Ar drothwy dadl yn y Senedd, mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn galw ar Lywodraeth Cymru i gefnu ar eu cynlluniau dadleuol i gyflwyno treth dwristiaeth.

Mae’r Torïaid yn dweud y gallai cyflwyno’r dreth niweidiol gostio swyddi, ac y dylid gwneud tro pedol er lles y diwydiant twristiaeth yng Nghymru.

Bydd dadl awr o hyd yn cael ei chynnal brynhawn dydd Mercher (Ebrill 27).

Bydd y Ceidwadwyr hefyd yn pwyso ar y Llywodraeth i gefnu ar eu cynlluniau i ymestyn nifer y diwrnodau y mae’n rhaid i eiddo fod wedi cael ei archebu er mwyn bodloni gofynion annomestig, a hynny yn sgil pryderon y bydd yn tanseilio busnesau sy’n cynnig llety gwyliau.

Hunanarlwyo

Daw’r alwad ddiwrnodau’n unig ar ôl i grwpiau twristiaeth a lletygarwch alw ar Lywodraeth Cymru i ailystyried eu cynlluniau i drethu llety hunanarlwyo.

O fis Ebrill y flwyddyn nesaf, o dan y cynllun, byddai busnesau hunanarlwyo nad ydyn nhw’n cyrraedd y trothwy’n gorfod talu treth y cyngor am ail gartref, yn hytrach na chyfraddau busnes.

Bydd gan awdurdodau lleol Cymru y pwerau i gynyddu treth y cyngor ar yr holl fusnesau hyn o hyd at 300%.

Mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn dweud y dylai Llywodraeth Lafur Cymru fod yn gwneud popeth o fewn eu gallu i helpu’r diwydiant twristiaeth.

‘Gelyn sy’n cosbi’

“Mae Cymru’n wlad fywiog sydd ag ardaloedd o harddwch naturiol eithriadol ac atyniadau o’r radd flaenaf, ac mae’n amlwg pam fod cynifer o bobol yn dewis aros yma wrth ddod ar eu gwyliau,” meddai Tom Giffard, llefarydd diwylliant, twristiaeth a chwaraeon y Ceidwadwyr Cymreig.

“Fodd bynnag, mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn poeni nad Cymru fydd y prif gyrchfan o ddewis yn y dyfodol os yw’r Llywodraeth Lafur hwn yn symud ymlaen â’u cynlluniau treth ergyd ddwbl gwarthus, na fyddan nhw’n gwneud dim byd ond cosbi busnesau drwy annog twristiaid i gadw draw ac, yn y pen draw, yn costio swyddi pobol.

“Ar adeg pan ddylai gweinidogion Llafur fod yn ffrind i’r diwydiant wrth i ni geisio adfer o’r pandemig, maen nhw wedi penderfynu bod yn elyn a’u cosbi nhw gyda’r ddrwy dreth ychwanegol hyn.

“Mae’n hanfodol fod gweinidogion Llafur yn rhoi’r gorau i orfodi polisi o Fae Caerdydd, yn gwrando ac yn cydweithio gyda busnesau twristiaeth ac arweinwyr y diwydiant, a chefnu ar y cynlluniau treth economaidd anllythrennog hyn a fydd yn cosbi cymunedau twristiaeth ledled Cymru sy’n gweithio’n galed.”

Ymateb Llywodraeth Cymru

“Mae ardollau ymwelwyr yn gyffredin ledled y byd, gyda refeniw’n cael ei ddefnyddio er budd cymunedau, twristiaid a busnesau lleol,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.

“Byddwn yn ystyried pob barn fel rhan o’r broses ymgynghori yr hydref hwn.

“Mae’r broses ofalus o ddatblygu cynigion ar gyfer ardoll, eu trosi’n ddeddfwriaeth, ac yna i’w cyflawni a’u gweithredu yn rhychwantu blynyddoedd, a bydd yn amodol ar gymeradwyaeth y Senedd.

“Mae’r cynigion i ddiwygio’r meini prawf gosod ar gyfer llety hunanarlwyo sydd i’w rhestru ar gyfer ardrethi annomestig yn rhan o’n dull ehangach o ymdrin â fforddiadwyedd, yn ogystal â mynd i’r afael â’r effaith y mae ail gartrefi ac eiddo gwag hirdymor yn ei chael mewn rhai cymunedau.

“Bwriad y newid yn y meini prawf yw sicrhau bod yr eiddo dan sylw yn cael ei osod yn rheolaidd fel rhan o fusnesau llety gwyliau go iawn ac yn gwneud cyfraniad sylweddol i’r economi leol.

“Buom yn ymgynghori ar y dull polisi y llynedd ac ar hyn o bryd rydym yn dadansoddi’r ymatebion i’r ymgynghoriad technegol diweddar ar y newidiadau arfaethedig i’r meini prawf gosod.

“Byddwn yn parhau i ystyried effaith unrhyw newidiadau a wnawn ar aelwydydd, busnesau a chymunedau.”