Gall trigolion Caerdydd ddisgwyl gwledd o gerddoriaeth yng Nghlwb Ifor Bach ddydd Sul (Mai 1) wrth i Twrw Trwy’r Dydd ddychwelyd am y tro cyntaf ers mis Mai 2019.
Yn perfformio bydd Yr Eira, Chroma, Tara Bandito, Hyll, Mantis, Malan a DJ Dilys.
Bydd y drysau yn agor am 4 o’r gloch, gyda’r digwyddiad yn dod i ben bron i 12 awr yn ddiweddarach am 3 o’r gloch y bore.
“Dw i wedi cyffroi yn lân”
“Hwn yw’r un cyntaf ers Covid felly dw i wedi cyffroi yn lân,” meddai’r trefnydd Elan Evans wrth golwg360.
“Mae gigs Cymraeg yn digwydd yn Clwb yn fisol felly mae o’n rhan annatod o beth rydyn ni’n ei wneud yn fan hyn.
“Ac mae mor neis ein bod ni nawr yn gallu dod yn ôl at Twrw Trwy’r Dydd achos roedden ni’n cael gymaint o hwyl jyst yn ei roi e ‘mlaen a dw i wastad yn meddwl am fis Mai fel mis Twrw Trwy’r Dydd – mae e’n uchafbwynt calendr fi.
“Dw i jyst yn rili edrych ‘mlaen.”
“Roedd fy inbox i’n llawn”
Sut mae Elan wedi ffeindio’r broses o fynd yn ôl ati i drefnu gigs ers diwedd y cyfnod clo felly?
“Pan ddaru ni ailagor Clwb ar ôl y pandemig yn amlwg roedd lot o artistiaid wedi rhyddhau albyms yn 2020 a lot ohonyn nhw heb allu cael y cyfle i chwarae unrhyw beth yn fyw, oni bai bod e’n cael ei ffrydio ar-lein,” meddai.
“Felly mae e’n neis bod gyda nhw rhywle sy’n rhoi gigs ymlaen, rhywle maen nhw’n gwybod eu bod nhw’n cael good crowd… pobol yna i wrando arnyn nhw.
“Mae e’n ddiddorol achos unwaith daethon ni gyd nol ar ôl y pandemig a mynd ati i drefnu gigs roedd fy inbox i’n llawn e-byst gan lwyth o fandiau oedd eisiau chwarae’n fyw eto.
“Beth ‘da ni wedi gweld yw ella bod yna lai o fandiau newydd achos yn amlwg mae’r pandemig yn mynd i fod wedi cael effaith ar fandiau newydd yn dod trwyddo.
“Ond dw i’n credu bod e’n dechrau setlo mwy nawr, dw i’n clywed am fwy o fandiau yn cychwyn ac eisiau cyfleoedd newydd.
“Felly mae’n neis nawr ein bod ni’n gallu rhoi cyfleoedd iddyn nhw.
“Mae yna fandiau newydd yng Nghaerdydd hefyd sy’n dechrau torri drwyddo fel Mantis, sy’n chwarae dydd Sul.
“Felly mae e’n neis ein bod ni’n gallu rhoi’r llwyfan yna iddyn nhw i chwarae gydag acts mawr fel Yr Eira a Chroma.”