Mae Uchel Lys Catalwnia wedi gosod terfyn amser o bythefnos i Lywodraeth Catalwnia gyflwyno cwota 25% Sbaeneg ym mhob ysgol.
Bydd yn golygu dod â’r drefn bresennol i ben, lle mai’r Gatalaneg yw’r unig iaith weithredol, a therfyn hefyd ar 40 mlynedd o drochi mewn ymgais i roi hwb i’r iaith leiafrifol.
Heddiw (dydd Llun), cafodd y gweinidog addysg Josep González Cambray orchymyn gan ynadon i roi cyfarwyddiadau i ysgolion i sicrhau bod y Sbaeneg yn cael ei defnyddio yn yr ystafell ddosbarth ar gyfer pob pwnc, ac nid dim ond mewn gwersi Sbaeneg.
Ond mae’r weinyddiaeth wedi cyhoeddi y byddan nhw’n apelio yn erbyn y penderfyniad “cyfeiliornus”.
“Rydym yn poeni am y system addysg ac am ddysgu,” meddai’r weinyddiaeth gerbron y wasg.
“Byddwn yn parhau i ddysgu’n holl fyfyrwyr gan ddefnyddio model llwyddiannus.”
Cefndir
Daw dyfarniad yr Uchel Lys yn dilyn dyfarniad y Goruchaf Lys fis Tachwedd y llynedd, oedd yn gofyn bod Catalwnia’n rhoi’r gorau i addysg uniaith Gatalaneg drwy gyflwyno cwota sy’n nodi bod rhaid i 25% o wersi fod trwy gyfrwng y Sbaeneg.
Mae Llywodraeth Catalwnia yn Barcelona wedi bod yn ceisio osgoi’r dyfarniad drwy apelio a cheisio canfod ffyrdd gyfreithiol o gynnal y drefn bresennol.
Fis Mawrth eleni, fe geisiodd y llywodraeth ddarbwyllo’r llysoedd eu bod nhw’n gweithredu ar sail y dyfarniad drwy gyflwyno dwy fenter – polisi iaith ar gyfer ysgolion ar sail ymateb trigolion Catalwnia a chytundeb gan y prif bleidiau o blaid annibyniaeth i gynnal y system drochi bresennol, ddiwrnod cyn cyflwyno’r cwota.
Pe bai’r Bil sydd wedi’i gyflwyno i’r senedd yn cael ei dderbyn, fe fyddai’r Gatalaneg yn cael ei hystyried yn “iaith Catalwnia”, ac fel rhan o hynny, yn brif iaith addysg.
Does dim cytundeb rhwng y pleidiau o blaid annibyniaeth ar y ffordd ymlaen ar hyn o bryd, gyda Junts per Catalunya yn gwrthod ei gefnogi, ond mae’r trafodaethau’n parhau.
Y system drochi
Mae mwy na 1.6m o ddisgyblion a myfyrwyr yng Nghatalwnia.
Ers 1983, mae’r rhan fwyaf o ysgolion yn defnyddio’r Gatalaneg fel iaith addysg er bod y Sbaeneg hefyd yn iaith swyddogol Catalwnia.
Nod y polisi yw i bob disgybl fod yn rhugl yn y ddwy iaith, ond mae ysgolion preifat wedi’u heithrio o’r polisi.