Mae Aelodau Seneddol Plaid Cymru yn rhybuddio y bydd newidiadau i’r system fudd-daliadau etifeddol yn effeithio’n anghymesur ar bobol sy’n byw â phroblemau iechyd meddwl.
Bydd Adran Gwaith a Phensiynau San Steffan yn symud holl hawlwyr budd-daliadau etifeddol i Gredyd Cynhwysol yn fuan.
Ond maen nhw’n bwriadu dweud wrth bob hawliwr fod ganddyn nhw dri mis i wneud cais am Gredyd Cynhwysol neu wynebu colli’r budd-dal yn gyfangwbl.
Yn ôl Liz Saville Roberts a Hywel Williams, Aelodau Seneddol Dwyfor Meirionnydd ac Arfon, gallai pobol â phroblemau iechyd meddwl a phobol a allai fod yn rhy sâl i gysylltu â’r Adran Gwaith a Phensiynau gael eu gadael heb fodd o dalu rhent, prynu bwyd na thalu biliau ynni.
Mae hyn yn “peryglu incwm cyfan” pobol yn ystod argyfwng costau byw, meddai’r ddau.
Yn ôl ystadegau o Lyfrgell Tŷ’r Cyffredin, mae 5,823 o aelwydydd yng Ngwynedd yn dal i dderbyn budd-daliadau etifeddol a chredydau treth, ac yn wynebu cael eu symud i Gredyd Cynhwysol.
Dydy 41% o hawlwyr budd-daliadau Cymru heb gael eu symud i Gredyd Cynhwysol eto.
‘Pryder ac ansicrwydd’
Dywed Hywel Williams a Liz Saville Roberts fod llawer o’r bobol hyn yn fregus ac yn dioddef problemau iechyd meddwl a chorfforol dwys.
“Gall rhai fod yn rhy sâl i lenwi ffurflenni neu ddim yn deall y broses y gofynnir iddynt ei dilyn. Iddynt hwy, mae parhad cymorth ariannol yn hanfodol,” meddai’r ddau.
“Bydd yr argyfwng costau byw yn ychwanegu at y pryder a’r ansicrwydd y mae llawer o hawlwyr yn ei deimlo bob dydd. Y peth olaf sydd ei angen arnynt yw bygythiadau y bydd eu budd-daliadau yn cael eu hatal ymhen tri mis gyda chymorth cyfyngedig gan y llywodraeth.
“Mae peryglu eu hincwm trwy osod terfynau amser a disgwyl iddynt brosesu gwybodaeth gymhleth yn afresymol. Nid oes gan bawb fynediad i’r rhyngrwyd i gofrestru hawliad tra bod llawer o hawlwyr sydd ag anghenion iechyd hirdymor angen cymorth parhaus.
“Ni ddylai unrhyw un sy’n destun trosglwyddiad o daliadau budd-dal etifeddol i Gredyd Cynhwysol gael eu budd-dal presennol wedi’i atal nes eu bod wedi sefydlu hawliad i Gredyd Cynhwysol.
“Mae budd-dal etifeddol fel Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (ESA) yn achubiaeth i’n hetholwyr mwyaf bregus, gyda nifer ohonynt ac iechyd meddwl gwael iawn ac maent yn dioddef nifer o gyflyrau iechyd. Yr hyn sydd ei angen arnynt yw cymorth, nid straen pellach, ac ansicrwydd.
“Rydym yn galw ar yr Adran Gwaith a Phensiynau i gymryd cyfrifoldeb a darparu cymorth wedi’i dargedu i hawlwyr, yn enwedig y rhai sy’n dioddef o broblemau iechyd meddwl, yn lle gosod terfynau amser afresymol.”