Dyma’r newyddion wythnos yma gan Bethan Lloyd, golygydd Lingo Newydd…

  • Mae yna alw unwaith eto am gael ymchwiliad Covid-19 i Gymru
  • Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cynllun i daclo rhestrau aros hir y Gwasanaeth Iechyd
  • Dydy cynghorwyr ddim eisiau gwneud Gŵyl y Banc y Jiwbilî’n un parhaol
  • Mae’r Urdd wedi cyhoeddi lein-yp llawn Gŵyl Triban

Galw am gael ymchwiliad Covid-19 i Gymru

Mark Drakeford
Mark Drakeford

Mae yna alw unwaith eto am gael ymchwiliad Covid-19 i Gymru.

Mae Plaid Cymru yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynnal ymchwiliad ar wahân i Gymru. Mae’r blaid wedi gofyn i’r Prif Weinidog Mark Drakeford os ydy o dal yn hapus i Lywodraeth y Deyrnas Unedig gynnal yr ymchwiliad.

Mae hyn yn dod ar ôl i’r Uchel Lys ddweud bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi torri’r gyfraith. Roedd hyn am eu bod nhw wedi anfon cleifion ysbytai, oedd heb gael prawf Covid, i gartrefi gofal yn Lloegr ar ddechrau’r pandemig.

Roedden nhw heb ddiogelu 20,000 o bobl mewn cartrefi gofal oedd wedi marw ar ôl cael Covid-19, meddai’r barnwyr.

Roedden nhw wedi dweud bod y llywodraeth wedi methu edrych ar y risg i bobl hŷn a bregus os oedden nhw’n dal y firws gan bobol heb symptomau.

Rŵan mae Plaid Cymru wedi ysgrifennu at Mark Drakeford yn gofyn iddo edrych eto ar hyn.

Rhun ap Iorwerth ydy llefarydd iechyd Plaid Cymru. Mae o’n dweud bod Mark Drakeford wedi galw ar y Prif Weinidog Boris Johnson i ymddiswyddo ar ôl iddo gael dirwy am gynnal partïon yn Downing Street.

Ond rŵan mae’n dweud bod Mark Drakeford yn “ymddiried” yn Boris Johnson i gynnal ymchwiliad i Covid-19 yng Nghymru.

Mae Plaid Cymru’n dweud bod polisi Llywodraeth Cymru o wrthod profion i gartrefi gofal ar ddechrau’r pandemig yn “sgandal cenedlaethol”.

Jane Dodds ydy arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru. Mae hi’n dweud bod yr achos yn yr Uchel Lys “yn dangos pam fod angen ymchwiliad Covid Cymru yn lle ymchwiliad i Gymru a Lloegr”.

Os ydy Llywodraeth yr Alban yn gallu cynnal ymchwiliad i’r ffordd roedden nhw wedi delio gyda Covid-19, does dim rheswm pam bod Cymru ddim yn gallu gwneud hynny hefyd, meddai Jane Dodds.

Mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn dweud ei bod hi’n “annerbyniol” bod dim ymchwiliad penodol i Gymru yn cael ei gynnal.

Cyhoeddi cynllun i daclo rhestrau aros hir y Gwasanaeth Iechyd

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cynllun i daclo rhestrau aros hir y Gwasanaeth Iechyd. Mae rhestrau aros am apwyntiadau a thriniaethau wedi mynd yn waeth ers dechrau’r pandemig yn 2020.

Roedd llawer o apwyntiadau a thriniaethau wedi cael eu gohirio ar ddechrau’r pandemig fel bod y Gwasanaeth Iechyd yn gallu gofalu am bobol gyda Covid-19.

Roedd 691,885 o bobl ar y rhestr aros yng Nghymru ym mis Chwefror. Mae 251,647 ohonyn nhw’n aros am naw mis neu fwy.

Mae’r cynllun yn cynnwys gwneud rhai apwyntiadau yn rhithiol yn y dyfodol.

Bydd byrddau iechyd yn cael £60m ychwanegol dros y pedair blynedd nesaf, i helpu’r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru i wella ar ôl y pandemig.

Eluned Morgan ydy’r Ysgrifennydd Iechyd. Mae hi’n dweud y gall gymryd tua phedair blynedd i restrau aros fynd yn ôl i’r lefelau cyn y pandemig.

Mae hi’n dweud bydd y cynllun yn trio gwneud yn siŵr bod neb yn aros mwy na blwyddyn am y rhan fwyaf o driniaethau erbyn 2025.

Ond mae’r gwrthbleidiau’n dweud bod y cynlluniau ddim yn mynd yn ddigon pell.

Russell George ydy llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Cymreig.

Dywedodd: “Yr wythnos ddiwethaf, fe welson ni’r amserau aros gwaethaf ar gyfer adrannau brys a’r rhestr driniaethau hiraf yn hanes y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru.

