Mae’r artist, dylunydd a gwneuthurwr dillad Megan Elinor wedi bod yn archwilio sut mae merched yn cael eu portreadu mewn straeon tylwyth teg drwy greu penwisgoedd.

Dechreuodd Megan Elinor, sy’n dod yn wreiddiol o Lanidloes ond sydd bellach yn byw yn Aberystwyth, greu penwisgoedd yn ei hamser sbâr wrth astudio am radd mewn Darlunio a Dylunio Graffeg.

Fel rhan o un o’i phrosiectau, buodd yr artist llawn amser yn edrych ar sut mae menywod yn cael eu portreadu, cysyniadau patriarchaidd, a delfrydau harddwch mewn straeon tylwyth teg.

“Rydyn ni i gyd yn cael ein magu ar y straeon hyn. Roedd menywod wastad yn ymostyngol, yn wrthrychau chwant. Maen nhw naill ai’n brydferth ac yn dda, neu’n ddrwg ac yn hyll fel y llysfam ddrwg. Does yna ddim byd yn y canol,” meddai Megan Elinor wrth golwg360.

“Cafodd lot o’r gwaith ei ysbrydoli gan Angela Carter, mae hi’n edrych ar lot o’r safbwyntiau patriarchaidd.”

Mae gwaith Angela Carter, awdur a bardd o Loegr, yn cynnwys stori fer ‘The Werewolf’, sy’n newid stori’r Hugan Fach Goch fel ei bod hi’n torri pawennau’r bleidd-ddyn ar y diwedd.

Ar sail hynny, fe wnaeth Megan Elinor greu penwisg yn seiliedig ar yr addasiad, gan ystyried sut mae addasu ac ail-ddylunio chwedlau a straeon tylwyth teg yn hanfodol er mwyn herio stereoteipiau hynafol ynghylch rhywedd.

“Mae’r [addasiad] yn cael ei gosod mewn stori gwbl wahanol i’r straeon tylwyth teg y cawsom ni eu magu arnyn nhw.”

Drwy benwisg arall mae hi’n archwilio addasiad o’r Princess and the Frog gan Natalie Frank, arlunydd sy’n rhoi grym i fenywod straeon tylwyth teg.

Thema’r addasiad yw bod menywod yn oruchafol yn hytrach nag yn ymostyngol, wrth i’r Dywysoges wrthod y llyffant a’i daflu’n erbyn wal. Caiff ei thywysog ei ddangos iddi drwy ei farwolaeth.

“Cyn i’r Brodyr Grimm gymryd yr holl straeon tylwyth teg hyn, a’u troi nhw’n weithiau barddonol, roedden nhw’n straeon dychrynllyd ac roedden nhw’n cael eu hadrodd gan fenywod o genhedlaeth i genhedlaeth fel rhybuddion, yn bennaf, am bethau y dylai plant ifanc fod yn ymwybodol ohonyn nhw,” meddai Megan Elinor.

Penwisgoedd Megan Elinor

Murluniau

Gwniadwraig yw mam Megan Elinor, a dysgodd ei nain a’i mam-gu iddi sut i grosio a gweu.

“Roeddwn i wastad wedi fy amgylchynu gan fenywod sydd, fel dw i’n ei weld, yn gwneud rhywbeth allan o ddim byd,” meddai.

“Chefais i erioed wersi mewn tecstilau, ond fe wnes i ddysgu lot gan y menywod yn fy nheulu – dw i’n ddiolchgar iawn am hynny.”

Mae gan Megan Elinor siop ar-lein, Pom Pom Pixie, lle mae hi’n gwerthu penwisgoedd, yn ogystal â phrintiadau o’i gwaith, clustdlysau, dillad a chadwynni.

Un o furluniau Megan yn Aberystwyth

Ond gwneud murluniau yw ei phrif waith ar y funud, a bellach mae dau o’i murluniau i’w gweld yn Aberystwyth – un o ddolffiniaid Bae Ceredigion er mwyn codi ymwybyddiaeth am golli bioamrywiaeth ac un o’r bandstand a phobol yn neidio i’r môr.

Mae trydydd murlun, un o fenyw Gymreig, y mynyddoedd, a blodau brodorol Llwybr yr Arfordir, ar ei ffordd i’r dref hefyd, ac mae Megan Elinor wrth ei bodd yn creu’r darluniau i bobol eu eu mwynhau, ac yn angerddol iawn am ei gwaith.

“Mae’r adborth rydych chi’n ei gael o greu’r gofodau hyn i bobol yn anhygoel,” meddai.

“Dw i wedi cael pobol o bob oed yn dweud eu bod nhw’n goleuo’r dref a’r gofodau hynny.”

  • Mwy yn Golwg yr wythnos hon:

Newid hinsawdd: mae’r sgrifen – a’r lluniau – ar y mur

Cadi Dafydd

“Mae’r adborth rydych chi’n ei gael o greu’r gofodau hyn i bobol yn anhygoel, dw i wedi cael pobol o bob oed yn dweud eu bod nhw’n goleuo’r dref”