Mae trafodaethau ar y gweill rhwng cynghorau yn y de-ddwyrain a’r canolbarth er mwyn dod o hyd i safle addas i adeiladu ysgol uwchradd Gymraeg ar y cyd.
Yng nghyfarfod Pwyllgor Craffu Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent ddydd Mawrth (Ionawr 30), cafodd cynghorwyr eu diweddaru ynghylch cynigion adeiladau ysgol hirdymor.
Fis Ionawr 2022, fe wnaeth Llywodraeth Cymru ailenwi Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif yn Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy.
Diben y cynllun newydd hwn yw rhoi mwy o hyblygrwydd i gynghorau, gyda’r disgwyliad eu bod nhw’n creu rhaglen barhaus o brosiectau i weithio arnyn nhw dros y degawd nesaf.
Mae’r adroddiad yn egluro bod disgwyl i brosiectau sy’n cael eu cyflwyno rhwng y flwyddyn gyntaf a’r drydedd flwyddyn fod ag achos busnes llawn yn ystod yr amser hwnnw.
Byddai blynyddoedd pedwar i chwech yn gweld prosiectau’n cael eu cyflwyno i’w datblygu, a bydd angen iddyn nhw fod yn destun proses ymgynghori.
Prosiectau yn yr arfaeth yw prosiectau seithfed i nawfed blwyddyn.
Mae Llywodraeth Cymru’n disgwyl i awdurdodau lleol adolygu eu rhaglen barhaus o leiaf bob tair blynedd.
Ysgol uwchradd ym Mlaenau Gwent?
Datblygiad posib ar gyfer Blaenau Gwent rhwng blynyddoedd pedwar a chwech, o 2027 ymlaen, yw ysgol uwchradd Gymraeg.
Ar hyn o bryd, mae disgyblion ysgolion cynradd Blaenau Gwent yn croesi’r ffin i Dorfaen er mwyn parhau â’u haddysg Gymraeg yn Ysgol Gymraeg Gwynllyw ym Mhont-y-pŵl.
Mae’r adroddiad yn awgrymu na fydd modd i bobol ifanc Blaenau Gwent fynychu Ysgol Gwynllyw o fis Medi 2028.
Mae hyn am fod Torfaen yn ceisio datblygu rhagor o ysgolion cynradd Cymraeg, a bod angen y gofod arnyn nhw ar gyfer eu disgyblion eu hunain.
“Yr ateb yw cael ein hysgol (uwchradd) ein hunain,” meddai’r Cynghorydd David Wilkshire.
Gofynnodd a oes yna drafodaethau ar y gweill rhwng Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, a Chynghorau Sir Powys a Mynwy er mwyn cydweithio ar y prosiect.
“Rydyn ni’n cwrdd bob hanner tymor ar hyn o bryd,” meddai Joanne Mackay, y rheolwr trawsnewid addysg.
“Mae Merthyr, Powys a Sir Fynwy yn tyfu eu darpariaeth gynradd (Gymraeg) hefyd.
“Efallai ei fod yn dipyn o fater cenedlaethol gan ein bod ni i gyd yn gwneud yr un fath.”
Mwy o ysgolion cynradd Cymraeg
Eglurodd Joanne Mackay fod awdurdodau lleol i gyd yn gweithio tuag at sefydlu rhagor o ysgolion cynradd Cymraeg.
Ond mae diffyg ysgolion uwchradd Cymraeg yn creu “tagfeydd”, gyda phlant yn gadael ysgolion cynradd Cymraeg heb unman i fynd i barhau â’u haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg.
“Rydyn ni’n ceisio adnabod darn o dir lle gallen ni ddatblygu darpariaeth i’n gwasanaethu ni i gyd,” meddai.
Unwaith fydd darn o dir wedi’i ganfod sy’n gyfleus ar gyfer y pedwar cyngor, bydden nhw wedyn yn “cyflwyno tystiolaeth” i Lywodraeth Cymru am arian er mwyn adeiladu’r ysgol.
“Mae’n hyfryd cael ysgol Gymraeg, ond os nad oes gennym ni’r athrawon, rydyn ni’n ôl i’r man cychwyn, felly bydd angen i ni fod yn ofalus o hynny – dydy hi ddim mor syml ag y mae’n ymddangos,” meddai’r Cynghorydd David Wilkshire.
Ychwanegodd Joanne Mackay fod Llywodraeth Cymru’n ymwybodol o’r broblem hon, ac yn ceisio datblygu rhagor o athrawon sy’n gallu gweithio trwy gyfrwng y Gymraeg.
Prosiect hirdymor arall all fod ar y gweill yw adeiladu ysgol uwchradd newydd ym Mrynmawr i’w rhestru o 2027 ymlaen.
Gofynnodd y Cynghorydd Jules Gardner, sy’n cynrychioli Brynmawr, am eglurder ynghylch y cynnig hwn.
“Rydyn ni’n edrych ar yr opsiynau gorau, boed hynny’n disodli’n rhannol neu’n llawn, ac mae llawer o bethau i’w hystyried,” meddai Joanne Mackay.
Bydd yr adroddiad yn cael ei drafod gan y Cabinet mewn cyfarfod ym mis Chwefror.