Bydd rhai cleifion sydd angen triniaeth feddygol o dan ofal Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn cael eu hanfon i Lerpwl i dderbyn gofal oherwydd diffyg staff.
Dywed y bwrdd iechyd yng ngogledd Cymru y bydd “nifer fach iawn o achosion fasgwlaidd cymhleth” yn cael eu hanfon i Loegr dros y pedair wythnos nesaf.
Ychwanega’r bwrdd eu bod nhw’n bwriadu cyflogi staff ychwanegol.
Daw hyn wrth i adroddiad damniol i wasanaethau fasgwlaidd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ganfod fod cleifion yn cael gofal israddol.
Mwy o gydweithio
Mewn datganiad ddoe (dydd Mercher, Mawrth 16), dywedodd Dr Nick Lyons, Cyfarwyddwr Meddygol Gweithredol Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC), eu bod nhw’n gweithredu argymhellion yr adroddiad hwnnw, gan gynnwys “cydweithio’n agosach gyda rhwydwaith fasgwlaidd Lerpwl”.
Dywed ei fod yn disgwyl y bydd y newid yn golygu y bydd tua phedair triniaeth frys ychwanegol yn cael eu cynnal yn Ymddiriedolaeth GIG Ysbytai Prifysgol Lerpwl, yn hytrach nag yn Ysbyty Glan Clwyd.
Fodd bynnag, ychwanegodd hefyd y byddai rhai triniaethau arferol yn cael eu gohirio.
“Bydd y rhan fwyaf o weithgarwch gwasanaeth fasgwlaidd fel llawdriniaeth arferol, triniaethau diagnostig ac apwyntiadau cleifion allanol yn parhau yn y gogledd fel yr arfer,” meddai’r datganiad.
“Mae hyn yn golygu y bydd y rhan fwyaf o gleifion yn parhau i gael llawdriniaeth fasgwlaidd yn Ysbyty Glan Clwyd, er ein bod yn disgwyl i bump claf arall yr wythnos ohirio eu llawdriniaeth dros yr un cyfnod o bedair wythnos.
“Yn ogystal, bydd tua 12 apwyntiad claf allanol yr wythnos (tua 50 yn ystod y cyfnod hwn o bedair wythnos) yn cael eu gohirio.”