Gallai gymryd hyd at bedair blynedd i restrau aros y Gwasanaeth Iechyd ddychwelyd i’r hyn oedden nhw cyn y pandemig Covid-19 pan oedden nhw’n byrhau, yn ôl Eluned Morgan.

Daw sylwadau’r Ysgrifennydd Iechyd wrth i Lywodraeth Cymru gyhoeddi cynllun i fynd i’r afael â rhestrau aros hir am apwyntiadau a thriniaethau, sydd wedi cynyddu ers dechrau’r pandemig dros ddwy flynedd yn ôl.

Roedd 691,885 o gleifion ar y rhestr aros yng Nghymru ym mis Chwefror, gyda 251,647 ohonyn nhw’n aros am naw mis neu fwy.

Y cynllun

Yn ystod cynhadledd i’r wasg heddiw (dydd Mawrth, Ebrill 26), cyhoeddodd Eluned Morgan gyfres o fesurau i geisio torri amserau aros i bobol sydd â chyflyrau iechyd nad ydyn nhw’n rai brys.

Mae’r cynllun yn gosod targed o gyflwyno 35% o’r holl apwyntiadau newydd a 50% o apwyntiadau dilynol yn rhithiol yn y dyfodol.

Bydd hyn yn arwain at £60m ychwanegol yn cael ei roi i fyrddau iechyd dros y pedair blynedd nesaf, gan gynyddu’r swm sydd wedi’i neilltuo i helpu’r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru i adfer o’r pandemig i ryw £1bn.

“Er gwaethaf holl bwysau’r pandemig, mae’r Gwasanaeth Iechyd wedi gwneud ymdrech enfawr i gynyddu’r gofal sydd wedi’i gynllunio,” meddai Eluned Morgan.

“Mae bron i 200,000 o apwyntiadau cleifion allanol yn cael eu cynnal bob mis, mae 16,000 o bobol yn cael eu derbyn ar gyfer triniaeth bob mis ac mae mwy o bobol nag erioed wedi cael gwiriadau a thriniaethau am ganser.

“Ond bydd yn cymryd o leiaf bedair blynedd i ddychwelyd i lefelau o weithgarwch cyn y pandemig pan oedd amserau aros yn gostwng ac er mwyn gwneud hyn, mae angen i ni wneud rhai newidiadau.

“Mae angen hefyd i ni fuddsoddi mewn cyfarpar, cyfleusterau newydd ac mae angen i ni barhau i fuddsoddi yn ein hasedau mwyaf, staff ein Gwasanaeth Iechyd, fel y gallwn ni roi diagnosis a thrin pobol yn gynt.

“Mae’r ffordd mae’r Gwasanaeth Iechyd yn cyflwyno gwasanaethau wedi newid dros y flwyddyn ddiwethaf.

“Bydd nifer o’r newidiadau hyn yma i aros ac mae angen i ni ail-siapio rhai o’n disgwyliadau ynghylch y Gwasanaeth Iechyd.”

Dywed yr Ysgrifennydd Iechyd fod y cynllun wedi’i greu i sicrhau na fydd neb yn aros mwy na blwyddyn am y rhan fwyaf o driniaethau erbyn gwanwyn 2025.

Mae cyfres o “dargedau ymestyn” ar gyfer byrddau iechyd wedi cael eu hamlinellu yn y cynllun, a fydd hefyd yn gweld staff y Gwasanaeth Iechyd yn cael cynnig cymhelliant i weithio oriau hirach.

Daw hyn ar ôl i’r rhan fwyaf o apwyntiadau a thriniaethau gael eu gohirio ar ddechrau’r pandemig i alluogi’r Gwasanaeth Iechyd i ganolbwyntio ar ofalu am bobol â Covid-19.

‘Diffyg uchelgais’

Fodd bynnag, mae’r gwrthbleidiau’n honni nad yw’r cynlluniau’n mynd yn ddigon pell, gyda’r Ceidwadwyr Cymreig yn eu disgrifio nhw fel rhai “heb uchelgais”.

“Mae 23 o flynyddoedd o gamreolaeth gan Lafur wedi gweld y Gwasanaeth Iechyd yn torri’r recordiau anghywir yng Nghymru,” meddai Russell George, llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Cymreig.

