Bydd academyddion o Brifysgol Aberystwyth yn arwain ar brosiect Ewropeaidd newydd i hybu twristiaeth mewn ardaloedd gwledig yng Nghymru ac Iwerddon.

Bydd y prosiect newydd gwerth €3m, sydd wedi’i gyhoeddi ar ddydd San Padrig, yn cael ei arwain gan ymchwilwyr o Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear Prifysgol Aberystwyth mewn partneriaeth â Choleg Prifysgol Dulyn ac Ymddiriedolaeth Archeolegol Dyfed.

Caiff ei ariannu gan €2.4m o Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop yr Undeb Ewropeaidd drwy raglen Cydweithio Cymru Iwerddon.

Bydd y cynllun yn gweithredu am gyfnod o ddwy flynedd ym mynyddoedd y Cambria, y Preseli, Wicklow a Blackstairs er mwyn manteisio ar eu treftadaeth ddiwylliannol a naturiol i hybu mathau cynaliadwy o dwristiaeth.

Mae’r prosiect Cymru-Iwerddon yn cynnwys sawl elfen, gan gynnwys y defnydd o dechnoleg i ychwanegu at brofiad ymwelwyr, creu rhwydwaith dwristiaeth a strategaeth farchnata ar y cyd, a chydweithio gydag ysgolion ac eraill i gofnodi hanesion diwylliannol lleol.

Mae’r fenter, sy’n cael ei adnabod fel prosiect Ucheldiroedd Arfordirol: Treftadaeth a Thwristiaeth yn anelu at ddod â budd economaidd yn ogystal.

Ei nod yw cynyddu nifer y twristiaid yn yr ardaloedd hyn o 5%, ynghyd â’u gwariant, gan greu neu ehangu wyth microfenter leol.

Diffyg datblygiad digonol

“Yn hanesyddol mae pedair ardal ucheldirol arfordirol Mynyddoedd Cambria, y Preseli, Wicklow a Blackstairs wedi bod yn ddibynnol ar ddiwydiannau traddodiadol fel amaethyddiaeth a choedwigaeth,” meddai’r Athro Rhys Jones o Brifysgol Aberystwyth.

“Mae gan bob un o’r pedair ardal rywfaint o seilwaith twristiaeth yn ogystal ond, ar hyn o bryd, nid yw hyn wedi’i ddatblygu’n ddigonol, yn enwedig o’i gymharu â’r dwristiaeth dorfol sy’n digwydd ar hyd arfordiroedd Iwerddon a Chymru.

“Yng Nghymru ac Iwerddon, mae Brecsit yn debygol o gael effaith ar dwristiaeth. Fodd bynnag, yn annisgwyl, gallai Brecsit a phandemig COVID-19 annog mwy o bobol i fynd ar wyliau gartref.

“Mae hyn yn creu cyfleoedd i fwy o ranbarthau elwa o fathau newydd o dwristiaid domestig sydd am fynd ati i archwilio’r ardaloedd o ucheldir arfordirol llai masnachol.”

‘Tynnu ar dreftadaeth naturiol a diwylliannol cyfoethog’

Arweinwyr y prosiect yn Iwerddon yw Dr Christine Bonnin a Dr Arlene Crampsie o Ysgol Daearyddiaeth Coleg Prifysgol Dulyn.

“Gan dynnu ar dreftadaeth naturiol a diwylliannol cyfoethog yr ucheldiroedd arfordirol sy’n ffinio â Môr Iwerddon, mae’r prosiect hwn yn cynnig cyfle cyffrous i gymunedau lleol a rhanddeiliaid twristiaeth ddatblygu cynigion twristiaeth gynaliadwy, leol priodol,” meddai’r ddwy.

“Gan gyfuno mentrau twristiaeth treftadaeth bresennol a newydd, bydd y prosiect yn arddangos agweddau cyffredin ac unigryw ein treftadaeth ar y cyd i gynulleidfa amrywiol o ymwelwyr, gan helpu i adeiladu twristiaeth gynaliadwy trwy ddatblygu cymunedol.”

‘Gwella profiad ymwelwyr’

“Rydym yn croesawu datblygiad prosiectau a fydd yn gwella profiad ymwelwyr yng Nghymru a hefyd yn cryfhau ein perthynas â’n cymydog Ewropeaidd agosaf, Iwerddon,” meddai Vaughan Gething, Ysgrifennydd Economi Cymru.

“Mae’r prosiect hwn yn cyd-fynd â’n strategaeth dwristiaeth trwy gefnogi ein huchelgais i dyfu twristiaeth mewn modd sydd yn gynaliadwy trwy ymestyn y tymor ac annog ymwelwyr i ddarganfod ardaloedd newydd sy’n barod ar gyfer twristiaeth.

“Edrychwn ymlaen at weithio gyda’r tîm ar brosiect arall a fydd yn dod â’n dwy wlad yn nes at ei gilydd.”

Mae Michael McGrath, Gweinidog Gwariant Cyhoeddus a Diwygio Llywodraeth Iwerddon wedi llongyfarch y prosiect “wrth ddenu cymorth gan Raglen Gydweithredu Iwerddon Cymru 2014-2020 i wella potensial twristiaeth rhai o ardaloedd mwyaf ymylol Cymru ac Iwerddon”.

“Maent yn ardaloedd o harddwch naturiol gwych a chefndiroedd hanesyddol cryf,” meddai.

“Bydd adeiladu ar yr adnoddau hyn trwy ddatblygu twristiaeth gynaliadwy yn helpu i ddatgloi potensial economaidd y rhanbarthau hyn nad yw wedi’i gyffwrdd.

“Mae prosiectau a phartneriaethau fel hyn yn symbolau pwysig o’r cydweithio parhaus rhwng Cymru a De Ddwyrain Iwerddon.”

Yn ôl Kenneth Murphy o Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed, mae’r prosiect yn “gyfle gwych i arddangos i’r byd y tirweddau ucheldirol unigryw hyn yng Nghymru ac Iwerddon”.

“Edrychwn ymlaen at weithio gyda’n partneriaid yn Aberystwyth a Dulyn,” meddai.

Mae manylion llawn am y prosiect ar gael ar y wefan Ucheldiroedd Arfordirol: Treftadaeth a Thwristiaeth.