Bydd Canolfan Arloesi newydd ym maes seibrddiogelwch yn weithredol erbyn diwedd y flwyddyn, diolch i £3m gan Lywodraeth Cymru, sydd eisiau gweld Cymru’n dod yn flaenllaw yn y maes ar draws y byd.
Bydd Llywodraeth Cymru’n buddsoddi’r £3m dros gyfnod o ddwy flynedd, gyda £3m hefyd gan Brifddinas-Ranbarth Caerdydd, a £3.5m o arian cyfatebol gan bartneriaid consortiwm.
Daeth y cyhoeddiad gan y prif weinidog Mark Drakeford ar ddiwrnod cynta’r gynhadledd seibrddiogelwch CYBERUK 2022 yng Nghasnewydd sy’n cael ei rhedeg gan y Ganolfan Seibrddiogelwch Genedlaethol, sy’n rhan o GCHQ.
Prifysgol Caerdydd fydd yn rhedeg y ganolfan newydd, ar y cyd â phartneriaid sy’n cynnwys Airbus, Alacrity Cyber, CGI, Thales NDEC, Tramshed Tech a Phrifysgol De Cymru.
Y gobaith yw y bydd y ganolfan newydd yn gallu hyfforddi mwy na 1,000 o unigolion sydd â sgiliau seibr i dyfu’r sector yng Nghymru gan fwy na 50% erbyn 2030.
Mae 51 o fusnesau’n ymwneud â seibr yng Nghymru, sy’n cyflogi 4% o holl weithwyr seibrddiogelwch y Deyrnas Unedig.
Mae disgwyl i’r ganolfan newydd dynnu partneriaid diwydiant, llywodraeth ac academaidd ynghyd i dyfu’r sector er mwyn i Gymru fanteisio ar dwf y sector yn y Deyrnas Unedig ac ar draws y byd, drwy gydweithio ar sgiliau, arloesi a chreu mentrau newydd.
Erbyn 2030, nod y ganolfan yw:
- datblygu’r sector seiberddiogelwch yng Nghymru fwy na 50% o ran nifer y busnesau;
- denu mwy nag £20m mewn buddsoddiad ecwiti preifat i ddatblygu tua 50% o’r busnesau hyn;
- bod wedi hyfforddi mwy na 1,000 o unigolion seiber-fedrus.
Oherwydd y dull gweithredu cydgysylltiedig a’r màs critigol sydd wedi’i greu, bydd y ganolfan yn dod yn bartner busnes craidd i sefydliadau seiberddiogelwch mawr yn natblygiad “Cyber Park” Cheltenham, y Deyrnas Unedig ehangach a gweddill y byd.
Bydd y ganolfan yn helpu i ddenu ac angori’r dalent seiberddiogelwch orau yng Nghymru, a fydd hefyd o fudd i’r economi sylfaenol leol.
‘Cefnogi a diogelu rhannu gwybodaeth’
“Mae Llywodraeth Cymru yn falch o gyd-ariannu cenhadaeth Hwb Arloesedd Seibr i drawsnewid Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn un o glystyrau seiber mwyaf blaenllaw’r DU erbyn 2030,” meddai’r prif weindiog Mark Drakeford.
“Mae’r pandemig wedi amlygu pa mor bwysig yw arloesi ym maes seiber o ran cefnogi a diogelu rhannu gwybodaeth tra’n cynnig data a mewnwelediad i helpu i gadw’r rhanbarth i symud a thyfu.”
Mae David TC Davies, Gweinidog Llywodraeth y Deyrnas Unedig, wedi croesawu’r cyhoeddiad.
“Rwy’n falch iawn o weld y ganolfan newydd fyd-eang hon yn agor gyda chefnogaeth fel rhan o fuddsoddiad £375m Llywodraeth y Deyrnas Unedig i fargen Prifddinas-Ranbarth Caerdydd,” meddai.
“Bydd hyn yn dod â swyddi a thwf i’r ardal yn ogystal â rhoi Cymru wrth galon y diwydiant seiberddiogelwch.”
‘Ychwanegiad i’w groesawu’
Dywedodd Chris Ensor Dirprwy Gyfarwyddwr Twf Seiber, y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol:
“Mae’r Ganolfan Arloesi Seiber (CIH) yn ychwanegiad i’w groesawu i ecosystem seibr-ddiogelwch sydd eisoes yn drawiadol yn ne Cymru, gan ddod â manteision nid yn unig i’r ardal leol ond i’r Deyrnas Unedig gyfan,” meddai Chris Ensor, Dirprwy Gyfarwyddwr Twf Seibr y Ganolfan Seibrddiogelwch Genedlaethol.
“Mae’r NCSC yn edrych ymlaen at gefnogi’r CIH ar ei daith o sbarduno trawsnewid a thwf arloesi seiber.”
Mae Kellie Beirne, Cyfarwyddwr Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, hefyd wedi croesawu’r cyhoeddiad.
“Rydym yn falch iawn o fod yn cyd-ariannu’r fenter newydd arloesol hon sy’n hanfodol i dwf y sector seibr-ddiogelwch yn y rhanbarth a byddwn yn creu mantais gystadleuol i’r CCR yn erbyn rhanbarthau eraill y Deyrnas Unedig,” meddai.
“Mae Prifysgol Caerdydd a PDC yn cael eu cydnabod gan y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol (rhan o GCHQ) fel Canolfannau Rhagoriaeth Academaidd mewn ymchwil ac addysg.
“Mae eu gwaith yn sail i ymchwil arloesol sydd wedi arwain at gwmnïau deillio a busnesau bach a chanolig ac wedi’u trosi’n fusnesau mwy.
“Mae hyn yn creu cadwyn gyflenwi gref a chynaliadwy yng Nghymru, sy’n cael ei chydnabod a’i gwerthfawrogi gan ei busnesau a’i phartneriaid gwasanaethau cyhoeddus sydd hefyd â rhan sylweddol yn nyfodol y sector hwn.
“Mae cael y cynhwysion hyn yn ein gwneud yn ecosystem seiberddiogelwch ragorol yn genedlaethol.”
‘Awyddus i chwarae rhan allweddol’
Yn ôl yr Athro Colin Riordan, Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd, mae’r brifysgol “yn awyddus i chwarae rhan allweddol” yn y datblygiad.
“Diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cymru a CCR, mae Prifysgol Caerdydd yn awyddus i chwarae rhan allweddol mewn clwstwr sy’n cyd-fynd â’n strategaeth arloesi, gan ysgogi partneriaethau masnachol a sector cyhoeddus hirsefydlog i ddatblygu heriau a arweinir gan y farchnad, darparu Eiddo Deallusol, hyrwyddo seiber-gynhyrchion newydd a chwmnïau twf uchel, a datblygu cronfa dalent sy’n bwydo’n uniongyrchol i’r clwstwr,” meddai.