lMae Dafydd Iwan wedi cael ei longyfarch yn San Steffan ar lwyddiant diweddaraf ‘Yma O Hyd’ yn y siartiau Prydeinig.
Fe ddaw yn dilyn ymgyrch i sicrhau bod y glasur gan gyn-lywydd Plaid Cymru, a gafodd ei chyhoeddi gyntaf yn 1983, yn cyrraedd y siartiau.
Mae hi eisoes wedi cyrraedd brig y siartiau lawrlwytho ar Amazon ac iTunes, gan sicrhau lle iddi yn 100 ucha’r siartiau ganol wythnos Prydeinig.
Fe fydd cadarnhad ddiwedd yr wythnos hon ym mha safle fydd y gân yn y siartiau diweddaraf dydd Sul, ar ôl iddi gyrraedd rhif 90 erbyn heddiw (dydd Mawrth, Ionawr 14).
Cafodd yr ymgyrch ei sbarduno gan Yes Cymru, wrth i ymgyrchwyr geisio sicrhau bod y gân wleidyddol yn efelychu’r gân Wyddelig ‘Come Out Ye Black and Tans’ gan y WolfeTones.
Y cynnig
Mae’r cynnig gan bedwar aelod seneddol Plaid Cymru “yn llongyfarch y canwr-gyfansoddwr Cymraeg poblogaidd Dafydd Iwan ar gyrraedd rhif un yn siart ganeuon iTunes y Deyrnas Unedig gyda’i anthem eiconig Yma O Hyd”.
Daw’r llwyddiant diweddaraf, meddai’r cynnig, “37 o flynyddoedd ers iddi gael ei rhyddhau gyntaf”.
Dywed fod y gân “yn dathlu goroesiad yr iaith Gymraeg a’r diwylliant dros y canrifoedd, gan ysbrydoli adfywiad yn y gefnogaeth i’r iaith sydd wedi arwain at dair Deddf Seneddol gan gynnwys Deddf Llywodraeth Cymru 1998, a sefydlodd Gynulliad Cenedlaethol Cymru”.
Mae’r cynnig “yn canmol y mudiad annibyniaeth Yes Cymru a’u cefnogwyr am eu hymgyrch lwyddiannus” wrth guro Stormzy a Lewis Capaldi.
Dywed y cynnig ymhellach fod Plaid Cymru “yn edrych ymlaen at lwyddiant o’r newydd i’r gân wrth ysbrydoli gwytnwch parhaus yr iaith Gymraeg a’i diwylliant”.