Does yna ddim golwg o olau ar ddiwedd y twnnel i bobol sy’n disgwyl am driniaethau tuag at endometriosis, meddai un fenyw o Rhondda Cynon Taf wrth golwg360.

Roedd Sarah Cummings o Donysguboriau i fod i gael triniaeth laparosgopi ym mis Mawrth 2020 i drin y cyflwr.

Ond ddechrau’r wythnos, ar ôl aros bron i bum mlynedd, dywedodd Bwrdd Iechyd Cwm Taf wrthi “nad yw’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn gwneud llawdriniaethau ar gyfer menywod ag endometriosis o gwbl”, meddai.

Cafodd ddiagnosis yn 2002 ac ers y cyfnod clo, mae ei chyflwr wedi gwaethygu’n sylweddol, ac mae hi’n dweud ei bod hi’n “desperate” am lawdriniaeth erbyn hyn.

Mae endometriosis yn gyflwr gynecolegol sy’n effeithio ar un ym mhob deg menyw yn y Deyrnas Unedig, lle mae celloedd fel y rhai yn leinin y groth yn tyfu mewn rhannau eraill o’r corff fel yr ofarïau a’r tiwbiau Ffalopaidd.

O ganlyniad, gall achosi poen ddifrifol a gwaedu trwm, anffrwythlondeb a blinder cronig.

‘Torcalonnus’

“Pwrpas y laparosgopi oedd rhoi thermal ablation ac excision (llosgi a thorri darnau o’r endometriosis, yn syml),” eglura Sarah Cummings.

“Roeddwn i ar restr aros ar gyfer hynny am bron i ddwy flynedd a hanner. Yna wythnos cyn y llawdriniaeth, daeth y cyfnod clo cyntaf i rym felly cafodd y llawdriniaeth ei gohirio.

“Ymlaen at nawr, a dw i dal i aros.

“Sawl mis yn ôl, fe wnaeth ysgrifennydd [yr ysbyty] fy ffonio a gofyn a fyswn i’n barod i fynd at Bupa neu Spire, gan fod y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn gyrru pobol i ysbytai preifat er mwyn delio â’r ôl-groniad.

“Dywedais i wrthyn nhw y byswn i’n mynd i unrhyw le!”

Ond aeth misoedd heibio heb glywed dim ac ar ddydd Llun (Ebrill 25), cafodd hi weld ei hymgynghorydd a ddywedodd wrthi “nad yw’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn gwneud llawdriniaethau ar gyfer menywod ag endometriosis o gwbl”.

“Felly dyw e ddim yn achos o aros hirach, yn hytrach dyw e ddim yn mynd i ddigwydd,” meddai.

“Es i yno ar ôl aros bron i bum mlynedd i gael gwybod nad ydw i am gael y llawdriniaeth dw i ei hangen gymaint. Fydd yr un ddynes yn ei chael.

“Mae’n dorcalonnus a dw i’n cael trafferth prosesu hyn. Dw i’n 46 oed, a dw i wedi dioddef ers oeddwn i’n 12 oed.

“Dw i’n gwybod am y pwysau sydd ar y Gwasanaeth Iechyd Gwladol felly dw i wedi aros yn amyneddgar, a thrwy gydol hynny, mae fy iechyd wedi dirywio.

“Dw i mewn poen drwy’r amser a dw i’n cael trafferth yn feddyliol, gyda dim golau i’w weld ar ddiwedd y twnnel.”

‘Disgwyl i fenywod fyw efo’r boen’

Mae’r meddyg eisiau rhoi pigiadau i Sarah Cummings bob mis nawr er mwyn dechrau ei menopos gyda chemegau, ac yna rhoi Therapi Adfer Hormonau (HRT) iddi.

“Dw i wedi trio hynny o’r blaen, a wnaeth e ddim gweithio. Fe wnaeth e fy ngwneud i’n sâl,” meddai.

Mae yna brinder mewn rhai mathau o HRT ar hyn o bryd, ac mae hi’n pryderu am hynny hefyd.

