Mae Aelodau o’r Senedd wedi cyhuddo awdurdodau lleol Llafur o eistedd ar arian yn hytrach na’i wario.
Yn y Senedd heddiw (dydd Mawrth, Ebrill 26), fe ddywedodd Peredur Owen Griffiths, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros ranbarth Dwyrain De Cymru, fod Cyngor Caerffili yn ymddwyn fel ‘Scrooge’.
Mae gan Gyngor Caerffili, sy’n cael ei redeg gan y Blaid Lafur, £180m yn eu cronfeydd wrth gefn, sy’n gynnydd o £40m ers 2019.
Cyngor Caerffili sydd â’r trydydd swm mwyaf wrth gefn, tu ôl i Rondda Cynon Taf sydd â bron i £208m, ac Abertawe sydd â £183m – dau gyngor arall sy’n cael eu rhedeg gan y Blaid Lafur.
Mae gan Rondda Cynon Taf fwy o arian wrth gefn na phump o gynghorau eraill Cymru gyda’i gilydd.
Rhyngddyn nhw, does gan Ferthyr Tudful, Sir Fynwy, Torfaen, Conwy ac Ynys Môn ond £169m wrth gefn.
‘Fersiwn cyngor o Scrooge’
“O siarad ag arweinwyr cynghorau yn fy rhanbarth i, mae’n deg dweud bod llawer wedi’u synnu ar yr ochr orau gan y setliad ariannol diweddaraf,” meddai Peredur Owen Griffiths yn ystod Cwestiynau’r Prif Weinidog heddiw.
“Felly mae’n rhaid ei bod yn siomedig, o’ch safbwynt chi, i weld eich cyd-aelodau yn eich plaid ym mwrdeistref sirol Caerffili yn eistedd ar gronfa wrth gefn o £180m, cynnydd o £40m rhwng blynyddoedd ariannol 2019 a 2021.
“Mae hyn £22m yn fwy na’r hyn sydd gan Gyngor Caerdydd, bwrdeistref llawer mwy, yn ei gronfeydd wrth gefn. Er bod yr arian wrth gefn yn codi, gwelwn gyfleusterau hamdden yn cau, mae goleuadau stryd wedi’u diffodd ac mae darpariaeth canolfannau gofal dydd ar gyfer oedolion ag anabledd yn cael ei thorri.
“Nid arian parod yw’r unig ateb i’r problemau hyn, ond, ym mron pob achos, byddai’n helpu i leddfu’r sefyllfa ac adfer rhai gwasanaethau.
“Brif Weinidog, a ydych yn teimlo’n rhwystredig pan fyddwch yn darparu setliadau ariannol digonol i’ch cyd-aelodau yn eich plaid mewn llywodraeth leol iddynt eistedd ar y pentyrrau hyn o arian parod, fel rhyw fersiwn cyngor o Scrooge?”
‘Eistedd ar gyfoeth bychan’
Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi tynnu sylw at y mater hefyd, gan ddweud ei bod hi’n hanfodol bod cynghorau’n defnyddio’r arian i helpu trigolion â’r argyfwng costau byw yn hytrach na’i gadw wrth gefn.
“Y cwestiwn sydd ar wefusau pawb yw a oes gan y cynghorau hyn sy’n cael eu rhedeg gan y Blaid Lafur y symiau mawr o arian wedi’u cadw wrth gefn yn dal i fod?” meddai Sam Rowlands, llefarydd llywodraeth leol y Ceidwadwyr Cymreig.
“Os ddim, i le mae’r arian wedi mynd, ac os felly, ar beth gafodd ei wario? Mae’r rheiny’n rhai o’r cwestiynau y mae trigolion yn haeddu’r atebion iddyn nhw.
“O le dw i’n sefyll, mae hi’n edrych fel bod nifer o awdurdodau Llafur wedi bod yn eistedd ar gyfoeth bychan yn hytrach na phwmpio arian yn ôl i gymunedau, gan godi biliau treth cyngor preswylwyr ar yr un pryd.”
Ychwanega Andrew RT Davies, Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, y bydd hi’n anodd i breswylwyr weld y symiau mawr o arian hyn “yn enwedig gan ein bod ni’n wynebu pwysau costau byw difrifol ar hyn o bryd”.
“Mae nifer o drigolion wedi bod yn cael trafferth cael deupen llinyn ynghyd ers sbel nawr, a bydd cael gwybod bod gan eu hawdurdod lleol ddigon o arian yn y banc i leihau’r baich yn teimlo fel ergyd fawr.
