Mae’r dull ar gyfer profi am Covid-19 ymysg cleifion yn ysbytai Cymru wedi cael ei ddiweddaru heddiw (dydd Mercher, Ebrill 27).
Cafodd y newidiadau eu cyflwyno gan Lywodraeth Cymru “gan fod y brechlynnau wedi bod yn effeithiol dros ben wrth leihau’r risg o gael salwch symptomatig, clefyd difrifol, mynd i’r ysbyty a’r risg o farwolaeth”.
Mae triniaethau gwrthfeirol wedi helpu i leihau difrifoldeb y clefyd hefyd, yn arbennig i’r rhai sy’n fwyaf tebygol o fynd yn wael, meddai.
Bydd y newidiadau yn berthnasol i gleifion sy’n cael eu derbyn i’r ysbyty ar gyfer triniaethau sydd wedi’u trefnu, derbyniadau ar gyfer gofal heb ei drefnu, cleifion asymptomatig a symptomatig ar ôl cael eu derbyn, a chleifion sy’n cael eu rhyddhau.
Y gobaith yw y bydd y newidiadau yn rhoi hwb i ofal cyffredinol a gofal brys mewn ysbytai, ac yn gwella llif cleifion drwy driniaethau ysbyty.
Mae’r newidiadau, sy’n seiliedig ar dystiolaeth wyddonol ac arbenigol, yn cael eu gwneud er mwyn helpu’r byrddau iechyd i gydbwyso risgiau Covid-19 gyda’r angen i ddarparu gofal iechyd cyffredinol a brys yn ddiogel.
Gall hyn gael “effaith gadarnhaol ar y sector iechyd a gofal cymdeithasol cyfan”, meddai Eluned Morgan, Ysgrifennydd Iechyd Cymru.
Mae staff gofal iechyd sy’n gweithio gyda chleifion yn parhau i gael eu cynghori i gymryd profion llif unffordd ddwywaith yr wythnos, ond mae’r cyngor hwn yn cael ei adolygu’n rheolaidd.
Y drefn newydd
- Profion cyn derbyn cleifion
Bydd cleifion asymptomatig sy’n cael llawdriniaeth neu gemotherapi yn cael prawf PCR neu Brofion Pwynt Gofal (POCT) 72 awr cyn cael eu derbyn, a bydd gofyn iddyn nhw hunanynysu tan eu triniaeth.
O ran cleifion asymptomatig risg isel sy’n cael eu derbyn ar gyfer triniaethau risg isel, gallai’r Bwrdd Iechyd benderfynu bod prawf llif unffordd negyddol wrth gyrraedd, neu ychydig cyn hynny, yn ddigon.
- Derbyniadau heb eu trefnu
Bydd cleifion â symptomau anadlol yn cael eu profi ar gyfer amrywiaeth o glefydau (Covid-19, ffliw, RSV, ac ati) ar brawf PCR neu POCT.
Bydd cleifion heb symptomau anadlol yn cael prawf llif unffordd Covid yn unig wrth gael eu derbyn.
- Cleifion asymptomatig ar ôl iddyn nhw gael eu derbyn
Does dim cyngor i barhau i brofi oni bai bod angen hynny ar lefel leol.
- Cleifion symptomatig ar ôl iddyn nhw gael eu derbyn
Bydd profion yn parhau, gyda phrawf PCR neu POCT ar gyfer Covid-19 ac afiechydon anadlol eraill.
- Rhyddhau cleifion
Caiff byrddau iechyd eu hannog i weithio gyda darparwyr cartrefi gofal ar drefniadau profi wrth ryddhau cleifion.
Dylai cleifion asymptomatig nad ydyn nhw wedi profi’n bositif am Covid yn flaenorol gael eu profi o fewn 24 awr o’r adeg pan bwriedir eu rhyddhau i gyfleuster gofal.
‘Y pandemig heb ddiflannu’
Caiff y newidiadau i brofi mewn ysbytai eu gwneud nawr oherwydd, yn ystod cyfnodau pan fo nifer uchel o achosion o Covid-19 yn y gymuned, effaith gymharol fach mae hyn wedi’i chael ar nifer y derbyniadau i’r ysbyty a marwolaethau, ac mae nifer y marwolaethau sy’n gysylltiedig â throsglwyddiad o fewn ysbytai hefyd wedi gostwng yn sylweddol, yn ôl Llywodraeth Cymru.
“Nid yw’r pandemig wedi diflannu, ac rydym yn dal i ddysgu i fyw gyda Covid-19, ond mae’r sefyllfa bresennol o ran iechyd y cyhoedd yn ein galluogi ni i wneud newidiadau priodol i’r drefn brofi sy’n cefnogi Byrddau Iechyd i weithredu’r strategaethau atal a rheoli heintiau angenrheidiol a fydd yn cael effaith gadarnhaol ar ofal cyffredinol a gofal brys,” meddai Eluned Morgan.
“Rydyn ni’n gwneud y newidiadau hyn ar sail y dystiolaeth wyddonol ac arbenigol orau sydd ar gael ar hyn o bryd o ran iechyd y cyhoedd; newidiadau sy’n caniatáu ar gyfer penderfyniadau lleol i gefnogi’r gofal gorau posibl i gleifion.
“Diolch i’n rhaglen frechu anhygoel, mae’r risg bod y Gwasanaeth Iechyd yn cael ei orlethu bellach wedi gostwng yn sylweddol, a gallwn wneud newidiadau i’r drefn brofi o fewn cyd-destun mesurau atal a rheoli heintiau eraill.”