Mae menter newydd i hybu twristiaeth gynaliadwy yn cael ei lansio yn Aberystwyth heddiw (dydd Mercher, Ebrill 27).
Bydd academyddion o Brifysgol Aberystwyth yn arwain ar brosiect Ewropeaidd newydd i hybu twristiaeth mewn ardaloedd gwledig yng Nghymru ac Iwerddon.
Bydd y prosiect newydd gwerth €3m, a gafodd ei gyhoeddi ar Ddydd San Padrig, yn cael ei arwain gan ymchwilwyr o Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear Prifysgol Aberystwyth mewn partneriaeth â Choleg Prifysgol Dulyn ac Ymddiriedolaeth Archeolegol Dyfed.
Caiff ei ariannu gan €2.4m o Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop yr Undeb Ewropeaidd drwy raglen Cydweithio Cymru Iwerddon.
Bydd y cynllun yn gweithredu am gyfnod o ddwy flynedd ym mynyddoedd y Cambria, y Preseli, Wicklow a Blackstairs er mwyn manteisio ar eu treftadaeth ddiwylliannol a naturiol i hybu mathau cynaliadwy o dwristiaeth.
Mae’r prosiect Cymru-Iwerddon yn cynnwys sawl elfen, gan gynnwys: defnydd o dechnoleg i ychwanegu at brofiad ymwelwyr; creu rhwydwaith dwristiaeth a strategaeth farchnata ar y cyd; a chydweithio gydag ysgolion ac eraill i gofnodi hanesion diwylliannol lleol.
Mae’r fenter, a gaiff ei hadnabod fel prosiect Ucheldiroedd Arfordirol: Treftadaeth a Thwristiaeth yn anelu at ddod â budd economaidd yn ogystal.
Y nod yw cynyddu niferoedd y twristiaid yn yr ardaloedd hyn o 5% ynghyd â’u gwariant, gan greu neu ehangu wyth microfenter leol.
?️?Nesaf, @rhys_raj yn trafod nod uchelgeisiol CUPHAT i hyrwyddo twristiaeth gynaliadwy mewn ucheldiroedd arfordirol@PrifYsgol_Aber @DyfedArch @ucddublin @visitwales @Failte_Ireland#EUIrelandWales #Lansiad_CUPHAT pic.twitter.com/RpLdBfixyO
— CUPHAT – Coastal Uplands: Heritage and Tourism (@CUP_HAT_) April 27, 2022
Seilwaith twristiaeth ‘heb ei ddatblygu’n ddigonol’
“Yn hanesyddol mae pedair ardal ucheldirol arfordirol Mynyddoedd Cambria, y Preseli, Wicklow a Blackstairs wedi bod yn ddibynnol ar ddiwydiannau traddodiadol fel amaethyddiaeth a choedwigaeth,” meddai’r Athro Rhys Jones o Brifysgol Aberystwyth wrth egluro’r gwaith.
“Mae gan bob un o’r pedair ardal rywfaint o seilwaith twristiaeth yn ogystal ond, ar hyn o bryd, nid yw hyn wedi’i ddatblygu’n ddigonol, yn enwedig o’i gymharu â’r dwristiaeth dorfol sy’n digwydd ar hyd arfordiroedd Iwerddon a Chymru.
“Yng Nghymru ac Iwerddon, mae Brecsit yn debygol o gael effaith ar dwristiaeth.
“Fodd bynnag, yn annisgwyl, gallai Brecsit a phandemig COVID-19 annog mwy o bobol i fynd ar wyliau gartref.
“Mae hyn yn creu cyfleoedd i fwy o ranbarthau elwa o fathau newydd o dwristiaid domestig sydd am fynd ati i archwilio’r ardaloedd o ucheldir arfordirol llai masnachol.”
‘Cyfle cyffrous i gymunedau lleol’
Yn arwain y prosiect yn Iwerddon mae Dr Christine Bonnin a Dr Arlene Crampsie o Ysgol Daearyddiaeth Coleg Prifysgol Dulyn.
“Gan dynnu ar dreftadaeth naturiol a diwylliannol cyfoethog yr ucheldiroedd arfordirol sy’n ffinio â Môr Iwerddon, mae’r prosiect hwn yn cynnig cyfle cyffrous i gymunedau lleol a rhanddeiliaid twristiaeth ddatblygu cynigion twristiaeth gynaliadwy, leol priodol,” meddai’r ddwy mewn datganiad ar y cyd.
“Gan gyfuno mentrau twristiaeth treftadaeth bresennol a newydd, bydd y prosiect yn arddangos agweddau cyffredin ac unigryw ein treftadaeth ar y cyd i gynulleidfa amrywiol o ymwelwyr, gan helpu i adeiladu twristiaeth gynaliadwy trwy ddatblygu cymunedol.”
Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi croesawu’r prosiect “a fydd yn gwella profiad ymwelwyr yng Nghymru a hefyd yn cryfhau ein perthynas â’n cymydog Ewropeaidd agosaf, Iwerddon”.
“Mae’r prosiect hwn yn cyd-fynd â’n strategaeth dwristiaeth trwy gefnogi ein huchelgais i dyfu twristiaeth mewn modd sydd yn gynaliadwy trwy ymestyn y tymor ac annog ymwelwyr i ddarganfod ardaloedd newydd sy’n barod ar gyfer twristiaeth,” meddai Vaughan Gething, Ysgrifennydd Economi Cymru.
“Edrychwn ymlaen at weithio gyda’r tîm ar brosiect arall a fydd yn dod â’n dwy wlad yn nes at ei gilydd.”
Mae Michael McGrath TD, Gweinidog Gwariant Cyhoeddus a Diwygio Llywodraeth Iwerddon, wedi llongyfarch y prosiect “am eu llwyddiant wrth ddenu cymorth gan Raglen Gydweithredu Iwerddon Cymru 2014-2020 i wella potensial twristiaeth rhai o ardaloedd mwyaf ymylol Cymru ac Iwerddon”.
“Maent yn ardaloedd o harddwch naturiol gwych a chefndiroedd hanesyddol cryf,” meddai.
“Bydd adeiladu ar yr adnoddau hyn trwy ddatblygu twristiaeth gynaliadwy yn helpu i ddatgloi potensial economaidd y rhanbarthau hyn nad yw wedi’i gyffwrdd.
“Mae prosiectau a phartneriaethau fel hyn yn symbolau pwysig o’r cydweithio parhaus rhwng Cymru a De Ddwyrain Iwerddon.”
Dywed Kenneth Murphy o Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed fod yna “gyfle gwych i arddangos i’r byd y tirweddau ucheldirol unigryw hyn yng Nghymru ac Iwerddon”.