Mae Aelod Seneddol Dwyrain Abertawe wedi amddiffyn Syr Keir Starmer, gan gyhuddo’r Ceidwadwyr o’r “safonau mwyaf llygredig o wyrdroi’r gwirionedd a cheisio’i atal rhag rhoi i’r wlad hon yr arweinyddiaeth mae’n ei haeddu”.

Daw sylwadau Carolyn Harris ar Twitter ar ôl i Syr Keir Starmer ddweud y byddai’n barod i gamu o’r neilltu pe bai ymchwiliad yn ei gael yn euog o dorri rheolau Covid-19 a’i fod e’n cael dirwy.

Wrth siarad â newyddiadurwyr, dywedodd arweinydd y Blaid Lafur ei fod e’n “gwbl glir na chafodd unrhyw reolau eu torri”.

Mae Angela Rayner, ei ddirprwy, hefyd yn dweud y byddai hi’n barod i gamu o’r neilltu pe bai hithau’n cael dirwy.

Mae Heddlu Durham wedi bod yn ymchwilio i ddigwyddiad fis Ebrill y llynedd, pan gafodd nifer o bobol gyrri a chwrw mewn swyddfa yn ystod ymweliad etholiadol.

Mae’r Ceidwadwyr wedi cyhuddo Syr Keir Starmer o “safonau dwbwl”, ar ôl iddo alw ar Boris Johnson, prif weinidog y Deyrnas Unedig, a’r Canghellor Rishi Sunak, i gamu o’r neilltu ar ôl cael dirwy am fynychu partïon yn Downing Street.