“Mae angen gwneud llawer mwy.”

Mae Plaid Cymru a’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi dweud bod angen gwneud yn siŵr bod targedau’n cael eu cyrraedd a bod angen mwy o staff.


Cynghorwyr ddim eisiau gwneud Gŵyl y Banc y Jiwbilî’n un parhaol

Y Frenhines Elizabeth II

Mae cynghorwyr wedi dweud eu bod nhw ddim eisiau gwneud Gŵyl y Banc Jiwbilî’r Frenhines yn un parhaol.

Mae arweinwyr busnes wedi galw am wneud Gŵyl y Banc y Jiwbilî ar Fehefin 3, yn un parhaol. Maen nhw wedi ysgrifennu llythyr at Boris Johnson yn galw am hyn. Mae’n debyg bod Rishi Sunak, Canghellor y Trysorlys, yn meddwl am y cynnig.

Ond mae cynghorwyr yng Nghymru wedi dweud y byddai San Steffan yn “rhagrithiol iawn” os ydyn nhw’n gwneud hyn.

Mae Elwyn Edwards yn gynghorydd Plaid Cymru ar Gyngor Gwynedd. Roedd o wedi galw ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i gael Gŵyl Banc Dewi Sant. Ond roedd San Steffan wedi gwrthod. Maen nhw’n dweud bod gormod o bobl yn croesi’r ffin rhwng Cymru a Lloegr a byddai Gŵyl Banc ar Fawrth 1 ddim yn gweithio.

Roedd Cyngor Gwynedd wedi penderfynu rhoi diwrnod o wyliau i’w staff ar Ddydd Gŵyl Dewi. Roedd tri chynghorydd wedi gwrthwynebu oherwydd y costau. Roedd wedi costio tua £200,000.

Ond mae Elwyn Edwards yn dweud: “Beth sy’n bwysig efo Dydd Gŵyl Dewi yw ein bod ni’n cadw hunaniaeth y genedl.”

Mae’n dweud bod Gŵyl y Banc y Jiwbilî yn “arwydd o Brydeindod.”

Mae gwaith ymchwil wedi dangos byddai’n costio tua £831m y flwyddyn i wneud Gŵyl y Banc y Jiwbilî yn barhaol.

Roedd golwg360 wedi cynnal pôl piniwn ar Twitter am hyn. Dim ond 16% o ddarllenwyr oedd eisiau gwneud diwrnod gŵyl banc ar gyfer Jiwbilî’r Frenhines yn un parhaol bob blwyddyn.


Cyhoeddi lein-yp llawn Gŵyl Triban

TribanMae’r Urdd wedi cyhoeddi’r lein-yp llawn ar gyfer Gŵyl Triban.

Dyma’r ŵyl fydd yn cael ei chynnal yn ystod Eisteddfod yr Urdd yn Sir Ddinbych rhwng Mehefin 2-4.

Mae’r Urdd yn dathlu 100 mlynedd ers ei sefydlu eleni. Maen nhw’n dweud bydd yr ŵyl yn “flas o nostalgia”.

Mae’r Urdd yn ei galw’n “aduniad mwya’r ganrif”.

Mae’r lein-yp yn apelio at bob oedran, meddai’r Urdd.

Bydd bandiau yn chwarae cerddoriaeth gyfoes a hen ffefrynnau.

Dyma rai o’r artistiaid sy’n cymryd rhan: Cabarela, Yws Gwynedd, Tara Bandito, Gwilym, Ciwb, Bwncath, Mellt, Dilwyn Price a’r band, Eden, Y Cledrau, Delwyn Sion, Tecwyn Ifan, Adwaith, N’famady Koyuate, Eädyth ac Izzy.

Bydd cyfle i aelodau a chyn-aelodau o’r Urdd i hel atgofion drwy’r penwythnos.

Siân Eirian ydy Cyfarwyddwr Eisteddfod yr Urdd a’r Celfyddydau. Mae hi’n dweud bod hyn yn ffordd o ddiolch i bawb sydd wedi cefnogi’r Urdd.

Mae Gŵyl Triban am ddim i bawb, diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cymru.

Mi fedrwch chi gael tocynnau am ddim ar www.urdd.cymru/triban.

Geirfa

Ymchwiliad – investigation

Torri’r gyfraith – unlawful

Cartrefi gofal – care homes

Bregus – vulnerable

Llefarydd – spokesperson

Ymddiried – trust

Dirwy – fine

Annerbyniol – unacceptable

Penodol – specific

Rhestrau aros – waiting lists

Rhithiol – virtual

Parhaol – permanent

Rhagrithiol – hypocritical

Gwrthwynebu – to object

Hunaniaeth – identity

Prydeindod – Britishness

Aduniad – reunion

Hel atgofion – reminisce