Mae cael cwmnïau newyddion yn nwylo pobol Cymru yn “hanfodol” er mwyn datblygu gwasg a chyfryngau iach, yn ôl y newyddiadurwr a sylfaenydd cwmni golwg, Dylan Iorwerth.
Dywed mai dim ond hynny fydd yn sicrhau mai “buddiannau Cymru ac anghenion cymunedau fydd yn dod yn gyntaf”.
Dechreuodd ei daith fel newyddiadurwr dros 40 mlynedd yn ôl, gan sefydlu papur newydd Sulyn a chylchgrawn wythnosol Golwg yn ystod y 1980au.
Ond yn ystod ei yrfa, mae wedi gweld newidiadau mawr yn y byd newyddiadurol a’r cyfryngau yng Nghymru, gyda nifer o wasanaethau newyddion wedi eu cau neu eu cwtogi dros y degawdau.
Yr wythnos hon, roedd yn siarad mewn digwyddiad yn Llanbed am effaith y cyfryngau ar y gymdeithas Gymreig, yn enwedig wrth ystyried y ddadl am annibyniaeth.
‘Gwasanaeth newyddion yn cael ei dlodi’
Dros y blynyddoedd, mae nifer o bapurau newydd lleol yng ngwledydd Prydain wedi cael eu rheoli gan gwmnïau mawr, sy’n gyfrifol am ddegau o bapurau Cymru.
Mae Dylan Iorwerth yn pryderu am yr effaith gaiff hynny ar wasanaethau newyddion.
“Mae’r berchnogaeth yn ofnadwy o bwysig,” meddai wrth golwg360.
“Fel arall, mae pethau’n mynd a dod.
“Mae hanes yr ychydig ddegawdau diwethaf, a’r cyfnod ers pan dw i wedi bod yn gweithio fel newyddiadurwr, yn dangos bod cwmnïau mawr yn prynu papurau lleol. Wedyn mae swyddfeydd yn cau, mae newyddiadurwyr yn cael eu diswyddo, ac maen nhw’n gwneud heb olygyddion.
“Oherwydd hynny, mae’r gwasanaeth newyddion yn cael ei dlodi.”
Elw’n bwysicach na dim
Y broblem, yn ôl Dylan Iorwerth, yw fod y cwmnïau hyn yn gweithredu er elw, ac nid er budd y cyhoedd Cymreig.
“Yn naturiol, dyletswydd gyntaf y cwmnïau mawr hyn yw tuag at eu cyfranddalwyr,” meddai.
“Hefyd, fyswn i’n dadlau – os ydyn ni angen gwasg gwirioneddol gryf a byd cyfryngau cryf yng Nghymru, mae’n rhaid i ni gael perchnogaeth gan gwmnïau sydd wedi ymrwymo i newyddiaduraeth yng Nghymru, yn hytrach na’u cyfranddalwyr.
“Mae’n bwysig gwneud elw, wrth reswm, ond er mwyn y cynnyrch y dylai hynny fod.”
Cwmnïau fel Reach a Newsquest sy’n berchen ar lawer o bapurau newydd lleol yng Nghymru, yn ogystal â rhai o bapurau newydd mwyaf y Deyrnas Unedig.
“Ar adegau pan mae cwmnïau fel hyn yn meddwl bod elw yn rhywle, yna maen nhw’n buddsoddi,” meddai.
“Fuodd yna Welsh Mirror am gyfnod pan oedden nhw’n meddwl y byddai rhyw bremiwm o ddatganoli, ond yn amlwg, wnaeth hynny ddim digwydd yn fasnachol.
“Ac wedyn, fe wnaethon nhw roi’r gorau i fersiwn Cymreig y Mirror, a dyna sy’n dueddol o ddigwydd.”
O’r wasg i’r we
Mae nifer o bethau wedi achosi i’r wasg a’r cyfryngau yng Nghymru leihau, gan gynnwys dyfodiad y we.
“Y peryg efo’r we ydi bod pawb yn cyhoeddi’r un stori,” meddai.
“Ar y we, dydy’r hyn sydd ar gael ddim yn cymharu efo’r hyn yr oedd yr hen bapurau lleol yn ei wneud.
“Hyd yn hyn, dydy’r gwefannau annibynnol lleol iawn ddim wedi dod i gymryd eu lle.
“Ond mae’r cwestiwn bob amser yn dod yn ôl i bwy sy’n berchnogion ar y cyfryngau a pham eu bod nhw yn y busnes.”
Yn fwy diweddar, mae sgil-effeithiau ariannol Covid wedi cynyddu’r pwysau ar gwmnïau newyddion, yn enwedig yn lleol.
Teimla Dylan Iorwerth y byddai cwmnïau sydd wedi eu lleoli yng Nghymru yn ymrwymo i wneud eu gorau glas er parhad gwasanaethau newyddion, er lles y cyfryngau a’r cyhoedd.
“Mae hanes yn awgrymu pan aiff pethau’n galed, elw a difidendau i gyfranddalwyr fydd yn cyfri fwyaf i gwmnïau mawr fel hyn,” meddai.
“Iddyn nhw, y peryg ydy mai dim ond mentrau masnachol bach ymhlith nifer anferth ydi papurau a gwefannau Cymru.”