“Mae menopos cemegol yn ddramatig, dyw e ddim yn araf fel un arferol, felly byddaf angen dos uchel o HRT i helpu fy nghorff i ymdopi,” meddai wedyn.

“Mae gen i ofn. Dyw e ddim yn wellhad. Does yna ddim gwellhad, dim ond mwy o gyffuriau, mwy o sgil effeithiau? Gwych!

“Dw i eisiau torri’r peth yma allan ohona i, dyna’r unig beth all fy helpu, sef pam fy mod i’n cael y llawdriniaeth yn y lle cyntaf.

“Pam fod y Gwasanaeth Iechyd Gwladol wedi stopio gwneud llawdriniaethau? Beth yw’r rhesymeg?

“Dyw iechyd menywod ddim yn bwysig. Mae disgwyl i ni fyw efo’r boen. Ei ddioddef.”

‘Methu newid dros nos’

Cafodd achos Sarah Cummings ei godi gan Heledd Fychan, Aelod o’r Senedd Plaid Cymru dros Ganolbarth De Cymru, yn y Senedd a gofynnodd i Ysgrifennydd Iechyd Llywodraeth Cymru sut mae posib sicrhau nad yw Sarah Cummings ac eraill yn yr un sefyllfa’n teimlo’n anweledig.

“Alla i ddweud wrthych chi bod endometriosis yn faes dw i wir wedi trio canolbwyntio arno, oherwydd dw i’n meddwl ei fod yn faes sydd wedi cael ei ddiystyru ers rhy hir o lawer,” meddai Eluned Morgan wrth ateb.

“A dyna un rheswm pam y bydda i, erbyn diwedd y tymor hwn, yn cynhyrchu cynllun iechyd menywod, oherwydd dw i’n meddwl ei bod hi’n bwysig iawn ein bod ni’n canolbwyntio ar iechyd menywod.

“Mae yna gymaint o feysydd nad ydyn ni’n eu deall. Beth yw clefyd siwgr i fenywod? Sut mae’n effeithio menywod? Asthma mewn menywod, awtistiaeth mewn menywod, yr holl feysydd hyn – rhaid inni edrych drwy lens menywod ar yr holl gyflyrau hyn.”

Dywedodd fod yna grŵp yn edrych ar endometriosis, a’u bod nhw’n dechrau gweld canlyniadau.

“Dw i’n falch iawn bod gennym ni arbenigwyr o ran nyrsys endometriosis ymhob bwrdd iechyd,” meddai.

“Yn amlwg, rydyn ni angen mwy o feddygon sy’n gallu delio ag e, ond mae’n rhan o’r cynllun.

“Allwn ni ddim newid pethau dros nos, ond mae’r nyrsys hynny yn rhan o’r cynllun.

“Dw i wedi bod yn clywed ganddyn nhw ac wedi gweld cyflwyniadau ganddyn nhw yn esbonio a disgrifio sut i ddweud wrth gleifion ymdopi â phoen.

“Dw i wrth fy modd ein bod ni wedi penodi dau arweinydd clinigol cenedlaethol ar gyfer ymdopi â phoen, un yn Aneurin Bevan a llall ym Mhowys, a dw i’n gobeithio y bydd pobol sy’n byw ag endometriosis yn gallu cael mynediad atyn nhw hefyd.

“Felly, mae yna lot mwy o waith i’w wneud ar endometriosis, ond dw i’n falch iawn gyda’r cynnydd rydyn ni’n ei wneud yn barod.”

Mae golwg360 wedi gofyn i Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf am ymateb.

Penodi nyrsys endometriosis newydd i wella diagnosis o’r cyflwr

Mae’r cyflwr cronig yn effeithio ar un ym mhob deg menyw, a bydd y penodiadau yn helpu i godi ymwybyddiaeth o’r cyflwr, medd Llywodraeth Cymru

Galw am wella gofal endometriosis

Sian Williams

Mae dynes o ochrau Caerdydd wedi cychwyn deiseb sy’n galw ar Senedd Cymru i wella gofal iechyd endometriosis yng Nghymru