Mae angen ystyried y gost o beidio cynyddu nifer Aelodau’r Senedd, yn hytrach na’r gost o wneud newidiadau, yn ôl cyfarwyddwr Cymdeithas Diwygio Etholiadol Cymru.

Dydy’r wlad ddim yn cael ei rhedeg cystal ag y dylai gyda 60 aelod, meddai Jess Blair wrth golwg360.

Mae’r Cytundeb Cydweithio rhwng Plaid Cymru a Llafur Cymru yn nodi ymrwymiad i ddiwygio’r Senedd, gan gynnwys cefnogi cynlluniau i gynyddu nifer yr aelodau i rywle rhwng 80 a 100.

Mae disgwyl i Bwyllgor Diben Arbennig y Senedd gyflwyno adroddiad gyda chyfarwyddiadau polisi er mwyn i Lywodraeth Cymru allu deddfu ar y mater erbyn diwedd mis Mai eleni.

Daw sylwadau Jess Blair wedi i’r Ceidwadwyr Cymreig ddatgan eu gwrthwynebiad i’r cynlluniau, gan dynnu sylw at y gost ariannol.

“Mae’r Senedd, ers cael ei chreu yn 1999, wedi bod dan-gapasiti’n ofnadwy,” meddai Jess Blair.

“Felly rhifau yw’r peth cyntaf, a be’ mae hynny’n ei olygu yw ei bod hi’n methu gweithio’n effeithiol fel Senedd.

“Rydych chi’n edrych ar aelodau’n eistedd ar sawl pwyllgor yn craffu ar ddeddfwriaeth a chyllidebau allweddol sy’n effeithio ar wasanaethau cyhoeddus hanfodol, ac yn trio jyglo popeth yn hytrach na gallu craffu’n effeithiol a gwella’r ddeddfwriaeth.”

Ers cael ei ffurfio, mae’r Senedd wedi derbyn pwerau ychwanegol, a dydy 60 aelod – neu ychydig dros 40 ar ôl hepgor gweinidogion, arweinwyr y pleidiau, a’r Llywydd – ddim yn ddigon i graffu ar yr holl faterion, yn ôl Jess Blair.

Yn 2014, fe wnaeth adroddiad gan ERS argymell cynyddu maint y Senedd i 100 o aelodau.

“Ond, fe wnaeth y panel arbenigol argymell rhwng 80 a 90, felly dw i’n meddwl bod rhywle rhwng 90 a 100 yn edrych fel opsiwn tebygol,” meddai.

“Mae a wnelo hyn â chreu Senedd sy’n addas ar gyfer y dyfodol, a pheidio gorfod ailymweld â hyn.

“Bydd gennym ni rywbeth yn ei le fydd yn gweithio ar gyfer pobol Cymru.”

Cost peidio cynyddu’r maint?

Mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn gwrthwynebu’r cynlluniau i gynyddu maint y Senedd, gan ddweud y gallai’r arian gael ei ddefnyddio i dalu am gannoedd o athrawon, doctoriaid, neu nyrsys.

Yn ôl ystadegau gan Elin Jones, Llywydd y Senedd, byddai cynnal Senedd gyda 90 o aelodau’n costio £12m ychwanegol y flwyddyn.

Ond yn ôl Jess Blair, dylid ystyried beth yw’r gost o beidio gwneud newidiadau, yn hytrach na phris cynyddu nifer yr aelodau.

“Fe wnaeth yr Archwilydd Cyffredinol i Gymru ysgrifennu llythyr at gyn-bwyllgor y Senedd ychydig o flynyddoedd yn ôl yn dweud, yn y bôn, bod craffu da yn talu am ei hun,” meddai.

“Dydych chi ond angen gwneud arbedion bach iawn mewn effeithlonrwydd deddfwriaethol i gyfiawnhau’r cynnydd bach, mewn gwirionedd, yn nifer Aelodau’r Senedd.

“Nid ‘Beth yw cost gwneud hyn?’ ddylai’r cwestiwn fod, ond ‘Beth yw’r gost o beidio ei wneud?’

“Y gost o beidio ei wneud yw ein bod ni ddim yn rhedeg [y wlad] cystal ag y dylem ni.”

 

‘Tystiolaeth glir ac amlwg fod y Senedd yn rhy fach’ – adroddiad

Mae adroddiad a gyhoeddwyd heddiw yn argymell cynyddu nifer Aelodau’r Senedd, cael system etholiadol newydd a chyflwyno mesurau i wella amrywiaeth

Croesawu pwyllgor newydd i drafod cynyddu Aelodau o’r Senedd

Bydd y ‘Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio’r Senedd’ hefyd yn edrych ar y system sy’n ethol aelodau a gwella amrywiaeth o fewn y Senedd