Mae Yes Cymru yn cefnogi ymgyrch i sicrhau bod emoji baner Llydaw ar gael yn barhaol i ddefnyddwyr y cyfryngau cymdeithasol.

Mae’r mudiad o blaid annibyniaeth i Gymru yn annog pobol i ddefnyddio’r hashnod #emojibzh “i ddangos bod digon o ddiddordeb” i gael y faner yn un o’r emojis parhaol.

Fe ddaw ar ôl i dudalen Twitter @emojibzh drydar yn gofyn am gefnogaeth.

Ar hyn o bryd, mae’r faner ar gael fel emoji tan Chwefror 9 er mwyn mesur faint o fynd sydd arni.

“Mae Llydaw eich angen chi” meddai neges ar y dudalen yn yr iaith Lydaweg.

“Mae emoji baner Llydaw yn weithredol hyd at 9 Chwefror 2020.

“Defnyddiwch yr hashnod #EmojiBZH ar Twitter er mwyn cefnogi creu yr unig emoji rydyn ni wir ei eisiau.”

Wrth alw am gefnogaeth, mae Yes Cymru yn cynnig nifer o eiriau yn y Llydaweg a’r Gymraeg, sef byd (bed), merch (merc’h), tŷ (ti), dŵr (dour), afal (aval).