Mae’r Prif Weinidog Mark Drakeford ac Adam Price, arweinydd Plaid Cymru, wedi amlinellu’r ffordd ymlaen ar gyfer diwygio’r Senedd.
Dylid cynyddu maint y Senedd o 60 i 96 o aelodau, meddai’r datganiad ar y cyd gan y ddau.
Maen nhw’n awyddus i’r Senedd gael ei diwygio mewn pryd ar gyfer yr etholiad nesaf yn 2026, hyd yn oed os bydd rhai o’r newidiadau’n rhai dros dro.
Mewn llythyr at Huw Irranca-Davies, cadeirydd y Pwyllgor Diben arbennig trawsbleidiol ar Ddiwygio’r Senedd, mae Mark Drakeford ac Adam Price wedi gwneud datganiad safbwynt ar y cyd i gefnogi gwaith y pwyllgor i wneud argymhellion a fydd yn siapio Bil Diwygio’r Senedd.
Rhaid i’r pwyllgor gyhoeddi ei adroddiadau erbyn Mai 31, a bydd dadl a phleidlais yn cael eu cynnal yn y Senedd wedyn.
Mae’r datganiad gan Adam Price a Mark Drakeford wedi cael ei wneud yn sgil trafodaethau parhaus rhwng y ddau fel rhan o’r Cytundeb Cydweithio.
Mae’r datganiad yn nodi’r canlynol:
- Dylai fod gan y Senedd 96 o Aelodau.
- Dylid eu hethol gan ddefnyddio rhestrau cyfrannol caeedig gyda chwotâu rhywedd statudol integredig a rhestrau ‘am yn ail’ gorfodol.
- Dylid dyrannu seddi i bleidiau gan ddefnyddio fformiwla D’Hondt – system gwbl gyfrannol.
- Dylai etholiad y Senedd yn 2026 ddefnyddio’r 32 etholaeth derfynol yn Senedd y DU a gynigid gan y Comisiwn Ffiniau i Gymru unwaith y byddan nhw wedi cwblhau eu Hadolygiad Seneddol yn 2023.
- Dylid cyplysu’r etholaethau hyn er mwyn creu 16 o etholaethau’r Senedd. Dylai pob etholaeth ethol chwe Aelod.
- Dylid cychwyn arolwg llawn o’r ffiniau yn ystod tymor y Senedd hon, a dylai ei argymhellion ddod i rym yn etholiad nesaf y Senedd.
‘Senedd fodern’
Mae’r achos dros ddiwygio’r Senedd “wedi’i wneud”, meddai Mark Drakeford.
“Mae angen inni nawr fwrw ymlaen â’r gwaith caled i greu Senedd fodern sy’n adlewyrchu Cymru fel y mae heddiw; Senedd sydd wir yn gweithio i Gymru,” meddai.
“Bydd y datganiad safbwynt ar y cyd yr ydyn ni’n ei gyhoeddi heddiw yn helpu i gefnogi gwaith pwysig y Pwyllgor Diben Arbennig trawsbleidiol i fwrw ymlaen â’r gwaith o ddiwygio’r Senedd.”
Heddiw, rwyf wedi ysgrifennu at Bwyllgor Diben Arbennig @SeneddCymru gyda @Adamprice i osod ein datganiad ar y cyd ar ffordd newydd ymlaen ar gyfer diwygio’r Senedd.
➡️ https://t.co/NjAF6Q0VJz pic.twitter.com/aWSZ15yHOa
— Mark Drakeford (@PrifWeinidog) May 10, 2022
‘Democratiaeth gryfach’
Dywed Adam Price y bydd y diwygiadau hyn yn “gosod y sylfeini ar gyfer democratiaeth gryfach yng Nghymru a Senedd decach, fwy cynrychiadol a fydd yn edrych yn hollol wahanol i’r system wleidyddol yn San Steffan, system sydd wedi hen ddyddio”.
“Bydd gan Senedd gryfach, fwy amrywiol a mwy cynrychiadol fwy o allu i gyflawni ei brif ddiben, sef gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau pobl Cymru,” meddai.
‘Adlewyrchu holl leisiau Cymru’
Mae Plaid Cymru wedi croesawu’r argymhellion, gan ddweud y bydd y Senedd yn gryfach yn ei sgil.
Byddai’r argymhellion hyn yn golygu bod Aelodau’r Senedd yn cael eu hethol drwy system gwbl gyfrannol, gan olygu mai Cymru fyddai’r wlad gyntaf yn y Deyrnas Unedig i ddiddymu’r system Cyntaf i’r Felin ar lefel seneddol.
Wrth ymateb i’r llythyr ar y cyd, dywed Rhys ab Owen, llefarydd Grŵp Senedd Plaid Cymru ar y Cyfansoddiad, fod y cytundeb yn un “hanesyddol”.
“Mae’n paratoi’r ffordd ar gyfer Senedd gryfach gyda mwy o gapasiti i wneud gwahaniaeth i fywydau pobol ledled ein gwlad gan roi hwb i’n democratiaeth – a’i wneud yn decach ac yn fwy cynrychioliadol,” meddai.
“Bydd rhai o ymrwymiadau maniffesto allweddol Plaid Cymru nawr yn cael eu gweithredu. Bydd gennym Senedd gryfach gyda 96 o aelodau yn cael eu hethol drwy system bleidleisio etholiadol gyfrannol – yn gyfreithiol gytbwys o ran rhywedd a hynny erbyn yr etholiad nesaf yn 2026.
“Nid mater o fod eisiau rhagor o wleidyddion yw hwn. Mae’n fater o sicrhau fod ein Senedd ni yn addas i gynrychioli ein pobl ac adlewyrchu holl leisiau a dyheadau cymdeithas Cymru.”