’n hanfodol ein bod ni’n helpu i wella hyder a gwybodaeth athrawon ynghylch y gylchred fislifol fel y bydd pobol ifanc – sef bechgyn a merched – yn gallu siarad yn hyderus am hyn wrth dyfu i fyny.

“Ni ddylai fod yn bwnc tabŵ mwyach. Mae angen i ni ail-lunio’r naratif a normaleiddio sgyrsiau am fislifoedd. Mae angen i hyn ddigwydd ymhlith athrawon, pobol ifanc a’u rhieni.”

Gwelliannau

Mae’r astudiaeth yn galw am welliannau i addysg am y gylchred fislifol ar gyfer bechgyn a merched ledled y Deyrnas Unedig, gan gynnwys:

  • sicrhau bod amser ar gael i addysgu pobl ifanc, yn enwedig eu haddysgu’n fwy rheolaidd a dechrau eu haddysgu o oed iau.
  • darparu adnoddau fel y gall athrawon gyflwyno gwybodaeth am agweddau emosiynol, cymdeithasol a chorfforol y gylchred fislifol.
  • hyfforddi athrawon, gan ddisgwyl iddyn nhw ymgymryd â datblygiad proffesiynol ar-lein drwy e-ddysgu a/neu weminar fel gofyniad sylfaenol.

Mae Dr Natalie Brown yn rhybuddio bod angen i ysgolion ymdrin ar frys â’r ffaith fod llawer o ddisgyblion wedi colli’r cyfle i ddysgu am fislifoedd o ganlyniad i bandemig Covid-19.

“Mae amseru’r adroddiad hwn yn golygu bod yn rhaid i ni hefyd amlygu effaith Covid-19,” meddai.

“Ar ôl iddyn nhw gael eu haddysgu gartref yn orfodol yn ystod cyfnodau clo cenedlaethol, mae grŵp o bobol ifanc wedi cael llawer llai o addysg am fislifoedd nag yn y gorffennol.”