Mae galwadau yn y Senedd i gynyddu’r gefnogaeth sydd ar gael i’r rheiny oddi ar y grid nwy.

Daw hyn ar ôl i brisiau olew godi o 66.74c y litr i 148.25c y litr yn y bythefnos ddiwethaf.

Mae llawer o aelwydydd sydd oddi ar y grid nwy yn gorfod defnyddio tanwydd fel olew neu nwy petroliwm hylifol (LPG) er mwyn cynhesu eu tai, ac felly’n wynebu talu biliau uwch.

Fe wnaeth Jane Dodds, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig, ofyn i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol Jane Hutt a oes modd cyflwyno taliad untro i bawb sydd wedi eu heffeithio.

Mae hi’n poeni’n arbennig am bobol sydd mewn ardaloedd gwledig, gan fod llawer ohonyn sydd heb fod ar y rhwydwaith nwy.

Oddi ar y grid

Yn Sir Gaerfyrddin, mae 20,194 o aelwydydd yn defnyddio olew, tra bod 17,335 o aelwydydd yn gwneud hynny ym Mhowys.

Yng Ngheredigion, mae 11,407 o aelwydydd yn gorfod defnyddio olew, gyda chyfanswm o 82.4% o aelwydydd y sir oddi ar y grid nwy.

Mae 12,982 o gartrefi yn Sir Benfro yn defnyddio olew, ac yng Ngwynedd mae’r ffigwr yn 9,172.

Ar y cyfan, mae ymhell dros hanner y tai yn yr holl siroedd hyn heb eu cysylltu i’r rhwydwaith nwy.

‘Achosi llawer iawn o boen’

Mae Jane Dodds, sy’n cynrychioli rhanbarth Canolbarth a Gorllewin Cymru yn y Senedd, yn hynod o bryderus am yr effaith ar bobol mewn ardaloedd gwledig.

“Mae llawer eisoes yn cael eu gorfodi i wneud y dewis rhwng gwresogi a bwyta,” meddai.

“Tra bod pob cartref yn wynebu cynnydd mawr yn eu biliau ynni yn ystod y misoedd nesaf, mae’r aelwydydd hynny oddi ar y grid ledled Cymru sy’n dibynnu ar olew gwresogi yn lle nwy gwresogi neu drydan yn gweld codiadau anferthol, heb amddiffyniad y cap ar brisiau ynni.

“Mae’n mynd i achosi llawer iawn o boen i nifer fawr o bobol. Mae gen i drigolion ar draws fy rhanbarth sy’n wirioneddol ofnus ynglŷn â sut maen nhw’n mynd i lenwi eu tanc olew nesaf ac mae llawer ohonyn nhw’n byw mewn tai cymdeithasol heb eu hinsiwleiddio.

“Mae hyn yn effeithio ar bobol ar draws y sbectrwm economaidd-gymdeithasol, ac mae hyn yn dod ar ben codiadau treth y Ceidwadwyr a thoriadau i gredyd cynhwysol.

“Rwy’n galw ar Lywodraeth Cymru i roi taliad untro i’r rhai sy’n dibynnu ar olew gwresogi ac LPG i’w helpu drwy’r cyfnod anodd hwn.”

Fe atebodd Jane Hutt drwy ddweud eu bod nhw’n cefnogi’r cartrefi hynny sydd oddi ar y grid drwy’r Gronfa Cymorth Dewisol, yn ogystal â chynnig taliad cost byw o £150 i rai aelwydydd penodol.

Cynnydd mewn biliau ynni yn uwch yn ardaloedd gwledig Cymru, medd y Democratiaid Rhyddfrydol

Bydd y cap sydd ar filiau ynni yn codi’n sylweddol ym mis Ebrill, gyda saith o’r 20 ardal sy’n cael eu taro waethaf wedi eu lleoli yng Nghymru

Cynnydd mewn costau byw yn “argyfwng” yn ôl y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru

Bydd llawer o deuluoedd ledled Cymru yn cael trafferth i ymdopi’r gaeaf hwn, medd arweinydd y blaid Jane Dodds