Mae’r Aelod Ceidwadol o’r Senedd dros Aberconwy yn cefnogi galwadau am forlyn llanw yn y gogledd.
Byddai’r prosiect £7bn yn creu 22,000 o swyddi ychwanegol, yn ôl asesiad economaidd Prifysgol Glyndŵr, ac mae Janet Finch-Saunders wedi croesawu hynny.
Yn ôl Henry Dixon, cadeirydd Ynni Llanw gogledd Cymru, byddai’r morlyn – a fyddai’n ymestyn o Brestatyn i Landudno – yn cynhyrchu digon o drydan i bweru pob cartref yng Nghymru.
“Mae’r syniad o gael morlyn llanw yng ngogledd Cymru yn eithriadol o gyffrous, a byddai’n rhoi hwb i swyddi a diwydiant lleol,” meddai Janet Finch-Saunders.
“Fel cenedl sy’n gyfoethog mewn adnoddau, dylen ni ddefnyddio ein holl botensial er mwyn cyfrannu at ynni adnewyddadwy gwyrdd.”
Diogelwch ynni
Ychwanega Janet Finch-Saunders fod y rhyfel yn Wcráin wedi pwysleisio pa mor bwysig yw hi i genhedloedd y gorllewin fod mor hunangynhaliol â phosib o ran diogelwch ynni.
“Mae’r Senedd a San Steffan wedi bod yn trafod yn ôl ac ymlaen ers tro am brosiectau ynni mawr fel morlynau llanw, a dylai’r rhwystrau sydd ar ôl gael eu hystyried o ddifrif os ydym ni am ddangos i bobol Cymru ein bod ni o ddifrif,” meddai.
“Mae fy etholwyr eisiau gweld Llywodraeth y Deyrnas Unedig a’r llywodraeth ddatganoledig yn cydweithio i greu swyddi a diwydiant ac mae’r cynigion sydd wedi cael eu rhoi at ei gilydd gan Henry Dixon yn ateb nifer o’r gofynion hynny.
“Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi cyhoeddi’n barod ei bod hi am fuddsoddi £20 miliwn y flwyddyn mewn ynni llanw, felly mae popeth yn barod i ynni llanw wneud argraff anferth yng Nghymru.”
Byddai’r morlyn yn cael ei ystyried yn brosiect Seilwaith Stretegol Cenedlaethol, gan olygu mai gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig y byddai’r gair olaf.