“Mae’n rhaid i weinidogion Llafur ym Mae Caerdydd weithio gydag awdurdodau lleol ac edrych ar ddefnyddio unrhyw arian ychwanegol i gadw treth cyngor yn isel, creu cyfleoedd ar gyfer cymunedau lleol, a chefnogi’r rhai sydd angen help fwyaf.”
‘Arian wedi’i glustnodi’
Wrth ymateb i gwestiynau Peredur Owen Griffiths, dywedodd Mark Drakeford fod yna gyfres o resymau pam fod cynghorau’n cadw arian wrth gefn.
“Bydd cyfran fawr o’r arian hwnnw wedi cael ei glustnodi. Mewn geiriau eraill, dyw e ddim yn arian sydd ar gael i’r cyngor ei wario,” meddai.
“Mae e yna oherwydd mae ganddyn nhw raglen ysgolion yr unfed-ganrif-ar-hugain, er enghraifft, ac mae’r arian wedi cael ei glustnodi’n barod i sicrhau bod y rhaglen yn mynd yn ei blaen.
“Mae yna arian, oherwydd bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn rhoi setliadau inni mor hwyr yn y flwyddyn, rydyn ni’n gorfod ei basio ymlaen i awdurdodau lleol yn hwyrach yn y flwyddyn hefyd. Yn hytrach na’i ddefnyddio mewn ffordd aneffeithiol fel yn y gronfa ffyniant gyffredin, maen nhw’n dal arno fel eu bod nhw’n gallu cynllunio ar y ffordd orau o’i wario.
“Felly, mae yna resymau pam bod awdurdodau lleol yn dal arian wrth gefn, ac mae hynny’n wir am awdurdodau lleol o bob plaid mewn nifer o ardaloedd yng Nghymru.”
Ychwanegodd Mark Drakeford fod Pwyllgor Cyllid y Senedd yn cynnal adolygiad i’r arian sy’n cael ei gadw wrth gefn gan awdurdodau lleol, a’u bod nhw’n hapus i sicrhau eu bod nhw ond yn cadw arian wrth gefn ar gyfer rhesymau “priodol”.
‘Nifer o resymau dros gadw arian wrth gefn’
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Rhondda Cynon Taf eu bod nhw’n cadw arian wrth gefn am nifer o resymau, gan gynnwys i gefnogi eu cynaliadwyedd ariannol tymor canolig a thymor hwy.
“Bydd hyn yn cynnwys cyllid ar gyfer risgiau ariannol posibl yn y dyfodol (er enghraifft hawliadau yswiriant a ariennir eu hunain), cyllid ar gyfer buddsoddi a mentrau nad ydynt wedi’u cwblhau ar adeg hyn o bryd, a buddsoddi i warchod cyfleoedd. Caiff cronfeydd wrth gefn y Cyngor eu hadolygu’n barhaus, ac maen nhw’n rhan o’n trefniadau cynllunio ariannol a chynllunio gwasanaethau tymor canolig,” meddai.
“Mae gennym hefyd raglen buddsoddi cyfalaf tair blynedd uchelgeisiol, wedi’i chymeradwyo a’i hariannu’n llawn (65% yn uwch na chyfartaledd Cymru ar sail tebyg am debyg, fesul pen dros y tair blynedd diwethaf) – gyda thros £66m yn cael ei gadw yn ein cronfeydd wrth gefn fel cyllid wedi’i neilltuo ar gyfer cynlluniau cyfalaf cymeradwy fel meysydd chwarae newydd, gwelliannau i seilwaith priffyrdd, uwchraddio seilwaith draenio llifogydd, gwelliannau mawr i ganol trefi, gwelliannau i ystafelloedd dosbarth ysgolion, cartrefi Gofal Ychwanegol newydd i’r rhai sy’n agored i niwed a’r henoed, ac ati. Mae hyn yn cyd-fynd â blaenoriaethau Cynllun Corfforaethol y Cyngor.
“Caiff datganiadau ariannol y Cyngor eu hadolygu a’u dilysu gan Archwilio Cymru yn flynyddol. Yn ogystal, ym mis Awst 2021 cyhoeddodd Archwilio Cymru adroddiad ar Gynaliadwyedd Ariannol y Cyngor. Roedd hyn yn ailddatgan bod gan y Cyngor lefel iach o gronfeydd wrth gefn ac mae’n eu defnyddio i gefnogi ei gynaliadwyedd ariannol.
“Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf yw’r ail Gyngor mwyaf yng Nghymru yn ariannol.”
Mae golwg360 wedi gofyn i gynghorau Caerffili ac Abertawe am ymateb.