Bydd Estyn, y corff arolygu ysgolion, yn cynorthwyo pobol ifanc i dynnu sylw at aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion drwy adroddiad newydd.
Heddiw (dydd Mercher, Ebrill 27), byddan nhw’n cyhoeddi adroddiad er mwyn cynorthwyo pobol ifanc i deimlo’n fwy hyderus wrth adnabod a herio aflonyddu rhywiol ac ymddygiad amhriodol gan ddisgyblion eraill.
Bydd yr adroddiad yn addas ar gyfer pobol ifanc, ac yn helpu staff a disgyblion i atgyfnerthu negeseuon am beth yw ymddygiad sy’n dderbyniol neu sydd ddim yn dderbyniol.
Yr adroddiad
Roedd yr adroddiad ‘Dydyn ni ddim yn dweud wrth ein hathrawon‘ yn dweud bod hanner disgyblion uwchradd Cymru wedi cael eu haflonyddu’n rhywiol gan ddisgybl arall.
Ar ôl holi 1,300 o ddisgyblion uwchradd rhwng 12 ac 18 oed, daeth i’r amlwg bod aflonyddu rhwng cyfoedion yn digwydd ar-lein a thu allan i’r ysgol yn bennaf, ond eu bod nhw’n teimlo ei bod hi’n bwysig fod athrawon a staff yn deall ei fod mor gyffredin.
Dywedodd disgyblion wrth arolygwyr fod heclo, rhywun yn gofyn iddynt am luniau noeth, pobol yn gwneud sylwadau cas neu homoffobig a chywilyddio corff wedi dod yn broblem fawr, a dywedon nhw eu bod nhw eisiau i athrawon gymryd camau rhagweithiol ac ataliol i ddelio ag aflonyddu rhywiol ymhlith pobol ifanc.
Mae’r adroddiad newydd sy’n addas ar gyfer pobl ifanc wedi’i gynllunio i fod yn hygyrch i bobol ifanc, ac yn canolbwyntio ar negeseuon allweddol gwaith ymchwil Estyn a gafodd eu cyhoeddi fis Rhagfyr y llynedd, ynghyd â chyfeirio disgyblion mewn modd defnyddiol at ragor o wybodaeth a chymorth.
Yn ogystal, mae’n darparu ystod o bwyntiau trafod y gall ysgolion a chynghorau ysgolion eu defnyddio i archwilio’r materion.
Daeth i’r amlwg o’r adroddiad mai dim ond dau ym mhob deg disgybl sydd wedi cael eu haflonyddu’n rhywiol sy’n dweud wrth athro, ac oherwydd ei fod yn digwydd mor aml, mae llawer yn ei ystyried yn ymddygiad ‘normal’.
Mae Estyn yn awyddus i gynorthwyo ysgolion i herio’r cysyniad hynny gyda thrafodaeth agored.
‘Herio ar draws cymdeithas’
“Rydyn ni’n falch y bydd ein hadroddiad diweddaraf yn cynorthwyo cymunedau ysgolion ledled Cymru i ddeall a herio aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion yn well, a gwybod ble i fynd am gyngor,” meddai Owen Evans, Prif Arolygydd Ei Mawrhydi yn Estyn.
“Dysgwyr sydd wrth wraidd ein gwaith, ac mae’r adroddiad hwn yn cynnwys mewnwelediadau gan ddarparwyr ledled Cymru gyfan a fydd yn cynnig syniadau gwerthfawr i wella ymagwedd ysgolion. Canfuom ni fod yr ysgolion gorau yn gwneud yn siŵr fod parch yn brif flaenoriaeth.
“Ni ddylai fod rhaid i bobol ifanc ddelio ag aflonyddu rhywiol o unrhyw fath, ac rydyn ni’n bryderus ynghylch canfyddiadau ein hadroddiad diweddar, sy’n dangos bod y mater hwn yn dod yn broblem fawr i bobl ifanc ac ysgolion a’i fod yn digwydd yn amlach nag yr ydym yn meddwl. Rhaid herio’r ymddygiad hwn ar draws cymdeithas.
“Mae angen i ni gyd weithio gyda’n gilydd i newid agweddau ac ymddygiad ynghylch aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion, a bydden ni’n annog ysgolion i ddatblygu ymagwedd ‘ysgol gyfan’ at addysg a herio’r mater hwn.”