Dylai Prydain a phwerau eraill y Gorllewin ddarparu awyrennau rhyfel a thanciau i Wcráin, yn ôl Liz Truss, Ysgrifennydd Tramor y Deyrnas Unedig.

Mewn araith yn Llundain, bydd Liz Truss yn dadlau bod yn rhaid i’r Gorllewin “fod yn barod ar gyfer taith hirdymor a dyblu ein cefnogaeth” i’r wlad.

Ers ymosodiad Rwsia, mae Wcráin wedi gofyn dro ar ôl tro Nato a’r Gorllewin am arfau megis awyrennau a thanciau.

Daw hyn ar ôl i Mick Antoniw, Cwnsler Cyffredinol Cymru a Gweinidog y Cyfansoddiad, ddweud wrth golwg360 yn ddiweddar nad yw Wcráin “wedi derbyn y gefnogaeth sydd ei hangen” gan y Gorllewin.

Bydd Liz Truss yn dweud wrth gynulleidfa yn Mansion House, Llundain, fod “tynged Wcráin yn parhau i fod yn y fantol” ac na all y Gorllewin “laesu eu dwylo”.

Yr yr araith, mae disgwyl iddi ddweud, “Os bydd Putin yn llwyddo, gallwn ddisgwyl gweld dioddefaint pellach ar draws Ewrop a chanlyniadau ofnadwy ar draws y byd.

“Fydden ni byth yn teimlo’n ddiogel eto.

“Mae angen i ni ddarparu arfau trwm – tanciau, awyrennau – a chynyddu’r nifer o arfau rydym yn eu cynhyrchu.

“Mae angen i ni wneud hyn oll.”

Fodd bynnag, mae araith Liz Truss “yn gyfaddefiad o fethiant ar ôl mwy na degawd o ddirywiad” yn ymrwymiad y llywodraeth i amddiffyn a diogelwch, yn ôl David Lammy, llefarydd materion tramor yr wrthblaid yn San Steffan.

Cyfle i wneud yn iawn’

“Dw i ddim yn credu bod Wcráin wedi derbyn y gefnogaeth sydd ei hangen arnyn nhw hyd yma, mae popeth wedi bod yn rhy ychydig ac yn rhy hwyr,” meddai Mick Antoniw, wrth siarad â golwg360 yn gynharach y mis hwn.

“Mae nawr yn gyfle i wneud yn iawn am hynny, ond does dim amheuaeth bod yna wendidau enfawr ar yr ochr Ewropeaidd.

“Yn gyntaf, y ffaith fod yr Almaen yn ariannu’r rhyfel i bob pwrpas.

“Mae’n rhaid i’r Almaen, ond hefyd Ffrainc, yr Eidal, ac Awstria, wrthod prynu mwy o olew gan Rwsia. Mae angen boicot economaidd llwyr.

“Mae’n hollol hurt fod gwledydd Ewropeaidd ar un llaw yn cyflenwi Wcráin gydag arfau ac ar y llaw arall yn rhoi arian i [Vladimir] Putin sy’n caniatáu iddo ariannu’r rhyfel.”