Bydd dathliad yn cael ei gynnal yn y Senedd heddiw (Mai 10) i nodi pen-blwydd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn ddeg oed.

Nod y Coleg pan gafodd ei sefydlu oedd sicrhau cynnydd yn nifer y pynciau prifysgol mae modd eu hastudio drwy’r Gymraeg.

Ers 2019, mae gan y Coleg gyfrifoldeb dros ddatblygu darpariaeth cyfrwng Cymraeg a dwyieithog mewn colegau addysg bellach ac yn y maes prentisiaethau hefyd, ac maen nhw wedi datgan eu bwriad i sicrhau’r un llwyddiant yn y maes hwnnw.

Fe fydd y digwyddiad yn y Senedd, yng nghwmni Gweinidog y Gymraeg ac Addysg Jeremy Miles, yn gyfle i gofio cyfraniad cyn-Gadeirydd y Coleg, Gareth Pierce, a fu farw’r llynedd.

Bydd Dr Ioan Matthews, Prif Weithredwr y Coleg, yn lansio Gwobr Prentisiaethau arbennig er cof amdano.

‘Miloedd wedi elwa’

Erbyn hyn, mae modd astudio rhan o’ch cwrs gradd mewn 33 allan o 37 o’r prif bynciau drwy’r Gymraeg, mae 1,135 o staff prifysgolion yn gallu dysgu drwy’r Gymraeg, ac mae dros 1,900 o fyfyrwyr wedi derbyn ysgoloriaethau is-raddedig i astudio drwy’r Gymraeg.

Yn 2010-11, roedd 3,005 o fyfyrwyr llawn amser yn astudio o leiaf rywfaint o’u cwrs addysg uwch drwy’r Gymraeg.

Erbyn 2019-20, roedd y nifer wedi codi i 4,740.

Yn ôl Dr Ioan Matthews, mae agweddau a’r dirwedd wedi newid ers sefydlu’r coleg ddegawd yn ôl.

“Mae addysg cyfrwng Cymraeg prifysgol yn cael ei gydnabod nawr fel rhywbeth sy’n hollol dderbyniol ac i’w groesawu ac mae degau o filoedd o fyfyrwyr wedi elwa o’r ddarpariaeth a ddatblygwyd ers sefydlu’r Coleg,” meddai.

“Mae hynny wedi paratoi’r tir i’r Coleg allu camu i faes addysg ôl-16, ac ar gychwyn degawd newydd dyma ydy un o’n prif flaenoriaethau.”

‘Astudio yn fy mamiaith’

Am y tro cyntaf eleni, fe wnaeth y Coleg ariannu 20 o swyddi darlithio mewn colegau addysg bellach, ac ers dechrau ar y gwaith yn y maes ôl-16 mae dros ddeng mil o ddysgwyr a phrentisiaid wedi elwau o brosiectau’r Coleg.

“Mae astudio rhan o fy nghwrs drwy’r Gymraeg wedi fy ngalluogi i astudio yn fy mamiaith, iaith rwy’n fwy cyfforddus yn siarad, a dwi hefyd wedi gwella fy Nghymraeg sydd wedi fy ngalluogi i gyfathrebu gyda chwsmeriaid ar lefel broffesiynol,” meddai Ifan Phillips o Grymych, sy’n brentis Gwaith Trydan yng Ngholeg Sir Benfro.

“P’un a ydych chi’n astudio doethuriaeth yn y brifysgol drwy gyfrwng y Gymraeg neu yn dilyn prentisiaeth, mae’r iaith yn perthyn i ni gyd.”

‘Llif parhaus o leisiau’

Ar ddechrau’r ganrif, roedd y bardd, awdur a sgriptwraig, Catrin Dafydd yn fyfyrwraig ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth ac yn Llywydd Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth yn ystod 2003 a 2004.

Roedd yn un o arweinwyr yr ymgyrch i sefydlu’r Coleg ac mae hi bellach yn Gymrawd er Anrhydedd y Coleg.

“Oeddech chi ddim yn gweithredu mewn ynys, roedd e’n llif parhaus o leisiau yn datgan bod y sefyllfa fel ag yr oedd hi ddim yn iawn,” meddai.

“O ran Aberystwyth, roedd hi’n dod yn gynyddol amlwg bod yna ddeisyfiad gan fyfyrwyr i astudio mwy drwy gyfrwng y Gymraeg.

“Daeth yn amlwg wedyn bod myfyrwyr mewn prifysgolion eraill yn cydymdeimlo a doedd yna fawr ddim gwrthwynebiad ymysg myfyrwyr eraill wedyn.

“Er, ar y cyfan, ein bod ni ddim yn genhedlaeth oedd mor wleidyddol â myfyrwyr yr wythdegau, fi’n credu roedden ni’n gallu gweld drwy ddatganoli bod modd gweld geni strwythurau cenedlaethol yn ein cyfnod ni.”

‘Dim bwriad gorffwys ar ein rhwyfau’

Wrth edrych i’r dyfodol mae’r Coleg yn bwriadu parhau â’r gwaith o ddenu hyd yn oed mwy o fyfyrwyr i astudio elfen o’u cwrs gradd trwy’r Gymraeg, cynyddu’r buddsoddiad mewn darpariaeth Gymraeg a dwyieithog yn y sector ôl-16, yn ogystal â chefnogi’r Llywodraeth i sicrhau bod digon o athrawon gyda sgiliau Cymraeg yn hyfforddi i ddysgu yn ein hysgolion cynradd ac uwchradd.

“Os yw myfyriwr yn mentro i fyd gwaith ar ôl cwblhau eu cwrs addysg bellach, brentisiaeth neu radd trwy gyfrwng y Gymraeg neu yn ddwyieithog, yna’r gobaith yw y byddan nhw’n aros yn eu cymunedau gan sicrhau swyddi dwyieithog, magu teulu dwyieithog yn lleol, dod yn rhan o’r gymuned a chadw’r Gymraeg yn iaith fyw ar lefel broffesiynol a chymdeithasol,” meddai Dr Ioan Matthews.

“Mae cymaint wedi ei gyflawni yn ystod degawd cyntaf y Coleg ond does dim bwriad gorffwys ar ein rhwyfau – rôl y Coleg dros y degawd nesa ydy cryfhau ac atgyfnerthu’r hyn sydd wedi ei ddechrau – mae’r daith yn parhau!”