“Dim ond yr wythnos ddiwethaf, fe welson ni’r amserau aros gwaethaf ar gyfer adrannau brys a’r rhestr driniaethau hiraf yn hanes y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru.

“Mae angen gwneud llawer mwy.

“Mae angen i ni gael sicrwydd fod y cynllun hwn yn fwy na phlaster i’w osod dros faterion sydd wedi’u gwreiddio’n ddwfn.

“Mae hyn yn fater o fyw neu farw i bobol yng Nghymru.

“Mae’n hen bryd i weinidogion Llafur ddechrau ei drin felly.”

‘Mater o fyw neu farw’

Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi beirniadu’r cynllun, gan ddweud bod angen sicrwydd y bydd yr arian ychwanegol yn mynd tuag at lenwi bylchau yng ngweithlu’r Gwasanaeth Iechyd.

“Yr wythnos ddiwethaf, fe welsom ni amseroedd aros adrannau brys ar eu gwaethaf a rhestr triniaethau Gwasanaeth Iechyd Cymru’n hirach nag erioed. Mae angen gwneud cymaint mwy,” meddai Russell George, llefarydd iechyd y blaid.

“Rydyn ni angen sicrwydd bod y cynllun hwn yn gwneud mwy na gosod plastr dros y problemau sydd wedi’u gwreiddio’n ddwfn.

“Mae’n rhaid inni gael sicrwydd y bydd yr arian ychwanegol yn mynd tuag at ddatrys y bylchau yng ngweithlu’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol, nid tuag at offer yn unig, mae’n ymwneud â’r bobol.

“Mae hwn yn fater o fyw neu farw i bobol yng Nghymru. Mae hi’n bryd i weinidogion Llafur drin y mater felly.”

‘Angen gweithredu’r cynllun’

Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi croesawu’r manylion yn y cynllun, ond maen nhw’n dweud eu bod nhw wedi clywed addewidion tebyg drwy gydol y 22 o flynyddoedd ers i Lafur ddod i rym yng Nghymru.

“Mae cleifion a staff angen sicrwydd y bydd y cynllun hwn yn cael ei weithredu ac y bydd y rhai sy’n gwneud penderfyniadau yn cael eu dal yn atebol os nad ydyn nhw’n cwrdd â thargedau,” meddai Jane Dodds, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru.

“Mae dal yn bryder mawr inni y gallai Cymru golli 80 allan o 160 meddyg teulu dan hyfforddiant eleni yn sgil polisïau mewnfudo hynafol y Ceidwadwyr a allai effeithio’n sylweddol ar y cynlluniau sydd wedi cael eu cyhoeddi heddiw.”

Mynd i’r afael â phrinder staff

Ychwanega Rhun ap Iorwerth, llefarydd iechyd Plaid Cymru, fod angen cynllun ar y Gwasanaeth Iechyd sy’n edrych ar bob agwedd ar daith y claf drwy’r sector iechyd a gofal.

“Mae’n rhaid i hyn ddechrau gyda mwy o bwyslais ar atal, er mwyn lleihau nifer y bobol sy’n chwilio am ofal iechyd yn y lle cyntaf, a rhaid iddo gynnwys cynlluniau i gefnogi cleifion sydd angen pecynnau gofal ar ôl cael triniaeth ysbyty, er mwyn rhyddhau gwelyau,” meddai.

“Dydy hi ddim yn glir os yw’r llywodraeth yn cymryd unrhyw gamau ychwanegol i fynd i’r afael â’r gweithlu difrifol ddiffygiol dros y sector iechyd a gofal.

“Er ein bod ni’n croesawu’r cymorth ychwanegol ar gyfer rhai sydd ar restrau aros, yn ogystal â’r pwyslais newydd ar ddiagnostig, mae’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru wirioneddol angen ac yn haeddu cynllun cynhwysol sy’n mynd i’r afael â holl siwrne’r claf, gan gynnwys y gweithlu sydd ei angen i ddarparu’r gwasanaeth.”

Dywed eu bod nhw’n croesawu gosod targedau newydd ar gyfer byrddau iechyd hefyd, ond y bydd rhaid asesu lefel yr uchelgais a dal Llywodraeth Cymru’n atebol i sicrhau eu bod nhw’n cyrraedd y targedau.