Mae ymgyrch ar droed unwaith eto i sicrhau emoji baner Llydaw ar Twitter.
Mae’r cyfrif Twitter @NhuBretagne, tudalen cyfryngau annibynnol i Lydaw, wedi rhannu’r ymgyrch gan ofyn i bobol ei chefnogi.
Bydd yr ymgyrch yn rhedeg tan Fai 19, ac mae’r trefnwyr yn gobeithio denu sylw at y faner yn ystod cyfnod pan fydd yr artistiaid Llydaweg Alvan & Ahez yn cynrychioli Ffrainc yn y gystadleuaeth ganu Eurovision nos Sadwrn (Mai 14).
Ddoe (dydd Llun, Mai 9), roedd nifer o wledydd Ewropeaidd bychain yn dathlu Diwrnod Ewrop, gan alw am hawliau.
Ar ddydd Iau, Mai 19, bydd Llydaw hefyd yn dathlu’r Fête de la Bretagne / Fête de la Saint-Yves.
Mae pobol yn defnyddio’r hashnodau #emojibzh a #GwennHaDu, sef yr enw Llydaweg ar y faner, i ddangos eu cefnogaeth i’r ymgyrch i sicrhau bod yr emoji ar gael ar ddyfeisiau sy’n caniatáu’r defnydd o emojis.
“Plîs, yng Nghymru, a fyddai modd i chi rannu’r testun a’r llun hwn? Diolch. Hashnod #emojibzh neu #bzh neu #gwennhadu…” meddai neges ar dudalen @NhuBretagne.
Ond mae’n ymddangos ar hyn o bryd mai prin yw awydd Twitter i gyflwyno baneri newydd, ac mae brwydr hir Llydaw a’r Llydaweg i gael cydnabyddiaeth ar y llwyfan digidol yn parhau.
Pwysigrwydd cael emoji a phresenoldeb ar-lein
Ddwy flynedd yn ôl, dywedodd Aneirin Karadog, y bardd, perfformiwr, darlledwr ac ieithydd sy’n hanner Llydawr ac a fu’n byw yn y wlad rai blynydoedd yn ôl, ei bod hi’n hollbwysig i ieithoedd lleiafrifol gael presenoldeb ar-lein.
“Roedd yr Athro David Crystal yn sôn fod angen i ieithoedd lleiafrifol gael presenoldeb ar-lein os oedden nhw am oroesi,” meddai wrth golwg360 ar y pryd.
“Mae Prifysgol Bangor wedi gwneud lot o waith ar iaith a thechnoleg. Dw i’n meddwl fod e’n bwysig i iethoedd lleiafrifol, Celtaidd neu’r tu hwnt i hynny, gael presenoldeb ar-lein.
“Hyd yn oed yn fy nghenedlaeth i, ond yn sicr y genhedlaeth sy’n ifancach na fi, os nag yw rhywbeth i’w weld ar-lein, dyw e ddim yn bodoli o gwbl.
“Fi’n credu bod cael y presenoldeb yna’n bwysig. Ond eto, brwydr fach yw hi yn y darlun mawr.”