Mae pryderon am ddyfodol y Colegau Haf sy’n hyfforddi athrawon i ddysgu trwy gyfrwng yr iaith Wyddeleg.
Daw hyn ar ôl i CONCOS, y sefydliad sy’n cynrychioli’r colegau haf, ddatgelu effaith y penderfyniad gan y trefnwyr Coláiste na bhFiann i’w canslo nhw yr haf yma o ganlyniad i Covid.
Yn ôl arolwg gan CONCOS, fe fydd tua 1,000 yn llai o gartrefi’r Gaeltacht, lle mai’r Wyddeleg yw’r brif iaith, yn derbyn myfyrwyr o’r colegau haf ac mae hynny’n cyfateb i ryw 3,000 o gyrsiau i gyd.
‘Does dim profiad trochi’n debyg i aros gyda theuluoedd’
“Mae’r sector Colegau Haf yn hollbwysig, ac fe fu gan y Colegau rôl arbennig i’w chwarae ers iddyn nhw gael eu sefydlu’n golegau gyntaf i hyfforddi athrawon Gwyddeleg,” meddai Mairéad Ní Fhatharta, cadeirydd Meitheal Gaeltachta, Conradh na Gaeilge.
“Wrth gwrs, ers cynifer o flynyddoedd bellach, mae’r Colegau wedi’u hanelu at fyfyrwyr ail lefel (ail iaith), ac maen nhw wedi chwarae rhan allweddol wrth rymuso’r myfyrwyr hyn yn yr iaith Wyddeleg, wrth eu hysgogi nhw i ddefnyddio’r iaith ac wrth ddangos pwysigrwydd yr iaith Wyddeleg fel rhan o’u hunaniaeth.
“Mae rôl y Colegau fel rhan o isadeiledd y Gaeltacht yn glir iawn, ac mae modd ei gweld yn yr ymchwil oedd yn dangos bod y sector yma’n werth 50m Ewro i economi’r Gaeltacht.
“Mae’n werth cofio bod yr arian hwn wedi darparu cefnogaeth gynaliadwy barhaus, arian a wnaeth barhau flwyddyn ar ôl blwyddyn ac a gafodd ei seilio ar yr iaith Wyddeleg, sy’n adnodd naturiol yng nghymuned y Gaeltacht.
“Mae hefyd yn werth cofio bod ystod eang o gymuned y Gaeltacht yn elwa ar y buddsoddiad a ddaw o’r sector, gan gynnwys athrawon, arweinwyr ieuenctid, pobol fusnes, bwytai ac yn y blaen.
“Fodd bynnag, does dim amheuaeth mai’r teuluoedd sy’n derbyn myfyrwyr yw asgwrn cefn y sector colegau, yn nhermau cyflwyno’r iaith ac yn eu rôl ganolog yn y sector i gyd.
“Does dim profiad trochi’n debyg i aros gyda theuluoedd lleol sy’n siarad Gwyddeleg.
“Mae’n glir bellach fod yna argyfwng yn ardaloedd digon o’r cyfryw deuluoedd i ateb y galw, a bod angen mynd i’r afael â hyn fel mater brys.”
‘Argyfwng’
“Mae argyfwng wedi codi o ran mater argaeledd teuluoedd sy’n derbyn myfyrwyr yn y sector Colegau Haf, ac mae’n argyfwng sydd wedi gwaethygu oherwydd Covid, ond yn un sydd ar y gweill dros y blynyddoedd diwethaf,” meddai Peadar Mac Fhlannchadha, Rheolwr Eiriolaeth Conradh na Gaeilge.
“Mae’r argyfwng yma hefyd yn effeithio ar rannau eraill o’r sector.
“Mae hi bellach yn hanfodol ein bod ni’n mynd i’r afael â’r argyfwng ar unwaith ac â phob agwedd sy’n effeithio ar y sector.
“Mae Conradh na Gaeilge yn galw ar Catherine Martin, y Gweinidog Twristiaeth, Diwylliant, Celfyddydau, y Gaeltacht, Chwaraeon a’r Cyfryngau, a Jack Chambers, Gweinidog y Gaeltacht a Phrif Chwip y Llywodraeth, fel y gwnaethon ni yn Hydref 2020, i sefydlu Gweithgor i ystyried y ffordd ymlaen ac i baratoi amryw o strategaethau i ganolbwyntio ar ddyfodol y sector, gan gynnwys mater y dirywiad yn nifer y teuluoedd sy’n derbyn myfyrwyr.”
Y Gweithgor
Rhaid i’r Gweithgor fod yn gyfuniad o’r holl randdeiliaid yn y Colegau Haf, gan gynnwys yr Adran Addysg, Cymdeithas Cydweithredwyr y Gaeltacht, CONCOS, Conradh na Gaeilge, cynrychiolwyr o bwyllgorau cynllunio’r Gaeltacht, cynrychiolwyr o’r byd busnes, Adran y Gaeltacht ac Údarás na Gaeltachta.
Ymhlith y materion y mae angen rhoi sylw iddyn nhw mae:
- ymchwil i ganfod problemau neu heriau tymor byr (2022), tymor canolig (2023-25) a hirdymor (2026-32)
- paratoi argymhellion interim ar gyfer haf 2022, ac o 2023 i 2032 a thu hwnt sy’n codi o’r ymchwil
- archwilio’r camau sydd eu hangen i gadw teuluoedd yn y sector ac i ddenu teuluoedd newydd, gan gynnwys gwybodaeth glir am y cymorth sydd ar gael i’r teuluoedd wrth iddyn nhw ddechrau derbyn myfyrwyr
- y gefnogaeth sydd ar gael i golegau bach i allu rhedeg y Colegau Haf
- nodi rhagor o ddatblygiadau yn y sector, gan gynnwys y ffaith y bydd pob myfyriwr ôl-gynradd yn cael y cyfle i fynd i Goleg Haf o leiaf unwaith
- y cyfle i drefnu cyrsiau ychwanegol yn ystod y flwyddyn
- y cyfle i drefnu cyrsiau ar gyfer grwpiau y tu hwnt i fyfyrwyr ôl-gynradd, megis cyrsiau datblygu sgiliau iaith Wyddeleg i bobol yn y drefn wladwriaethol